Drysau Amgueddfa Hanes Natur Brambell ar agor
Bydd cyfle i’r cyhoedd gael ymweld ag Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored ar Ddydd Sadwrn 28 Medi 2019.
Mae digwyddiadau Drysau Agored yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar adeiladau hanesyddol, gerddi a lleoliadau diddorol ac anarferol ledled Gwynedd a Chonwy yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.
Cychwynnodd y Casgliad Sŵoleg fel adnodd dysgu, ac fe’i defnyddir hyd heddiw. Mae’r casgliad cyfareddol hwn yn cynnwys ysgerbydau llawn, penglogau, tacsidermi, cyrn carw a sbesimenau wedi’u cadw mewn hylif, rhai sydd yn cael eu harddangos yn yr Amgueddfa yn Adeilad Brambell. Gallwch ymweld ag Amgueddfa Hanes Naturiol y Brifysgol nad yw fel rheol yn agored i'r cyhoedd, a dysgu mwy am yr anifeiliaid sy'n cael eu harddangos.
Bydd yr Amgueddfa ar agor am 11.00yb-1.00yp ac nid oes angen archebu lle.
Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau eraill Drysau Agored ar draws Gwynedd a Chonwy yn ystod mis Medi, ewch i cadw.llyw.cymru/drysau-agored
Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2019