Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Effaith newid hinsawdd ar ryddhau CO2 o fawn llawer uwch nag y tybiwyd

Mae cyfnodau o dywydd sych eithafol yn achosi i fawn ryddhau llawer mwy o garbon deuocsid na’r hyn a sylweddolwyd.

O ganlyniad i newid hinsawdd, rhagwelir y bydd rhan helaeth o diroedd mawnog y byd yn profi cyfnodau o sychder mwy dwys ac yn amlach, oherwydd eu lleoliad - gan achosi i’r mawn sychu, a gollwng gafael ar storfeydd helaeth o garbon deuocsid (CO2) i'r atmosffer. Gwlybaniaeth mawn sydd wedi cadw’r aer allan, gan gloi gwerth canrifoedd o garbon deuocsid yn y mawn a fyddai, fel rheol, yn cael ei ryddhau wrth i’r deunyddiau planhigion bydru. Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi darganfod bod effaith y cyfnodau o sychder difrifol yn llawer mwy pellgyrhaeddol na chyfnod y sychder ei hun.

Gan ysgrifennu yn Nature Geosciences (doi 10.1038 NGEO1323), mae Dr Nathalie Fenner a'r Athro Chris Freeman o Brifysgol Bangor yn esbonio sut mae’r sychder yn achosi cynnydd yn y raddfa mae’r CO2 yn cael ei rhyddhau i bara, o bosibl, cyhyd â degawd.  Yn wreiddiol, cymerwyd yn ganiataol bod y rhan fwyaf o'r CO2  yn cael ei  ryddhau o'r mawn sych. Bellach mae’r gwyddonwyr wedi canfod bod  y mawn yn parhau i ryddhau’r CO2,  a gall fod hyn yn cynyddu, hyd yn oed, pan fydd y mawn yn cael ei ail-wlychu efo dyfodiad y glaw. Mae'r carbon yn cael ei golli i'r atmosffer fel CO2 ac i'r dyfroedd sy’n draenio’r mawn-diroedd draenio fel carbon organig toddedig (DOC).

"Wrth i batrymau hinsawdd a glaw newid yn fyd-eang, efallai na fydd ein mawn-diroedd yn cael digon o gyfle i ddod atynt eu hunain rhwng y cyfnodau o golli CO2 a achoswyd gan sychder," eglura awdur y papur, Dr Nathalie Fenner. "Mae’r hyn yr oeddynt yn ystyried fel 'copa' yn y gyfradd o golli carbon yn ystod sychu allan,  bellach yn ymddangos yn llawer mwy hirdymor, efo’r posibilrwydd bod y brig yn raddfa’r rhyddhau’r CO2 yn digwydd wedi i’r cyfnod sychder cychwynnol ddod i ben."

Yn ogystal â chyfrannu ymhellach at newid hinsawdd, gan fod CO2 yn un o'r 'nwyon tŷ gwydr', mae goblygiadau eraill i golli’r carbon o'r mawn. Gyda llawer o’n cyflenwad dŵr yfed yn dod o’r ucheldir, gallai’r carbon organig toddedig sydd yn y dŵr o ganlyniad i'r broses hon, gael effaith andwyol ar ansawdd dŵr yfed. Mae'r cynnydd mewn carbon organig toddedig yn y dŵr yn debygol o ddod â phroblemau ychwanegol a chost i'r diwydiant cyflenwad dŵr yn ei sgil oherwydd ei fod yn amharu ar y broses trin.

Gallai colli carbon arwain yn y pen draw at ddirywiad difrifol y mawndir ei hun. Mae’r rhan fwyaf o’r mawn i’w gael yn gorwedd ar ucheldir hemisffer y gogledd. Gallai colli’r mawn-diroedd hyn gyfrannu at gynnydd mewn achlysuron o lifogydd yn y dyffrynnoedd islaw, gan fod y mawn yn gweithredu fel 'sbwng' naturiol ar gyfer glaw trwm. Byddai hefyd yn cyfrannu at golli cynefinoedd a rhywogaethau yn ogystal â newid edrychiad a naws ein hucheldiroedd.

"Cyfnod y sychder sydd wedi bod yn ganolbwynt i’r gwaith ymchwil a wnaed hyd yn hyn. Mae ein gwaith ninnau wedi cyfrannu drwy adnabod sut y mae'r rhyddhau CO2 yn digwydd," esboniodd yr Athro Chris Freeman, sy'n arwain y Labordy Dal Carbon Mawndir Wolfson ym Mhrifysgol Bangor. "Cawsom ein synnu wrth ganfod bod yr effeithiau mor hir-dymor. Ein hamcan yw bod microbau’n gyfrifol am yr hyn sy’n digwydd a bod y gweithgaredd hwn wedi cael ei sbarduno wrth i ocsigen gymryd lle’r dŵr yn y mawn. Pan ddaw’r dŵr yn ei ôl, mae’r amgylchiadau’n wahanol, a’r microbau’n medru ffynnu hyd nes bod yr amgylchiadau’n dychwelyd i’r hyn yr oeddynt yn wreiddiol"

Mae awduron y papur yn awgrymu y dylid ystyried ymatebion geo-peiriannyddol  i  ddiogelu’r bwrdd dŵr a lleihau effeithiau sychder ar fawn yr ucheldir.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2011

Site footer