Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Gwyddonwyr o Brifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn prawf iechyd ar gefnforoedd ledled y byd

Bydd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn ymuno â gwyddonwyr morol o bob cwr o'r byd ar 21 Mehefin i gymryd rhan mewn project ymchwil byd-eang uchelgeisiol - Diwrnod Samplo'r Cefnforoedd.

Ceir 80% o'r holl fywyd ar y ddaear yng Nghefnforoedd y Byd sy'n ymestyn ar draws mwy na 70% o arwynebedd y byd.  Micro-organebau morol sy'n gyfrifol am y ffaith bod cylchredau elfennau'r byd yn rhedeg yn llyfn, ond mae llai na 1% ohonynt yn hysbys.  Bydd yr Ysgol Gwyddorau Biolegol yn ymuno a 150 o gyrff ymchwil o Ynys yr Iâ i Antarctica ac o Moreea (Polynesia Ffrengig) i Dde Affrica i astudio a chynnal prawf iechyd ar gefnforoedd y byd.

Bydd gwyddonwyr ar draws y byd yn cymryd samplau o ddŵr Y môr ar Ŵyl Ifan ganol haf fel rhan o'r fenter ymchwil forol fwyaf sydd erioed wedi cael ei chynnal ar un diwrnod.

Bydd tîm yr Athro Peter Golyshin yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol yn samplo Afon Menai ar ddiwrnod Samplo'r Cefnforoedd.

Mae’r Athro Golyshin yn egluro: "Bydd canfyddiadau'r ymchwil yn ein helpu i ddeall y môr yn well ar lefel microbau, i ganfod cyfansoddiad cymunedau microbau, eu hamrywiaeth a'u cyfraniad at gynnal iechyd yr amgylchedd morol."

Ychwanegodd ei gydweithiwr yn yr ymchwil, Dr Tran Hai: “Erbyn heddiw mae gan wyddonwyr yr arbenigedd a'r dulliau ond nid y data ac rwy'n falch bod Prifysgol Bangor yn gallu cyfrannu at y digwyddiad byd-eang hwn trwy samplo dyfroedd arfordirol y Deyrnas Unedig."

Bydd y sampl a gymerir o Afon Menai  yn cael ei hanfon, gyda'r holl samplau eraill, at y partner ymchwil arweiniol, yr Athro Frank Oliver Gloeckner ym Mhrifysgol Jacobs yn Bremen (yr Almaen).  Caiff DNA microbau ei echdynnu o'r holl samplau, bydd y dilyniant yn cael ei fapio a'i ddadansoddi, gan greu'r set data cyfeirio safonol  fwyaf yn y byd y gall cenedlaethau'r dyfodol ei defnyddio. 

Anfonir samplau hefyd at Amgueddfa Hanes Naturiol y Smithsonian Institution yn Washington DC, UDA.   Bydd yr amgueddfa'n cadw hyd at 10000 o samplau, wedi eu casglu bob blwyddyn ar 21 Mehefin, mewn capsiwl amser.  Bydd y banc data gwerthfawr hwn yn galluogi cenedlaethau gwyddonwyr y dyfodol i ddeall ac i feincnodi newidiadau yn yr amgylchedd morol.

Bydd tîm ymchwil Prifysgol Bangor hefyd yn dadansoddi'r DNA sydd yn y microbau mewn nifer o samplau dŵr môr a ddarperir gan bartneriaid. Mae Diwrnod Samplo'r Cefnforoedd yn rhan o broject mawr Ewrop Gyfan “MicroB3” sydd yn ymchwilio i fioamrywiaeth microbaidd y cefnforoedd a'r posibiliadau ar gyfer biodechnoleg.  Cyfraniad Prifysgol Bangor at y project hwnnw yw datgelu genynnau mewn cymunedau microbaidd y gellid eu datblygu'n ensymau newydd a allai fod yn bwysig i ddiwydiant. Mae'r rhain yn debygol o ddod o amgylcheddau sydd mor arw, fel y gellid ystyried eu bod ar ffiniau ffisegol neu gemegol bywyd.  

Eglurodd yr Athro Golyshin: "Gellir defnyddio'r ensymau yr ydym yn sgrinio ar eu cyfer mewn ystod eang o ffyrdd ym maes diwydiant a'r ensymau hyn yw sylfaen 'Biodechnoleg Wen".  Mae Biodechnoleg Wen yn dibynnu ar gymryd ensymau sy'n digwydd yn naturiol a'u defnyddio mewn diwydiant, ac mae'n ddewis gwyrddach na'r prosesau traddodiadol sy'n dibynnu ar gemegion synthetig ac yn niweidio'r amgylchedd.  Defnyddir ensymau i syntheseiddio cemegion pur, ar gyfer biobolymerau bioddiraddiadwy a deunyddiau newydd.  Fe'u defnyddir mewn powdrau golchi, bwyd a phorthiant, chwynladdwyr "gwyrdd", biodanwyddau a chyffuriau."

Ychwanegodd un o arweinwyr Diwrnod Samplo'r Cefnforoedd, yr Athro Dawn Field o Brifysgol Rhydychen:  "Dyma'r tro cyntaf i gefnforoedd y byd gael eu samplo ar raddfa fawr yr un pryd .  Felly mae'n ddigwyddiad hanesyddol a gobeithio mai dyma'r dechrau'n unig."

Y cyrff eraill yn y Deyrnas Unedig sy'n cymryd rhan yn Niwrnod Samplo'r Cefnforoedd yw Labordy Morol Aberdeen, CEFAS (Lowestoft), Prifysgol Newcastle a Labordy Morol Plymouth, a bydd hyn yn sicrhau darlun llawn o'r bacteria yn nŵr y môr at ddefnydd gwyddonwyr morol yn y DU yn awr ac yn y dyfodol.

Mae'r ymdrech fyd-eang hon yn cael ei chydlynu gan Brifysgol Jacobs yn Bremen, yr Almaen a Phrifysgol Rhydychen, Y DU. Mae'r diwrnod wedi ei gyllido gan yr Undeb Ewropeaidd.

Hefyd mae'r UE yn cyllido menter gwyddoniaeth dinasyddion o'r enw MyOSF - ap ffôn symudol sy'n caniatáu i ddinasyddion uwchlwytho eu mesuriadau gwyddonol eu hunain i gefnogi'r gwaith samplo gan wyddonwyr môr. Trwy'r ddwy fenter hyn, bydd gwyddonwyr yn creu pwll cyffredin o ddata i'w rannu ymysg yr holl gymuned ymchwil forol wyddonol a'r cyhoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2014

Site footer