Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Diwrnod Agored yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor hefo’r Gymdeithas Ymlusgolegol

Bydd Casgliadau Hanes Natur y Brifysgol ar agor i’r cyhoedd ar Ddydd Sadwrn 16 o Ebrill rhwng 11yb i 3yp.

Bydd cyfle i weld Amgueddfa Hanes Natur y Brifysgol, sydd ddim ar agor i’r cyhoedd yn arferol, er mwyn dysgu mwy am yr anifeiliaid a’r planhigion sydd i’w gweld yno. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i’r gwirfoddolwyr fydd ar gael, a bydd yna hefyd cornel gweithgareddau i blant o bob oedran.

Mae’r digwyddiad yma wedi cael ei drefnu ar y cyd hefo Cymdeithas Ymlusgolegol y Brifysgol a bydd cyfle i weld a gafael mewn nadroedd ac anifeiliaid byw eraill ar y dydd.

Bwriedir gwella mynediad i gasgliadau amgueddfeydd cudd y Brifysgol trwy ‘r prosiect ‘Ymgysylltu â Chasgliadau: Ehangu Mynediad at Dreftadaeth Gwynedd’ sydd wedi cael ei ariannu’n rhannol gan y Gronfa Treftadaeth Loteri. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl lleol ac ymwelwyr i fwynhau a dysgu o’r creiriau sydd yn cael eu harddangos.

Dywedodd Dr Rosanna Robinson, Curadur yr Amgueddfa “Rydym yn bwriadu agor Amgueddfa Brambell yn fwy aml er mwyn rhoi mynediad i’r cyhoedd. Mae hyn yn adeiladu ar lwyddiant Gwyl Wyddoniaeth y Brifysgol sydd wedi bod yn boblogaidd ac mae’r Amgueddfa yn cael ei fynychu’n dda ar y diwrnodau yma.”

 

Lleolir Adeilad Brambell dros ffordd i ASDA ac mae cyfeiradau ar gael ar y gwefan http://www.bangor.ac.uk/tour/MapLleoliad.pdf

 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2016

Site footer