Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Gradd Fiofeddygol Bangor Ymysg y Gorau ym Mhrydain

Am y trydydd tro yn olynol, mae'r Sefydliad Gwyddor Fiofeddygol wedi achredu cwrs BSc Gwyddor Fiofeddygol Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor am gyfnod arall o bum mlynedd.

Canmolodd y Sefydliad Gwyddor Fiofeddygol y radd am gyfraniad rhagorol y GIG at y cwrs, y lefel eithriadol o foddhad myfyrwyr a'r dystiolaeth bod graddedigion y cwrs yn mynd ymlaen i swyddi da.  Mae dros 30 o raddedigion y cwrs ym Mangor yn gweithio mewn ysbytai yng Ngogledd Cymru ac mae mwy eto yn gweithio mewn ysbytai mewn rhannau eraill o Brydain. Mae’r cwrs hefyd yn ffordd dda iawn o baratoi at astudio mewn ysgol feddygol fel myfyriwr ôl-radd.

Ar ôl y digwyddiad dilysu, dywedodd Cyfarwyddwr y Cwrs, Mr Merfyn Williams: “Rydym yn falch iawn o fod wedi cyrraedd y safon uchel sydd ei angen i gael ein hachredu unwaith eto gan y Sefydliad Gwyddor Fiofeddygol. Rydym wedi cyrraedd y safon mewn partneriaeth â'n cydweithwyr yn y GIG ac mae ein graddedigion yn gymwys ac yn barod ac mae galw mawr amdanynt yn y GIG, mewn diwydiannau biofeddygol, ym maes rheoli, addysg ôl-radd (MSc, PhD), dysgu ôl-radd, meddygaeth, deintyddiaeth, milfeddygaeth a nyrsio." 

Dywedodd Dr Thomas Caspari, Cyfarwyddwr Dysgu yr Ysgol Gwyddorau Biolegol "Oherwydd y rhagolygon ardderchog am swyddi a'r sgorau boddhad myfyrwyr uchel, mae'r recriwtio i'r radd hon yn eithriadol o gryf. Mae'r amgylchedd dysgu bywiog wedi cael ei gryfhau'n ddiweddar gan "Labordy Dysgu Robert Edwards" sy'n cynnwys y cyfarpar diweddaraf posib. Enwyd y labordy er cof am y diweddar Syr Robert Edwards a enillodd gwobr Nobel am ffisioleg yn 2010 am ei waith arloesol ym maes meddygaeth atgenhedlu."

I gael gwybod mwy am y cwrs gradd, cysylltwch â

Mrs Tracey Johnstone

Ysgol Gwyddorau Biolegol

Prifysgol Bangor

Ffordd Deiniol

Bangor LL57 2UW

PRYDAIN

01248 382527

ucas.enquiries@sbs.bangor.ac.uk

Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2013

Site footer