Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Gwibdaith Amser a Hwyl Hanesyddol – ar gael yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell

Os ydych chi'n chwilio am dipyn o deithio amser ac antur hanesyddol, mae Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn ei ddarparu Hanner Tymor Hydref hwn, (26 Hydref a 3 Tachwedd) fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru.

Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor ar agor Dydd Sadwrn, 2 o Dachwedd 11-1 fel rhan o’r Ŵyl. Dyma gyfle i ymweld a’r Amgueddfa sydd ddim ar agor i’r cyhoedd fel arfer, er mwyn dysgu mwy am y sbesimenau sydd i’w gweld yno. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i’r gwirfoddolwyr fydd ar gael, a bydd yna hefyd cornel gweithgareddau i blant o bob oedran.

Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn ddigwyddiad blynyddol a gyflwynir gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru, sef y corff strategol ar gyfer gweithwyr proffesiynol amgueddfeydd ac orielau celf yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae'n cynrychioli dros 100 o amgueddfeydd unigryw achrededig Cymru, o'r rhai bach iawn i'n hamgueddfeydd cenedlaethol gwych. Gyda’i gilydd, mae’r casgliadau amhrisiadwy hyn yn adrodd stori Cymru, ac yn adnodd gwerthfawr ar gyfer archwilio a dysgu am ein hunaniaeth leol a chenedlaethol, a sut rydym wedi byw yma yng Nghymru ers gwawrddydd dynoliaeth. 

Wrth siarad am yr Ŵyl, dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Yr Arglwydd Ellis-Thomas, “Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn gyfle bwysig i’n hamgueddfeydd gwych yng Nghymru gysylltu ymhellach â’u cymunedau lleol, ac i gyffroi cenhedlaeth newydd am ein hanes, ein diwylliant a’n traddodiadau. Mae hefyd yn gyfle gwerthfawr i ymwelwyr â Chymru o bob cwr o’r byd ymgysylltu â stori ein Cenhedl. Mae amgueddfeydd ac orielau yn ganolfannau dysgu, ond maen nhw hefyd yn llefydd llawn antur, gweithgaredd a hwyl, ac mae yna ddigon o hynny yn ystod yr Ŵyl hon!”

Mae ymweliadau ag amgueddfeydd yng Nghymru yn cyfrannu £ 78.3 miliwn i'n heconomi bob blwyddyn. Yn ogystal, maent yn cyfrannu'n gadarnhaol at gyflogaeth a datblygiad gyrfaoedd ac mae ystadegau'n dangos bod ymweld ag amgueddfeydd yn cynyddu ein synnwyr o les yn sylweddol hefyd. 

Dros hanner tymor mis Hydref, ledled Cymru bydd ein hamgueddfeydd yn byrlymu a gweithgaredd o ymweliad Dippy ‘r Dinosor ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd a Diwrnod y Ddraig yn Amgueddfa Rhaeadr i anturiaethau fflachlamp mewn amgueddfeydd gyda'r nos, cyfle i roi cynnig ar fwmeiddio yng Nghanolfan yr Aifft yn Abertawe, teithiwch amser yn ôl i'r Ail Ryfel Byd yn Amgueddfa Gatrodol y Cymry Brenhinol, Caernarfon, dathliad o bopeth Japaneaidd yn Amgueddfa Pont-y-pŵl, cyfle i ail-greu chwedl Henwen yn Oriel Môn, archwiliad o'r lleuad a gwibdaith wyddonol yn yr Amgueddfa'r Glannau, Abertawe a'r cyfle i gael cipolwg ar gasgliad Hanes Naturiol Bramwell Prifysgol Bangor. Os nad oedd hynny'n ddigon, mae yna hefyd cyfle i wneud llusernau a gorymdaith i goffáu'r tân ym Melin Cambrian, 100 mlynedd yn ôl, archwiliad o anatomeg Amgueddfa Cwm Cynon, rhith-realiti yn Big Pit, hwyl Ganol Oesol, helfa am Wali yn Amgueddfa Caerdydd, celf i fabanod yn Oriel Glynn Vivian a llu o grefftau a halibalŵ Calan Gaeaf i'r teulu cyfan mewn amgueddfeydd ac orielau ledled Cymru.

Ac nid ar gyfer plant a theuluoedd yn unig y mae gweithgaredd yr Ŵyl. Bydd sgyrsiau, dosbarthiadau celf i oedolion, cyfle i archwilio casgliad tecstilau Erddig, sesiynau hel atgofion o ddiwydiant gweithgynhyrchu'r Drenewydd, darlithoedd ac ymweliadau y tu ôl i'r llenni a cyfleoedd i agosáu at arteffactau a chasgliadau gwerthfawr y Genedl. A’r newyddion gwych yw bod llawer o ddigwyddiadau’r Ŵyl yn hollol AM DDIM!

Cefnogir Gŵyl Amgueddfeydd Cymru gan Lywodraeth Cymru.

Mae manylion llawn y gweithgareddau yn ystod Gŵyl Amgueddfeydd Cymru ar wefan yr ŵyl: www.museums.wales

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2019

Site footer