Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Gwobrau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Bangor 2016

Mae Prifysgol Bangor am ddathlu rhagoriaeth yr ymchwil a gynhyrchir gan y Brifysgol mewn noson Wobrwyo newydd i’w chynnal yn y Brifysgol fis Rhagfyr, a newydd gyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer y Gwobrau.

Bydd y Gwobrau newydd yn rhoi sylw haeddiannol i ymchwilwyr unigol a thimau ymchwil neilltuol y Brifysgol.

Bydd chwe gwobr yn cael eu dyfarnu i unigolion a thimau ymchwil neu brojectau ymchwil penodol. Bydd y Gwobrau yn dathlu llwyddiannau unigol o blith staff darlithio ac ymchwil y Brifysgol ar gyfnodau amrywiol yn eu gyrfaoedd, gan gynnwys sêr disglair addawol, myfyrwyr doethurol a bydd Gwobr Cyfraniad oes yn cael ei dyfarnu hefyd. Yn ogystal â hyn, bydd dwy Wobr am brojectau neilltuol, un ar gyfer y gwyddorau, ac un arall ar gyfer y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Bydd hefyd Gwobr ar gyfer Project rhyngwladol ac un Wobr Arbennig am Gyfraniad Oes.

Mae tri ysgolhaig wedi eu gosod ar y rhestr fer ar gyfer Cyfraniad Oes: Yr Athro Judy Hutchings OBE, (Ysgol Seicoleg), sydd yn gyfrifol am ymchwilio a chyflwyno rhaglenni sydd yn gwella canlyniadau oes ar gyfer plant ifanc ac sydd wedi dylanwadu ar bolisi yng Nghymru; Yr Athro John Witcombe, (Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth), sydd wedi gweithio i wella sicrwydd bwyd i filiynau o ffermwyr yn Asia a’r Athro John Simpson, (Ysgol Gwyddorau Eigion), y gellir dadlau iddo, drwy ei gyfraniadau helaeth yn ystod ei yrfa, greu’r isadeiledd ar gyfer astudiaethau cyfoes ym maes eigioneg ffisegol.

Ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr Wyddoniaeth y mae project sydd wedi arwain at ddealltwriaeth newydd o hediad adar (Dr Charles Bishop, Ysgol Gwyddorau Biolegol); project i wella dealltwriaeth o sut y mae mwd yn symud ar hyd yr arfordir sydd, yn ei dro, yn gwella ein modelau rhagweld ynghylch sut bydd yr arfordir yn newid o ganlyniad i gynnydd yn lefel y môr (arweinir gan Dr Jaco Baas, Ysgol Gwyddorau Eigion); a datblygiad newydd sydd wedi chwalu ffiniau chwyddiad microsgop (arweinir gan Dr James Wang, Ysgol Peirianneg Electronig).

Bydd darpar enillwyr Gwobr y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas yn deillio o broject sydd wedi gwella hyfforddiant athletwyr elît, (Yr Athro Lew Hardy, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer); project sydd wedi newid y modd y mae’r diwydiant digidol a chyrff rheoli yn ystyried data emosiynol (Dr Andy McStay, Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau) a phroject sydd wedi adolygu a dathlu argraffiadau ymwelwyr â Chymru yn ystod cyfnod o 260 o flynyddoedd (arweinir gan yr Athro Carol Tully, Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern).

Mae’r projectau rhyngwladol sydd ar y rhestr fer yn cynnwys project Ewropeaidd a arweiniwyd gan Brifysgol Bangor (Yr Athro Peter Golyshin, Ysgol Gwyddorau Biolegol) i archwilio amgylcheddau eithafol yn y môr am ficrobau newydd y gellir y defnyddio mewn biodechnoleg; offer ar gyfer y dosbarth sydd wedi eu dosbarthu i bob ysgol gynradd yn Jamaica er mwyn gwella rhagolygon plant yno (datblygwyd dan arweiniad Dr Helen Henningham, Ysgol Seicoleg) a phroject sydd wedi profi’r buddion niferus sydd i’w cael o warchod systemau rîff cwrel trofannol (arweinir gan yr Athro John Turner.)

Mae chwe academydd sydd yng nghyfnodau cynnar eu gyrfa ac sydd wedi arddangos addewid i fod yn arweinwyr y dyfodol yn eu maes ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Seren Ddisglair:

Aled Llion Jones, Ysgol y Gymraeg, sydd a phroffil rhyngwladol o ganlyniad i’w waith sy’n plethu athroniaeth, theori lenyddol a llenyddiaeth ganoloesol Gymraeg; Kami Koldewyn, Ysgol Seicoleg, sy’n magu enw da ym maes niwrowyddoniaeth gymdeithasol; James McDonald, Ysgol Gwyddorau Biolegol, sy’n aelod dylanwadol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ym maes ecoleg meicrobaidd; Yvonne McDermott Rees, Ysgol y Gyfraith, sydd wedi cynnal ymchwil arloesol ym maes cyfraith droseddol rhyngwladol a hawliau dynol â’i gwaith wedi ei ddyfynnu gan Siambr Apelio’r Llys Rhyngwladol; Andrew Smith, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth am ei alluoedd arbennig wrth arwain projectau ymchwil, sicrhau cyllid ac am ei gyhoeddiadau dylanwadol ym maes coedwigaeth, a Dr Gareth Williams, Ysgol Gwyddorau Eigion, sy’n datblygu proffil rhyngwladol o ganlyniad i’w waith ar ecoleg rîffau cwrel.

Mae pum myfyriwr doethurol hefyd wedi eu henwebu am wobr, a hynny am ansawdd arbennig eu gwaith. Dyma nhw: Sayma Akhter, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, am ei gwaith ar ddefnydd posib o mango gwyllt, ffrwyth a allai ddarparu incwm i boblogaethau gwledig; Emily Holmes, Ysgol Gwyddorau Iechyd, am ei gwaith ar ddeall ymddygiad wrth gymryd meddyginiaethau; Fritz Kleinschroth, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, am ei waith ar effaith llwybrau torri coed ar fforestydd glaw trofannol; Sebastian Rosier, Ysgol Gwyddorau Eigion, am waith sydd wedi arwain at greu maes ymchwil newydd wrth werthuso nifer y gweryd a godir gan lifoedd rhew yn yr Antarctig; Claire Szostek, Ysgol Gwyddorau Eigion, am ei gwaith gyda physgotwyr y Sianel ar geisio deall lefelau ar gyfer pysgota sgolop yn gynaliadwy yno; Thomas Wilkinson, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, am ei ddoethuriaeth sydd wedi arwain at newid y modd y mae pobl ag arthritis rhiwmatoid yn cael eu hasesu yn lleol, a rhagwelir y bydd y newidiadau hyn yn cael eu mabwysiadu mewn ardaloedd eraill maes o law.

Meddai’r Athro Jo Rycroft- Malone, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil) ym Mhrifysgol Bangor:

“Mae’r gwobrau hyn yn rhoi cyfle gwych i ni gydnabod a gwerthfawrogi llwyddiant o fewn y Brifysgol ac arddangos enghreifftiau o ymchwil o ansawdd, y llwyddiannau a’r talentau sydd gennym o fewn y Brifysgol. Yn ogystal â gwobrwyo’r timau ac unigolion llwyddiannus, bydd y gwobrau hefyd yn symbyliad i eraill yn y man.”

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod Noson Wobrwyo sydd i’w chynnal yn Pontio, nos Lun Rhagfyr 5 2016.

Yn dilyn y noson wobrwyo gyntaf hon, bydd y Gwobrau Rhagoriaeth Ymchwil yn cael eu cynnal bob yn ail blwyddyn â gwobrau Effaith ac Arloesi y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2016

Site footer