Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Ensymau Microbaidd Ar Gyfer Glanedyddion, Tecstilau A Cholur Cynaliadwy

Mae tîm Prifysgol Bangor yn rhan o gonsortiwm ymchwil amlddisgyblaethol a ariennir gan yr UE FuturEnzyme, ‘Technolegau'r dyfodol ar gyfer ensymau cost isel i gynnyrch cyfeillgar i'r amgylchedd’

Mae’r partneriaid academaidd a diwydiannol sy’n gysylltiedig yn cael eu harwain gan Gyngor Ymchwil Cenedlaethol Sbaen (CSIC). Eu nodau yw datblygu ensymau microbaidd newydd sy'n fwy cyfeillgar i'r amgylchedd y gellir eu defnyddio wrth weithgynhyrchu cynnyrch defnyddwyr. Dechreuodd y project, FuturEnzyme, y mis hwn ac mae ganddo gyllid o chwe miliwn Ewro o raglen fframwaith Horizon 2020.

Gall fformwlâu cymhleth mewn eitemau a ddefnyddir bob dydd fel glanedyddion, tecstilau a cholur niweidio'r amgylchedd. Mae eu cynhyrchu yn creu llawer iawn o allyriadau carbon deuocsid, yn defnyddio llawer iawn o egni a dŵr ac yn gollwng cynhyrchion cemegol i'r amgylchedd.
 
Mae'r Athro Peter Golyshin yn arwain y tîm a fydd yn cyfrannu o Brifysgol Bangor. Eglurodd:
 
Mae un o’r ffyrdd mwyaf addawol i liniaru’r broblem hon yn seiliedig ar amnewid asiantau cemegol a ddefnyddir mewn prosesau diwydiannol gan ensymau. Gallai eu defnyddio mewn glanedyddion hylifol, yn ogystal ag wrth brosesu tecstilau a chynhwysion cosmetig, leihau allyriadau CO2 42 miliwn o dunelli y flwyddyn, yn ôl amcangyfrifon diweddar.

Er bod ensymau sy'n cwmpasu'r gweithgareddau hyn eisoes yn bodoli ar y farchnad, mae llai na 10% o gynnyrch defnyddwyr cyfredol yn cynnwys ensymau, naill ai oherwydd eu cost uchel neu berfformiad isel."

"Ni all ensymau cyfredol ymdopi â llunio cynnyrch defnyddwyr o ansawdd amgylcheddol uwch. Mae'n hanfodol cynllunio technolegau clyfar yn seiliedig ar genhedlaeth newydd o ensymau â gweithgaredd uwch, sefydlogrwydd a chost is, a all fodloni gofynion defnyddwyr a’r diwydiant," meddai Manuel Ferrer, ymchwilydd CSIC yn y Sefydliad Catalysis (ICP-CSIC) a Chydlynydd y project hwn. 

I gyflawni hyn, bydd consortiwm FuturEnzyme yn canolbwyntio i ddechrau ar lanedyddion, colur a dillad chwaraeon sydd eisoes ar gael ar y farchnad. 

"Nid yw'n ymwneud â dylunio cynhyrchion defnyddwyr newydd a fyddai'n cymryd blynyddoedd i'w marchnata, ond yn hytrach gwella'r rhai sy'n bodoli eisoes i'w gwneud yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd, yn ymarferol ac yn gynaliadwy trwy ymgorffori ensymau yn y broses gynhyrchu", ychwanegodd Ferrer.

“Bydd yr ensymau hyn yn cael eu dewis o amrywiaeth o ficro-organebau a llyfrgelloedd genomig microbaidd yr ydym ni a phartneriaid eraill wedi eu cael o brojectau ymchwil ac arloesi ar y cyd mawr blaenorol,” meddai'r Athro Peter Golyshin, sy'n arwain Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol  Prifysgol Bangor. 

Bydd y dechnoleg yn cyfuno dadansoddiad enfawr o ddata biolegol gan ddefnyddio uwchgyfrifiaduron, biochwilio, peirianneg protein, biotechnoleg a phrofion cyn-ddiwydiannol i ddewis yr ensymau gorau o blith miloedd o ensymau posib, ar raddfa na fu'n bosibl o'r blaen.

Mae consortiwm amlddisgyblaethol FuturEnzyme yn cynnwys 16 o bartneriaid academaidd a diwydiannol Ewropeaidd (arweinwyr y farchnad a busnesau bach a chanolig) o Sbaen, yr Almaen, yr Eidal, Awstria, Portiwgal, y Deyrnas Unedig a'r Swistir. Bydd tîm Bangor (Peter Golyshin, Alexander Yakunin, Olga Golyshina, Marco Distaso a Tatyana Chernikova) yn canolbwyntio ar gynhyrchu trwybwn uchel, ar raddfa fach a nodweddu ensymau posib sy'n bwysig mewn gweithgynhyrchu tecstilau, cynhyrchion gofal personol a glanedyddion yn ddiwydiannol. Bydd Prifysgol Bangor yn derbyn EUR 550k ar gyfer y project hwn, a ariennir am bedair blynedd. 

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2021

Site footer