Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymweld i glywed am 25 mlynedd o ymchwil

Yr Athro Chris Freeman yn dangos cyfarpar sy'n dadansoddi nwyon a geir o wlypdiroedd i Dr Emyr Roberts.Yr Athro Chris Freeman yn dangos cyfarpar sy'n dadansoddi nwyon a geir o wlypdiroedd i Dr Emyr Roberts.Bu Dr Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar i gyflwyno darlith ar y cyfleoedd ar gyfer rheolaeth integredig ar ein hadnoddau naturiol i gynulleidfa wadd o staff a myfyrwyr.

Cymerodd Dr Roberts y cyfle i gyfarfod â sawl aelod o staff Prifysgol Bangor sy’n gweithio ar themâu amgylcheddol, gan gynnwys yr Athro David Thomas, Cyfarwyddwr Sêr Cymru, sef Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Carbon Isel, Ynni ac Amgylchedd, yr Athro Colin Jago, Deon y Coleg Gwyddorau Naturiol a’r Athro Chris Richardson, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Eigion. Yn ystod yr ymweliad, cafodd gyfle hefyd i ddysgu mwy am 25 mlynedd o ymchwil ym Mhrifysgol Bangor i wlypdiroedd.

Mae Bangor ar flaen y gad mewn ymchwil yn y maes hwn. Mae’r Athro Chris Freeman, sydd yn Bennaeth ar yr Ysgol Gwyddorau Biolegol, wedi arloesi mewn ymchwil yn y maes ac yn arwain Tîm ymchwil a darlithio Grŵp Gwlypdiroedd Bangor yn yr Ysgol. Mae’r Athro Freeman a’i dîm wedi ymchwilio i feysydd mor eang â defnyddio gwlypdiroedd i drin gwastraff llaethdai hyd at weithgaredd ensymau mewn gwlypdiroedd mangrof. Mae papurau gwyddonol o’u heiddo wedi’u cyhoeddi mewn sawl cylchgrawn gwyddonol o bwys, ac maent wedi cynghori gwleidyddion a gwneuthurwyr polisi ledled y byd, ac eitemau ar eu gwaith wedi cael sylw ar gyfryngau mor wahanol i’w gilydd â Gardeners’ World a’r New York Times.

Bu Dr Emyr Roberts a Dr kathryne Monk, Prif Gynghorydd Gwyddoniaeth CNC hefyd yn ymweld â'r acwaria dŵr croyw. Yma efo'r Athro Chris Freeman. ac ymchwilydd Alix Tyers.Bu Dr Emyr Roberts a Dr Kathryn Monk, Prif Gynghorydd Gwyddoniaeth CNC hefyd yn ymweld â'r acwaria dŵr croyw. Yma efo'r Athro Chris Freeman. ac ymchwilydd Alix Tyers.Meddai Dr Emyr Roberts:

“Ers 25 mlynedd, mae Prifysgol Bangor wedi bod ar y blaen o safbwynt ymchwil a dysgu ym maes gwlypdiroedd, ac mae’n wych fod gennym y fath arbenigedd yma yng Nghymru.”

“Rydym yn dal i ddysgu pa mor bwysig yw ein gwlypdiroedd i ni – nid yn unig o ran y  cynefinoedd unigryw y maent yn eu cynnig, ond hefyd am eu rôl yn atal llifogydd, trin dyfroedd llygredig, amddiffyn yr arfordir ac wrth atal newid hinsawdd.

“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod y buddiannau lluosog a ddaw o wlypdiroedd – ac rydym yn gweithio gydag eraill i’w hadfer, er enghraifft trwy broject Corsydd Môn a Llŷn.

“Rwy’n talu teyrnged i’r Athro Chris Freeman sydd wedi bod yn allweddol wrth arwain tîm ymroddgar o wyddonwyr gwlypdiroedd ym Mhrifysgol Bangor.

“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Phrifysgol Bangor ar ymchwil i wlypdiroedd ac at gymhwyso’r gwaith hwnnw ar gyfer yr amgylchedd yng Nghymru.”

Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2014

Site footer