Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Diwrnod Gwenwyn yn mynd o nerth i nerth

Yn ddiweddar, cynhaliodd Cymdeithas Herpetolegol Prifysgol Bangor ei phedwerydd Diwrnod Gwenwyn blynyddol. Cynhaliwyd y digwyddiad yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol, lle rhoddodd sawl arbenigwr sgyrsiau ar nifer o bynciau yn y maes a lle cafodd y cyfranogwyr gyfle i weld arddangosiad byw o ymlusgiaid gwenwynig, yn cynnwys Cobra, Anghenfil Gila ac amrywiaeth o wiberod. Noddir y digwyddiad yn rhannol gan Gymdeithas Herpetolegol Prydain a’r Gymdeithas Herpetolegol Ryngwladol.

Y rhai yr oedd yn cymryd rhan yn Niwrnod Gwenwyn 2014.Y rhai yr oedd yn cymryd rhan yn Niwrnod Gwenwyn 2014.

Eleni, roedd y siaradwyr yn cynnwys Dr Ulrich Kuch o Brifysgol Goethe, Frankfurt; yr Athro Anna Nekaris, sy’n arbenigo yng ngwenwyn y Loris Araf a David Warrell, Athro Emeritws mewn Meddygaeth Drofannol, Prifysgol Rhydychen – un o brif arbenigwyr meddygol y byd mewn trin dioddefwyr cnoadau gan nadredd. 

Ac yntau’n gefnogwr brwd i’r Diwrnod Gwenwyn, ac yn un o’i brif siaradwyr cyson, dywedodd yr Athro Warrell: “Mae Diwrnod Gwenwyn yn mynd o nerth i nerth. Mae aelodau’r gynulleidfa’n gymysgedd amrywiol o wyddonwyr o bob oedran, ynghyd â chadwraethwyr, herpetolegwyr a selogion amatur ym maes ymlusgiaid. Mae’r naws yn gyffrous, gydag eiconoclastiaeth iach a rhyddid i fynegi syniadau newydd ynglŷn â phob agwedd ar esblygiad, biocemeg, perthnasedd therapiwtig a meddygaeth yn ymwneud â gwenwynau ac anifeiliaid gwenwynig.

“Mae safon y cyflwyniadau heb ei hail. Delweddau gwych, perfformwyr gwych yn dangos argyhoeddiad gwirioneddol ac, yn bwysicaf oll, gwyddoniaeth wych. Daeth y llif arferol o ddoniau newydd i’r cyfarfod eleni. A bod yn onest, cefais fod y digwyddiad yn llawn ysbrydoliaeth ac yn gwneud i bobl deimlo’n ifanc, a hoffwn gludo’r holl gyfranogwyr – pob copa walltog ohonynt – i’r Gyngres Ryngwladol ar Wenwyneg y byddaf yn ei chynnal yn Rhydychen fis Medi nesaf. Llongyfarchiadau i Brifysgol Bangor am greu achlysur mor unigryw, a gobeithiaf fod dyfodol iddo.”

Roedd y cyflwynwyr yn cynnwys hefyd Mark O’Shea, cyflwynydd teledu o fri rhyngwladol ac un o brif arbenigwyr y byd ym maes ymlusgiaid.  Roedd ei gyflwyniad ar “Secretive Serpents” yn trafod dosbarthiad ac amrywiaeth y Genws Elapid Toxicocalamus yn Gini Newydd.

Meddai Mr O’Shea: “Rwy’n credu bod Diwrnod Gwenwyn ym Mhrifysgol Bangor yn un o’r dyddiadau pwysicaf yng nghalendr herpetolegol y DU, hyd yn oed i’r herpetolegwyr, y sŵolegwyr a’r gwenwynegwyr hynny y gellid barnu eu bod braidd yn hen i fod yn gweithio.”

“Er y gwyddom i gyd fod llawer o ymlusgiaid yn wenwynig, ac felly hefyd y rhan fwyaf o amffibiaid, mae’r Diwrnod Gwenwyn yn ehangu ein gwybodaeth i gwmpasu nifer o ddosbarthiadau eraill o anifeiliaid, ac yn arddangos union amrywiaeth y creaduriaid gwenwynig a geir yn Nheyrnas yr Anifeiliaid.

O anelidau i arthropodau, o bysgod y cerrig i nadredd ac o’r hwyatbig i brimatiaid, mae rhywbeth i bawb. Yn bendant, achos o “Beth yw eich gwenwyn chi?”

Simon Maddock feddyliodd am y syniad, yn 2010, tra oedd yn fyfyriwr sŵoleg ym Mangor; ar hyn o bryd, ac yntau bellach ym mlwyddyn olaf ei PhD yn Llundain, mae’n parhau i drefnu’r digwyddiad gyda Chymdeithas Herpetolegol y Brifysgol.

Mae Simon yn cofio: “Sefydlwyd y digwyddiad hwn am fod rhai o brif arbenigwyr y Byd ar esblygiad gwenwyn yn gweithio ym Mhrifysgol Bangor ac â chysylltiadau agos ac Ysgol Feddygaeth Drofannol Lerpwl sy’n arbenigo mewn triniaethau ar gyfer cnoadau gan nadredd. Nodwyd bod angen dod â phobl sy’n gweithio mewn gwahanol agweddau ar wenwyn ynghyd, a hynny mewn amgylchedd gwyddonol sydd hefyd yn gyfeillgar a hamddenol. Mae’r Diwrnod Gwenwyn wedi mynd o nerth i nerth, gan ddenu mwy na 160 o gynadleddwyr eleni.”

Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2014

Site footer