Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Effaith Newid Hinsawdd ar Fwncïod

Mae grŵp o ymchwilwyr Prifysgol Bangor newydd ddarfod astudiaeth yn ymchwilio effaith newid hinsawdd ar fwncïod. 

Dr Isabelle Winder sydd yn darlithio mewn Sŵoleg a Primatoleg ym Mangor yw un o’r ymchwilwyr ac mae’n dweud fod newid hinsawdd yn fater pwysig iawn sy’n wynebu byd natur. Dywedodd,

“Mae’r ddynol ryw yn cael dylanwad enfawr ar y byd naturiol. Ni yw’r grym cryfaf sy’n effeithio ein planed. Rydym yn tueddu i feddwl bod rhai anifeiliaid yn ddigon cryf i wrthsefyll ac i addasu i’r newidiadau y mae dyn yn ei wneud i’w hamgylchfyd. Mae llawer iawn o fwncïod yn dod mewn i’r categori hwnnw ac mi fuasai rhywun yn meddwl y byddai babŵns yn un o’r rhywogaethau hynny a fyddai’n iawn. Penderfynodd fy myfyrwyr a finnau i drio dod o hyd i’r gwir gan ein bod yn meddwl fod babŵns yn cynnig astudiaeth ddiddorol. Os yw effeithiau newid hinsawdd yn anodd eu rhagdybio efallai ei fod yn syniad cychwyn efo rhywogaeth yr ydych chi’n meddwl byddai’n iawn a gweld be sy’n digwydd. Felly mi wnaethom waith i fodelu effaith newid hinsawdd ar chwe rhywogaeth wahanol o’r babŵn a’r hyn a ddarganfuwyd oedd bod yr effaith yn amrywio o un rhywogaeth i’r llall.”

O dan oruchwyliaeth Isabelle, cwblhaodd Sarah Hill yr ymchwil newydd fel rhan o radd Feistr MZool mewn Sŵoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid. Roedd Sarah yn asesu ble y gallai’r babŵns fyw mewn deuddeg sefyllfa newid hinsawdd wahanol ar gyfer pob babŵn. Darganfuwyd y byddai tri o’r chwe rhywogaeth yn wynebu perygl.

Eglurodd Sarah ei chanfyddiad:

“Edrychom ni ar be fyddai’n digwydd pe bai’r tymheredd yn codi 2.6 gradd a 6 gradd dan amodau gwlypach a sychach ac roedd y canlyniadau yn eithaf rhyfeddol. Roedd y Chacma neu’r Babŵn Mynydd o Dde Affrica mewn perygl pa bynnag sefyllfa newid hinsawdd yr oedden nhw ynddo – roedd eu poblogaeth yn disgyn gan eu bod yn colli oddeutu 25% o’i tir. Mae’r babŵn Guinea mewn perygl penodol os yw newid hinsawdd yn dod a crasdir parhaol, a ni fydd y babŵn Kinda yn gwneud yn dda iawn mewn unrhyw senario hinsawdd y dyfodol ond dan fygythiad arbennig os yw’r tywydd yn mynd yn gynhesach neu wlypach. Roedd dwy rywogaeth yn edrych fel tasant yn gallu ehangu ac un arall ddim yn cael ei heffeithio gan niwed mewn hinsawdd.” 

Mae astudio gradd Feistr (ar fwncïod a rhywogaethau eraill sydd yn fregus i newidiadau amgylcheddol sy’n cael eu creu gan ddyn) yn un o nifer o gyfleoedd i astudio’r effaith o newid hinsawdd fel rhan o’ch astudiaethau yng ngraddau Bioleg, Sŵoleg a Gwyddorau’r Amgylchedd ym Mangor. Dywed Dr Isabelle Winder ei fod yn bwnc y dylid pobl ifanc fynd i’r afael ag o. Ychwanegodd,

“Mae pobl ifanc sydd yn dod trwy’r system addysg ar hyn o bryd yn medru cychwyn gwneud rhywbeth am newid hinsawdd. Rydym yn dechrau dod i ddeall a datblygu’r wyddoniaeth, y gwyddorau cymdeithasol, y syniadau economaidd a’r syniadau gwleidyddol i fedru gwneud rhywbeth yn ei gylch o’r lefel lleol i fyny i’r lefel fyd eang felly mae’n rheswm hynod bwysig pam y dylai pobl ifanc heddiw fod yn mynd i’r afael â’r pwnc. Rydym wedi cyrraedd pwynt lle fedrwn ni gychwyn newid pethau fel unigolion ac fel un…a hynny yn awr!”

Gwyliwch y fideo llawn o’r Athro Isabelle Winder yn siarad am Newid Hinsawdd

Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2019

Site footer