Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2015

Mattias Green yn derbyn y wobr "Athro y Flwyddyn"Mattias Green yn derbyn y wobr "Athro y Flwyddyn"Cynhaliwyd y seremoni flynyddol yn dyfarnu Gwobrau Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr ynghyd â gwobrwyo Cynrychiolwyr Cwrs am y bedwaredd tro yn ddiweddar.

Trefnir y digwyddiad gan Undeb y Myfyrwyr ac mae'r Gwobrau Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu cefnogaeth a'u gwerthfawrogiad o'r staff sydd wedi gweithio’n galed a dangos ymroddiad drwy gydol cyfnod y myfyrwyr ym Mangor. Gyda dros 300 o enwebiadau ar draws 11 categori eleni, mae'n amlwg bod myfyrwyr y brifysgol yn cydnabod y cyfraniad gwych gan aelodau staff ar draws pob gwasanaeth ac ysgol academaidd.

Dywedodd Lydia Richardson, Is-lywydd Addysg a Lles Undeb Myfyrwyr Bangor: "Rydym wedi gweld llawer o enwebiadau gwych eleni. Mae hyn yn dangos bod y profiad a’r gefnogaeth a roddir gan ein staff heb ei ail. Mae’r gwobrau yn dangos yn glir bod myfyrwyr yn gwerthfawrogi’r ymdrech a roddir gan staff i’w darlithoedd, adborth, cymorth ac arweiniad.  Heb unrhyw amheuaeth, edrychir ymlaen at y  gwobrau ac maent yn un o’r digwyddiadau sy’n rhoi mwynhad mawr yn ystod y flwyddyn.”

Dywedodd yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor: "Mae'r Gwobrau Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr yn prysur datblygu i fod  yn un o draddodiadau Bangor, ac un a gaiff ei  werthfawrogi gan fyfyrwyr a staff. Mae'n wych gweld cymaint o staff yn cael eu cydnabod. Rydym yn ffodus iawn i gael cymaint o unigolion ymroddedig sy'n mynd i drafferth mawr i sicrhau’r  profiad gorau posib i fyfyrwyr ym Mangor. Mae'n wych  gallu dathlu hyn ynghyd â'r Gwobrau Cynrychiolwyr Cwrs. Mae ein myfyrwyr yn gweithio'n galed i’n helpu i wella pethau ar gyfer eu cyd fyfyrwyr, ac mae’r brifysgol yn gwerthfawrogi eu hymdrechion yn fawr iawn".

Llongyfarchiadau i’r enillwyr haeddiannol iawn yn 2015:

Gwobr Cefnogaeth Fugeiliol Eithriadol

Gillian Griffith, Ysgol Cerddoriaeth

Gwobr am Hyrwyddo Addysg Cyfrwng-Cymraeg

Peredur Webb-Davies, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg

Gwobr Ryngwladol

Stephen Clear, Ysgol y Gyfraith

Goruchwylydd Traethawd Hir/Thesis y Flwyddyn

Nia Whiteley, Ysgol Gwyddorau Biolegol

Aelod o Staff Cefnogi’r Flwyddyn

Elizabeth Williams, Ysgol Seicoleg

Gwobr Adran Gwasanaethau Myfyrwyr

Kate Tindle, Gwasanaeth Cynghori

Athro Ôl-radd y Flwyddyn

Rebecca Jones, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Athro Newydd y Flwyddyn

Matt Hayward, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Gwobr Adborth Ardderchog

Sarah Cooper, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg

Gwobr Agored

Coleen Suckling, Ysgol Gwyddorau Biolegol

Athro/Athrawes y Flwyddyn

Mattias Green, Ysgol Gwyddorau Eigion

 

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2015

Site footer