Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Cyn-fyfyriwr Bangor yn ennill y fedal aur yn sioe'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol

Lisa gyda'r Fedal AurLisa gyda'r Fedal AurBu cyn-fyfyriwr a raddiodd mewn BSc Botaneg Amaethyddol yn cystadlu'n ddiweddar yn Sioe Flodau'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yn fyw ar raglen Gardeners' World y BBC gan ennill y fedal aur.

Roedd Lisa Niemy yn cystadlu gyda'i chreadigaeth 'Forge Ahead' yn y categori ‘Beautiful Borders 2015’. Y thema ar gyfer cystadleuaeth y borderi eleni oedd etifeddiaeth ddiwydiannol gorllewin canolbarth Lloegr a lwyddodd i ysgogi dychymyg y cynllunwyr, gan arwain at ddefnydd cryf o ddeunyddiau, cynlluniau plannu dawnus a defnyddio lliwiau'n ysbrydoledig. 

Yn ystod cyfnod y datblygiad diwydiannol enfawr yng ngorllewin canolbarth Lloegr rhwng 1730 a dechrau'r 1900, disgrifiodd nifer o feirdd y sŵn a'r gwres o'r tanau a'r ffwrneisi a gynhyrchodd peiriannau, offer amaethyddol, gwaith haearn a gemwaith.

Roedd cynllun plannu Lisa yn adlewyrchu'r egni folcanig a drama'r gefeiliau, gydag eingion ac offer y gof a'r glo yn dangos swyddogaeth bwysig yr eitemau hyn yn natblygiad treftadaeth gorllewin canolbarth Lloegr.

Yn wreiddiol o Ynys Manaw, graddiodd Lisa o Fangor yn 1982 ac erbyn hyn mae'n rhedeg cwmni dylunio gerddi llwyddiannus, Beautiful Borders, yn Bramley, Surrey. 

Meddai Lisa: “Roedd yn deimlad gwych i ennill medal aur y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol ar ôl gwylio Gardeners’ World, ac ymweld â sioeau Tatton, Chelsea, Malvern a Hampton Court.  Ni ddychmygais o gwbl pan oeddwn yn fyfyriwr ym Mangor y byddwn un diwrnod yn derbyn gwobr mor arbennig. Rwy'n falch iawn o ddweud wrth bobl fy mod wedi astudio ym Mhrifysgol Bangor, mae'n lle braidd yn ddiarffordd, ond cefais amser bendigedig yno!"

Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2015

Site footer