Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Hitachi-GE, Imperial a Phrifysgol Bangor yn datblygu arbenigedd ym maes Adweithyddion Dŵr Berwedig (BWR) yn y Deyrnas Unedig a Chymru

 Yr Athro John G. Hughes (Isganghellor Prifysgol Bangor), Kumiaki Moryia (Prif Beiriannydd Corfforaethol Hitachi-GE Nuclear Energy Ltd.), Dr Michael Bluck, (Cyfarwyddwr y Centre for Nuclear Engineering yn Imperial College London) Yr Athro John G. Hughes (Isganghellor Prifysgol Bangor), Kumiaki Moryia (Prif Beiriannydd Corfforaethol Hitachi-GE Nuclear Energy Ltd.), Dr Michael Bluck, (Cyfarwyddwr y Centre for Nuclear Engineering yn Imperial College London)Mae Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. (Hitachi-GE) wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth gydag Imperial College a Phrifysgol Bangor sy'n cryfhau ei ymrwymiad i arbenigedd yng Nghymru a Phrydain.  

Bydd Hitachi-GE yn rhoi cyngor diwydiannol i'r "Canolbwynt a Rhwydwaith Adweithyddion Dŵr Berwedig (BWR)" a sefydlwyd yn ddiweddar gan Imperial a Bangor, gan ddefnyddio ei brofiad helaeth ym maes BWR i roi arbenigedd a chefnogaeth dechnegol. Bydd hyn yn cynnwys lleoli ymchwilydd rhan-amser ym Mangor, ac adeiladu ar y rhaglen bresennol o interniaethau yn Japan i fyfyrwyr o Brydain.  

Gwnaed cyhoeddiad heddiw yn dilyn cynhadledd dechnegol lwyddiannus a gynhaliwyd gan y ddwy brifysgol ym Mangor yr wythnos ddiwethaf.  Mae Hitachi-GE eisoes yn cefnogi datblygiadau niwclear yng Ngogledd Cymru, gan ddarparu adweithydd ABWR i Horizon Nuclear Power ar gyfer Wylfa Newydd, dan gontract i'r tîm Menter Newydd. 

Meddai Hidetoshi Takehara, Llywydd a Chyfarwyddwr Cynrychioliadol Hitachi-GE:

"Diben hyn yw creu cronfa ddyfnach ac ehangach o arbenigedd BWR yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig, gan gefnogi peirianwyr a diwydiant y dyfodol.  Mae'r canolbwynt hwn yn hyrwyddo cydlynu ymchwil ym maes BWR, gan sicrhau bod Cymru a'r DU yn datblygu gwir arbenigedd mewn technoleg BWR ar hyn o bryd, ac at y dyfodol. 

Ychwanegodd:  "Gyda datblygu BWR cyntaf y Deyrnas Unedig i fyny'r ffordd yn Wylfa Newydd, mae'r cynllun hwn yn helpu i sicrhau bod y project yn fan cychwyn i'r DU ddod yn arweinydd amlwg drwy'r byd ym maes arbenigedd technoleg BWR i ddibenion domestig." 

Meddai Dr Michael Bluck, Cyfarwyddwr y Centre for Nuclear Engineering yn Imperial:

"Mae Imperial yn falch o weithio gyda Hitachi-GE a Phrifysgol Bangor i sefydlu mwy o arbenigedd ym maes Adweithyddion Dŵr Berwedig yn y DU.  Bydd y cynllun hwn yn edrych ar anghenion ymchwil a llunio projectau i gefnogi cynhyrchu trydan carbon isel i'r DU a llawer o wledydd eraill am ddegawdau i ddod.

Ychwanegodd: 

Bydd Canolbwynt a Rhwydwaith Ymchwil BWR yn dod ag ymchwilwyr yn y DU ac o Hitachi Nuclear at ei gilydd i helpu i ddatblygu cenedlaethau'r dyfodol o dechnoleg Adweithyddion Dŵr Berwedig yma yn y DU a Chymru."

Meddai'r Athro John Hughes, Is-ganghellor, Prifysgol Bangor:

"Rydym yn hynod falch o ffurfio partneriaeth ag Imperial College, Llundain, gyda mewnbwn arbenigol gan Hitachi-GE, i hyrwyddo'r datblygiad pwysig hwn i sector ynni'r DU. Bydd y cydweithio hwn yn galluogi Prifysgol Bangor i helpu i adeiladu sylfaen academaidd ac ymchwil yma yng Ngogledd Cymru i greu arbenigedd niwclear mewn cenhedlaeth newydd o wyddonwyr a pheirianwyr ym maes technoleg BWR. 

Ychwanegodd: 

"Roeddem yn neilltuol falch i weld cynhadledd gyntaf y Rhwydwaith Ymchwil BWR yn cael ei gynnal ym Mangor yr wythnos ddiwethaf, yn dilyn cyfarfodydd blaenorol rydym wedi eu cynnal yma yn ystod y misoedd diwethaf rhwng diwydiant ac academia ar y pwnc pwysig hwn.  Bydd Prifysgol Bangor yn parhau i sicrhau y bydd y manteision o'r buddsoddiad arfaethedig mewn cyfleusterau niwclear newydd a fydd yn defnyddio'r dechnoleg hon yn Wylfa Newydd yn cael eu hyrwyddo yng Ngogledd Cymru a thrwy weddill Prydain." 

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016

Site footer