Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Dathlu cyfraniadau eithriadol i addysgu a dysgu

Mae naw aelod o staff wedi derbyn gwobr arobryn Cymrodoriaeth Addysgu Prifysgol Bangor. Mae'r Cymrodoriaethau Addysgu yn cydnabod pwysigrwydd addysgu a dysgu eithriadol o fewn y Brifysgol, ac yn cael eu gwobrwyo ar sail tystiolaeth o fewn pum categori: Ymestyn, Arloesi, Effaith ac Arweinyddiaeth.

Cafodd yr enwebiadau ar gyfer y Cymrodoriaethau eu gwneud gan y Penaethiaid Ysgol, ac roedd eu tystiolaeth yn cael ei adolygu gan Banel y Cymrodoriaethau Addysgu, wedi ei gadeirio gan Yr Athro Nichola Callow, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Dysgu ac Addysgu. Mae aelodaeth y Panel yn cynnwys Cyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu y Colegau, aelodau o CELT, y Ganolfan Gwella Addysgu a Dysgu, a chynrychiolwyr o Undeb y Myfyrwyr.

Meddai'r Athro Nicky Callow, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Dysgu ac Addysgu,

"Mae'r rhai sy'n derbyn Cymrydoriaethau eleni yn ymgorffori rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu o fewn Prifysgol Bangor. Heb os mae'r rhain wedi trawsnewid profiadau dysgu ar gyfer myfyrwyr unigol, grwpiau o fyfyrwyr, modiwlau a rhaglenni. Mwy na hynny, mae'r rhai sy'n derbyn y wobr yma wedi gwella ymarfer da i fewn, ac mewn sawl achos, tu hwnt i'n Prifysgol ni. Tra bod derbyn Cymrodoriaeth Addysgu gan Brifysgol Bangor wastad yn gydnabyddiaeth arbennig o ragoriaeth, mae derbyn y wobr o dan amgylchiadau heriol y flwyddyn hon wir yn eithriadol."

Cyflwynir Gymrodoriaethau Addysgu yn y Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pherianneg eleni i:

Dr Dei Huws - Uwch Ddarlithydd Gwyddorau Eigion

Mae arweinyddiaeth Dei o ran Dysgu ac Ysgolheictod wedi bod yn hir-dymor ac yn rhagorol, ac mae strwythur y trefniadau y mae wedi eu sefydlu, yr ymyriadau iddo roi yn eu lle, y sgiliau sydd wedi eu datblygu a'r ymarfer da sydd wedi ei rannu wedi bod yn ganolig i'r Ysgol yn addasu i ddysgu arlein yn effeithlon iawn. Mae Dei yn angerddol am ansawdd a rhagoriaeth ac wedi trosglwyddo'r angerdd yna yn llwyddiannus i annog staff i fod yn arloesol a dylunio'r addysgu o gwmpas y myfyriwr.

Dei is a highly experienced member of the University’s Quality Assurance and Validation Panel, regularly undertaking audits, international partnership agreements and revalidation events across the University, including assessing programmes in situ at Changsha, China.  Having originally initiated and led College Welsh Medium teaching, Dei led the Coleg Cymraeg Cenedlaethol project to attract more WM students to SOS. 

Mae Dei yn aelod hynod brofiadol o Banel Sicrhau Ansawdd a Dilysu y Brifysgol, yn gwneud archwiliadau, sefydlu partneriaethau rhyngwladol a digwyddiadau ailddilysu yn rheolaidd ar draws y Brifysgol, gan gynnwys asesu rhaglenni mewn lle yn Changsha, Tsieina. Wedi sefydlu ac arwain addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Coleg, arweiniodd Dei project y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn dennu rhagor o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg i'r Ysgol Gwyddorau Eigion.

Yr Athro John Turner, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Eigion

Meddai Dei, "Mae'r dyddiau gorau wastad yn wahanol, ond fel arfer yn cynnwys dosbarthiadau ymarferol ble mae amser i sgwrsio a dod i adnabod myfyrwyr. Gall hynny fod yn y labordy yn 'gwasgu mwd' i ddarganfod ei briodweddau ar gyfer ei ddefnyddio mewn perianneg neu yn y maes, yn gwneud arolygion geoffisegol i wybod be sydd o dan y ddaear heb ddenyddio JCB! Dros y ddwy flynedd dwytha, mae wedi rhoi llawer o bleser i mi a'r tîm gynnig modiwl cwrs daeareg yn y maes ar Ynys Môn - gan fod yr ynys wedi ei ddynodi'n GeoPark gan y Cenhedloedd Unedig. Yn yr Ysgol, mae hefyd wedi bod yn grêt helpu datblygu'r agweddau dysgu ac addysgu, o gwmpas tîm anhygoel o staff ac ysgolheigion sydd wastad yn dod o hyd i ffyrdd gwell o wneud pethau ac wedyn yn cefnogi staff eraill, sydd yr un mor ffantastic, i wneud yr un peth."

Dr Sarah Zylinski - Darlithydd Bioleg y Môr

Mae Sarah yn aelod rhagorol o'r staff addysgu ac mae'r gwaith y mae hi wedi ei wneud gyda myfyrwyr i wella eu profiad, a'r cyfraniad i ddatblygu addysgu ym maes gwyddorau eigion, yn neilltuol. Mae Sarah yn cael clod cyson gan y myfyrwyr y mae hi'n eu dysgu a'r rhai y mae hi'n dod ar eu traws drwy ei rôl fel Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Myfyrwyr o ganlyniad i'r ymdrech ychwanegol yn ei chyflwyniadau wrth ddarlithio, y deunydd cefnogol, yr arweiniad a'r gefnogaeth.

Mae Sarah wedi arwain yr Ysgol o ran gwella trefniadau modiwl (sy'n darogan orau boddhad myfyrwyr). Datblygodd 'un pwynt cyswllt' ar gyfer gwybodaeth ar lefel uwch na modiwl, a chynhyrchu cyfres o lawrlyfrau sgiliau generig mewn iaith addas i fyfyrwyr ar bynciau amrywiol gan gynnwys ymddygiad ar-lein. Mae ei arloesoedd yn cael ei amlygu gan esiampl fel hyn: fersiwn anifeiliaid y dyfnforoedd o 'Top Trumps' sy'n dod a darlithoedd am gynefinoedd morol yn fyw drwy 'dentacl a gên'.

Yr Athro John Turner, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Eigion

Rebecca Jones - Cyswllt Addysgu

Mae Rebecca yn athrawes ymroddedig a brwdfrydig sy'n parhau i ddangos ymrwymiad rhyfeddol i brofiad a chyflogadwyedd myfyrwyr

Mae creadigrwydd Rebecca, ynghyd â'r ffordd y mae hi wedi trefnu a rheoli’r cynllun profiad gwaith wedi bod yn arbennig o lwyddiannus  ar adeg ble mae profiadau fel hyn, a chyflogadwyedd, mor bwysig. Roedd ei chyfraniad at gynllunio a gweithredu Wythnos Groeso ar gyfer yr Ysgol Gwyddorau Naturiol yn rhagorol, ac fe helpodd i gefnogi myfyrwyr ar adeg anodd iawn, pan oeddem i gyd yn gweithio gartref ac yn methu â chwrdd â'n myfyrwyr wyneb yn wyneb. Mae Rebecca yn gydweithiwr gwerthfawr ac mae ganddi lawer i'w gynnig i'r Ysgol a'r Brifysgol o ran ei hystyriaeth o anghenion a galluoedd myfyrwyr.

Yr Athro Nia Whiteley, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Naturiol

Meddai Rebecca, "Rwy'n gefnogwr angerddol o gyflogadwyedd myfyrwyr ac wedi gweithio'n galed i hyrwyddo'r lleoliadau sydd eisoes wedi'u sefydlu yn yr Ysgol. Mae lleoliadau yn ffordd bwysig i fyfyrwyr roi theori ar waith, gan ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr, ac archwilio gyrfa bosibl. Rwy'n helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am ba leoliad sy'n iawn iddyn nhw trwy gydlynu sgyrsiau ar draws y Brifysgol. Rwyf bob amser yn hapus i rannu gwybodaeth a syniadau, ac rwyf wedi helpu i gynghori Ysgolion eraill ar ein dulliau arfer gorau a'n ffyrdd o weithredu lleoliadau yn eu Hysgolion.

Rwy’n ymdrechu i sicrhau amgylchedd diogel, calonogol a chefnogol i fyfyrwyr, yn debyg i’r un a gefais pan astudiais ym Mhrifysgol Bangor fy hun ac sydd, heb os, wedi fy helpu i lwyddo, ac yn fy helpu heddiw i ymdrechu i fod yn well addysgwr. Rwy'n ddiolchgar i weithio unigolion mor gefnogol sydd wedi gwneud fy nhaith addysgu yn brofiad mor gadarnhaol a gwerth chweil."

Llongyfarchiadau i bawb!

Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2021

Site footer