Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Diwrnodau Agored Prifysgol Bangor i rymuso'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr

Nod Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg Prifysgol Bangor yw dangos nad cenhedlaeth o liprod yw ein pobl ifanc trwy gyhoeddi galwad am fyfyrwyr sy'n benderfynol o wneud gwahaniaeth i broblemau'r byd.  

Datgelwyd mewn arolwg* diweddar nad lliprod gwangalon a gor-sensitif yw 85% o bobl ifanc, yn wahanol i'r darlun a gawn ar y cyfryngau, a'u bod yn teimlo bod y grym ganddynt i fynd i'r afael â materion fel y cynhesu byd-eang, lefelau'r môr yn codi a llygredd diddiwedd.

Yn ôl Deon y Coleg yr Athro Paul Spencer: “O ystyried mudiadau fel y streic fyd-eang dros yr hinsawdd a phersonoliaethau fel Greta Thunberg mae angerdd y genhedlaeth hon tuag at yr amgylchedd yn ddigamsyniol. Y cyfan sydd ei angen arnynt yw’r addysg i droi’r ymrwymiad hwnnw’n weithredoedd.”

Bydd cyfres o Ddiwrnodau Agored yn y coleg yn gyfle i wyddonwyr a pheirianwyr y dyfodol weld yn union pa gyrsiau sydd ar gael i roi cychwyn ar y siwrnai honno.

Mae yma raddau sy'n cwmpasu popeth gan gynnwys Sŵoleg Bioleg y Môr a Choedwigaeth, Cyfrifiadureg a Pheirianneg, Eigioneg a Chadwraeth, ac mae'r brifysgol yn un o brif sefydliadau addysgu ac ymchwil y Deyrnas Unedig yn y gwyddorau naturiol.

Mae wedi cyfrannu at nifer o raglenni ymchwil sylweddol, gan gynnwys arolwg Cyfeillion y Ddaear a ddaeth o hyd i ficroblastigau ym mhob un o'r dyfrffyrdd mewndirol a brofwyd yn y Deyrnas Unedig, ac adroddiad pwysig ar y cysylltiad posibl rhwng colli iâ'r môr yn yr Arctig a thywydd eithafol ledled hemisffer y Gogledd.

Trwy ddod i un o'r Diwrnodau Agored, gall darpar fyfyrwyr weld drostynt eu hunain yr hyn y mae Prifysgol Bangor yn ei gynnig, ar gyfer eu hastudiaethau academaidd a'u bywyd cymdeithasol. Mae'r lleoliad, yng nghanol un o ecosystemau mwyaf amrywiol y Deyrnas Unedig, yn berffaith i'r gwyddorau naturiol, ac mae Parc Cenedlaethol Eryri ac arfordir gogledd Cymru yn cynnig maes chwarae gwych i garedigion yr awyr agored.

“Rydyn ni'n ei alw'n 'astudio rhwng y mynyddoedd a'r môr'”, meddai'r Athro Spencer. “Wedi’r cyfan, pa brifysgol arall yn y Deyrnas Unedig sydd yna lle gallwch chi gerdded i ben y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr ac yna mynd i syrffio… i gyd yr un diwrnod? Yn ogystal â hynny, mae'r myfyrwyr sydd yma'n derbyn addysg o'r radd flaenaf gan arbenigwyr yn eu maes sy'n rhoi'r dechrau gorau posibl iddynt yn yr yrfa o'u dewis - fel y mae cyfraddau cyflogaeth uchel graddedigion ein Hysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn ei ddangos."

Mae'r Diwrnodau Agored yn cael eu hyrwyddo ar wefan Prifysgol Bangor a sianeli'r cyfryngau cymdeithasol gan fideo newydd a gyflwynir gan fyfyrwyr o ysgolion y Gwyddorau Naturiol, Gwyddorau Eigion a Chyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig.

Y thema yw 'Gwneud Gwahaniaeth', ac mae'n dangos sut y gall addysgu ac ymchwil y brifysgol effeithio'n uniongyrchol ar ddyfodol y blaned at y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle yn y Diwrnod Agored ar y 13eg Hydref, 27ain Hydref neu'r 9fed o Dachwedd, ewch i https://www.bangor.ac.uk/openday/register.php.cy

 

* Gen Z. Paratoi i Wynebu'r Dyfodol.  Adage/UNIDAYS. 

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019

Site footer