Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Gallai bywyd fodoli yng nghymylau Iau ond nid yn Fenws

Ers rhai degawdau, mae teithiau i archwilio’r gofod wedi chwilio am dystiolaeth o fywyd y tu hwnt i'r Ddaear lle rydym yn gwybod bod cronfeydd mawr o ddŵr, fel llynnoedd neu gefnforoedd, yn bodoli neu wedi bodoli o'r blaen. Fodd bynnag, mae'r ymchwil newydd yn dangos nad maint y dŵr sy'n bwysig ar gyfer gwneud bywyd yn hyfyw, ond crynodiad effeithiol o foleciwlau dŵr - a elwir yn 'weithgaredd dŵr'.   

Daeth yr astudiaeth newydd hefyd i’r casgliad nad yw ymchwil a gyhoeddwyd gan dîm annibynnol o wyddonwyr y llynedd yn honni bod y nwy ffosffin yn awyrgylch Fenws yn dynodi bywyd posibl yng nghymylau asid sylffwrig Venus, yn gredadwy. 

Trwy'r project ymchwil arloesol hwn, dyfeisiodd Dr John E. Hallsworth o'r Ysgol Gwyddorau Biolegol yn Queen's a'i dîm o gydweithredwyr rhyngwladol ddull i ganfod gweithgaredd dŵr atmosfferau planedau. Gan ddefnyddio eu dull i astudio cymylau asid sylffwrig Fenws, gwelodd yr ymchwilwyr fod y gweithgaredd dŵr fwy na chan gwaith yn is na'r terfyn isaf y gall bywyd fodoli ar y Ddaear. 

“Mae amrywiaeth enfawr o ficro-organebau eithafoffil yn byw mewn gwahanol ecosystemau ar y Ddaear sy’n elyniaethus i fywyd,” meddai Dr Olga Golyshina, cyd-awdur yr adroddiad o Ysgol Gwyddorau Naturiol, Prifysgol Bangor, a gyfrannodd at yr astudiaeth hon fel arbenigwr mewn eithafoffilau a hyperacidoffiliau, “Ond ni fyddai unrhyw ficrobau y gwyddom amdanynt ar hyn o bryd yn gallu byw ar amodau tebyg i’r rhai mewn defnynnau asid sylffwrig yng nghymylau Fenws”.  

Mae'r ymchwil hefyd yn dangos bod gan gymylau Iau grynodiad digon uchel o ddŵr, yn ogystal â'r tymheredd cywir, i fywyd fodoli yno. Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn Nature Astronomy. 

Meddai Dr Hallsworth:  "Mae ein hymchwil yn dangos bod gan y cymylau asid sylffwrig yn Fenws rhy ychydig o ddŵr i fywyd egnïol fodoli, yn seiliedig ar yr hyn rydym yn ei wybod am fywyd ar y Ddaear. Rydym hefyd wedi darganfod y gallai amodau dŵr a thymheredd yng nghymylau Iau ganiatáu i fywyd microbaidd fodoli, gan dybio bod gofynion eraill fel maetholion yn bresennol.”  

“Mae hwn yn ganfyddiad amserol o ystyried bod NASA a’r ‘European Space Agency’ newydd gyhoeddi tair taith i Fenws yn y blynyddoedd i ddod. Bydd un o'r rhain yn cymryd mesuriadau o awyrgylch Fenws y byddwn yn gallu eu cymharu â'n canfyddiad ni." 

Meddai cyd-awdur yr adroddiad, arbenigwr ar ffiseg a bioleg gemegol dŵr, Dr Philip Ball:  

“Mae’r chwilio am fywyd allfydol wedi bod ychydig yn or-syml yn yr agwedd at ddŵr. Fel y mae ein gwaith yn dangos, nid yw'n ddigon dweud bod dŵr hylif yn golygu y gellid byw yno. Mae'n rhaid i ni feddwl hefyd am sut mae organebau tebyg i'r Ddaear yn ei ddefnyddio - sy'n dangos bod rhaid i ni ofyn faint o'r dŵr sydd ar gael mewn gwirionedd ar gyfer y defnyddiau biolegol hynny.”  

Meddai cyd-awdur yr adroddiad,  y gwyddonydd planedau yn NASA, yr Athro Christopher P. McKay: 

“Rydym yn canfod gweithgaredd dŵr atmosfferau heb fodel o unrhyw fath, wedi'i seilio yn unig ar arsylwadau uniongyrchol o wasgedd, tymheredd, a chrynodiad dŵr.” 

Ychwanegodd Dr Hallsworth:  "Rydym hefyd wedi gwneud cyfrifiadau ar gyfer y blaned Mawrth a’r Ddaear ac yn dangos y gellir gwneud y cyfrifiadau hyn ar gyfer planedau y tu allan i gysawd yr haul. Er nad yw ein hymchwil yn honni bod bywyd estron (math microbaidd) yn bodoli ar blanedau eraill yng nghysawd yr haul, mae'n dangos, os yw'r gweithgaredd dŵr ac amodau eraill yn iawn, yna gallai bywyd o'r fath fodoli mewn lleoedd lle nad ydym wedi bod yn chwilio amdano o'r blaen.” 

Mae cyd-awduron y papur hwn yn cynnwys y gwyddonydd planedau Christopher P. McKay (NASA Ames Research Center, CA, UDA); arbenigwr cemeg yr awyrgylch Thomas Koop (Prifysgol Bielefeld, yr Almaen); arbenigwr ar ffiseg a bioleg gemegol dŵr Philip Ball (Llundain, y DU); gwyddonydd biomoleciwlaidd Tiffany D. Dallas (Prifysgol Queen’s, Belfast); arbenigwr bioffiseg-bilen lipid Marcus K. Dymond (Prifysgol Brighton, DU); ffisegydd damcaniaethol María-Paz Zorzano (Centro de Astrobiologia [CSIC-INTA], Sbaen); arbenigwr micrometeoroleg ac aerosol Juergen Burkhardt (Prifysgol Bonn, yr Almaen); arbenigwr ar ficro-organebau eithafoffil Olga V. Golyshina (Prifysgol Bangor, y DU); a ffisegydd atmosfferig a gwyddonydd planedau Javier Martín-Torres (Prifysgol Aberdeen, y DU). 

Ariannwyd yr ymchwil gan Gynghorau Ymchwil y DU (RCUK), Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a'r Weinyddiaeth Wyddoniaeth ac Arloesi. 

  

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2021

Site footer