Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Gwyddonwyr lleol ac athrawon yn uno i ddod â’r wyddoniaeth ddiweddaraf i Ysgol Uwchradd Bodedern

Chwith-dde: Harry Owen, Mrs Lyndell Williams, Pennaeth Bioleg yn Ysgol Bodedern; Dionn Hargreaves, Harry Williams, a’r Athro Gary Carvalho, yn ystod eu gwaith project ar newid hinsawdd ym Mhrifysgol Bangor.Chwith-dde: Harry Owen, Mrs Lyndell Williams, Pennaeth Bioleg yn Ysgol Bodedern; Dionn Hargreaves, Harry Williams, a’r Athro Gary Carvalho, yn ystod eu gwaith project ar newid hinsawdd ym Mhrifysgol Bangor.Mae disgyblion Ysgol Uwchradd Bodedern (YUB), sydd yn gweithio ar broject gwyddonol arloesol ar newid hinsawdd, wedi bod yn ymweld â Phrifysgol Bangor i weithio yn y labordai, fel rhan o’u project: Antarctica, Newid Hinsawdd a Physgod Rhew.

Mae gwyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor wedi bod yn arwain y project o dan Grant Partneriaeth gan Y Gymdeithas Frenhinol, sef academi wyddoniaeth genedlaethol y DU.  Maent wedi bod yn gweithio efo’r disgyblion ers mis Medi. Mae’r project wedi bod yn cyflwyno i’r disgyblion effeithiau newid hinsawdd ar anifeiliaid môr mewn rhan o’r byd lle mae newid amgylcheddol yn fygythiad arbennig i fioamrywiaeth a chynefinoedd.

Mae’r disgyblion o Flwyddyn 10, sydd rhwng pedair ar ddeg ac un ar bymtheg oed, wedi derbyn yr her o lunio a phrofi damcaniaethau ynghylch newid hinsawdd, ac edrych sut y gellir defnyddio cymysgedd o dystiolaeth fiolegol a ffisegol yn ymwneud ag amodau môr i asesu effeithiau ar bysgod rhew yr Antarctig a’r gymuned forol ehangach. 

Yn canolbwyntio'n ddiwyd ar y gwaith mae Dionn HargreavesYn canolbwyntio'n ddiwyd ar y gwaith mae Dionn HargreavesDdydd Mawrth, 10 Rhagfyr, buont yn profi rhai o’r damcaniaethau hyn yn Labordy Ecoleg Foleciwlaidd a Geneteg Pysgodfeydd yng Nghanolfan Amgylcheddol Cymru.

Oherwydd newid hinsawdd, disgwylir i dymereddau uwch leihau goroesiad a dosbarthiad larfau pysgod mewn dyfroedd môr, oherwydd gall twf cyflymach achosi i bysgod ifanc lwgu i farwolaeth cyn iddynt gyrraedd y rhannau o’r môr lle byddant yn tyfu. Bydd y disgyblion yn defnyddio’r offer genetig diweddaraf (math o ‘broffilio genetig’) a microsgopeg uwch i bennu oedran pysgod ifanc er mwyn archwilio tebygolrwydd a thystiolaeth dros effeithiau o’r fath dan amrediad o dymereddau dynwaredol.

 Mae’r ymweliad yn dilyn arddangosiadau a gwaith labordy i’r disgyblion yn Ysgol Bodedern. Bydd y disgyblion hefyd  mewn cyswllt,  drwy podlediadau a chysylltiadau fideo, efo gwyddonwyr  y British Antarctic Survey yn King Edward Point, De Georgia  at ddiwedd 2013.

Yn dilyn y gweithgareddau hyn,  bydd disgyblion uwchradd o YUB yn defnyddio’r technegau a’r wybodaeth a gânt o’r bartneriaeth â’r Brifysgol i lunio ymarfer pontio i ddisgyblion Blwyddyn 6 (cynradd) o ysgolion cynradd lleol (yn cynnwys   Ysgol Gymuned Bryngwran, Ysgol Cylch Y Garn Llanrhyddlad, Ysgol y Ffridd Gwalchmai, Ysgol Gymuned Llannerchymedd, Ysgol Pencarnisiog, Ysgol Gynradd Bodedern, Ysgol Gynradd Llanfachraeth, Ysgol Ffrwd Win Llanfaethlu, Ysgol Gymraeg Morswyn, Caergybi) yn ystod tymor yr haf. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyniad yng Ngŵyl Wyddoniaeth Bangor  ym  Mawrth 2013 .

 Wrth eu  boddau bod wedi echdynnu DNA yn y lab  yn ystod ymweliad fel rhan o’r project Antarctica, Newid Hinsawdd a Physgod  mae chwith- dde: Sara Hughes, Megan Caplin a Paige Bentley o Ysgol Bodedern, efo Marie-Claude Dupuis o’r Gymdeithas Frenhinol. Wrth eu boddau bod wedi echdynnu DNA yn y lab yn ystod ymweliad fel rhan o’r project Antarctica, Newid Hinsawdd a Physgod Rhew mae chwith- dde: Sara Hughes, Megan Caplin a Paige Bentley o Ysgol Bodedern, efo Marie-Claude Dupuis o’r Gymdeithas Frenhinol.Mae’r Athro Gary Carvalho, Athro Ecoleg Foleciwlaidd, a  Dr Mark de Bruyn, gwyddonydd ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Bangor,  wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â  Lyndell Williams, Pennaeth Bioleg yn Ysgol Bodedern, o Fedi 2012  a byddant yn parhau tan Ebrill 2014.

Dywedodd yr Athro Carvalho: “Mae’r project yn rhoi bywyd i’r hyn mae disgyblion yn ei ddysgu yn y dosbarth a’u helpu i ddeall effaith gwyddoniaeth ar eu gweithgareddau dyddiol. Trwy wneud y pynciau hyn yn berthnasol gallwn ddangos pa mor allweddol ydynt i’n bywydau.”

Meddai Mrs Annwen Morgan, pennaeth Ysgol Uwchradd Bodedern: “Fel ysgol rydym yn falch iawn o gael ymwneud â’r project yma ac yn edrych ymlaen at weithio gyda Phrifysgol Bangor. Mae’r project yn cynnig cyfle i bobl ifanc gyfarfod â gwyddonwyr lleol a gweithio â hwy ac mae’n eu galluogi i ddatblygu eu dealltwriaeth wyddonol mewn ffordd sy’n gyffrous, yn wreiddiol a pherthnasol i’w bywydau. 

Meddai’r Athro John Pethica FRS, Is-Lywydd y Gymdeithas Frenhinol, “Rydym yn falch o gael cefnogi’r project  Antarctica, Newid Hinsawdd a Physgod Rhew  yn Ysgol Uwchradd Bodedern, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y project cyffrous yma’n dod yn fyw dros y misoedd i ddod.” 

“Mae gwyddoniaeth a pheirianneg yn bynciau cyffrous a deinamig a thrwy roi cyfle i athrawon gyflwyno gwyddoniaeth arloesol, ein gobaith yw y gallwn helpu i ddangos i bobl ifanc gymaint o hwyl y gall y pynciau hyn fod mewn bywyd go iawn, a’u hysbrydoli i ddod yn ddyfeiswyr, fforwyr ac arloeswyr y dyfodol.”  

Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2012

Site footer