Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Datrys dirgelion gyda Grantiau Ymchwil Leverhulme

Bydd tri grant i Brifysgol Bangor yn galluogi gwyddonwyr i ddatrys rhai o ddirgelion gwyddoniaeth a chofnodi un o ecosystemau mwyaf amrywiol y ddaear.

Dr Olga GolyshinaDr Olga GolyshinaBydd Dr Olga Golyshina o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol yn ymchwilio i organebau nad ydym yn deall llawer amdanynt ac y gellir eu gweld yn ffynnu o dan amodau asidig iawn yn nyfroedd draenio'r hen fwynfeydd copr ym Mynydd Parys ar Ynys Môn.

Bydd Dr Richard Holland, hefyd o'r Yagol Gwyddorau Naturiol, yn arwain Grant Project Ymchwil Leverhulme tair blynedd i hyrwyddo ei waith ar sut mae ystlumod yn dod o hyd i'w ffordd wrth fudo.

Mae'r Athro Roger Thorpe, Athro wedi ymddeol, wedi derbyn Cymrodoriaeth Emeritws am 2 flynedd i greu canllaw ac arweinlyfr maes newydd ar yr ecosystem unigryw a geir ar Ynysoedd Bach y Caribï.

Mae Dr Olga Golyshina wedi'i lleoli yn y Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol ac yn un o dîm sy'n archwilio ffyrdd y gellir harneisio microbau.

Eglurodd Dr Golyshina:
“Mae microbau yn grŵp mawr ac amrywiol, ond mae llai nag 1% wedi cael eu meithrin a’u dadansoddi. Yn benodol, nid ydym yn gwybod llawer am Archaea, grŵp o ficro-organebau un gell sy'n esblygiadol yn wahanol iawn i facteria.

Bydd y project hwn 'Uncovering archaeal dark matter' yn canolbwyntio ar is-set o Archaea sy'n ffynnu o dan amodau asidig iawn. Gan ddefnyddio technegau biolegol microbiolegol a moleciwlaidd o'r radd flaenaf, byddwn yn manylu ar eu ffisioleg, eu mecanweithiau sy'n sail i'w ffyrdd o fyw fel organebau symbiotig neu barasitig a'u swyddogaeth amgylcheddol.

Dr Richard Holland yn tracio ystlymod.Dr Richard Holland yn tracio ystlymod.Mae Dr Richard Holland o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol yn astudio sut mae ystlumod sy'n mudo a welir ar arfordir y Baltig yn Latfia yn defnyddio ciwiau magnetig i lywio wrth fudo.

Mae'r project hwn wedi datblygu o waith blaenorol Dr Holland a gwaith cydweithiwr ymchwil cyfredol MSCA COFUND, Oliver Lindecke.
Eglurodd Dr Holland:

“Rydym yn edrych ar sut mae'r ystlumod lleiaf fel Pipistrellus nathusii a Pipistrellus pygmaeus yn defnyddio'r maes magnetig, yr haul a'u synnwyr arogli i bennu'r cyfeiriad y maent yn mudo.”

Mae'r project yn rhan o gydweithio parhaus rhwng Prifysgol Bangor, Leibniz Institute for Zoo and Wildlife ym Merlin, a'r Papa Ornithological Station yn Latfia.

Mae tîm yr Athro Thorpe wedi astudio ecoleg yr Ynysoedd Bach ers 30 mlynedd. Yn ogystal â chynhyrchu canllaw ac arweinlyfr maes cyfoes, mae'r tîm yn gobeithio darganfod rhywogaethau newydd.

Eglurodd yr Athro Thorpe: "Mae'r Ynysoedd Bach yn fan pwysig o ran bioamrywiaeth gyda nifer o rywogaethau na welir yn unman arall ar wahân i'r lleoliad hwn. Mae ymlusgiaid gan Athro Roger ThorpeAthro Roger Thorpegynnwys neidr leiaf y byd, neidr brinnaf y byd, a rhywogaethau sydd dan fygythiad difrifol, neu rywogaethau sydd mewn perygl yn dominyddu ac yn chwarae rhan ganolog yn yr ecosystem ddaearol. Fodd bynnag, mae bygythiadau cadwraeth gan gynnwys colli cynefinoedd, cyflwyno anifeiliaid fel geifr, llygod mawr, cŵn a chathod sy'n dinistrio'r llystyfiant neu'n lladd yr ymlusgiaid a'r rhywogaethau goresgynnol sy'n trechu yn erbyn rhywogaethau brodorol neu'n croesrywio â nhw."  

Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2020

Site footer