Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Mae athro adnabyddus o ogledd Cymru wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gwlyptiroedd Cymru fel rhan o ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd

Yr Athro Freeman efo’i Anrhydedd diweddar fel Gymrawd Cymdeithas gwyddonwyr Gwlyptiroedd- yn ei gydnabod fel un o’r arbenigwyr blaenllaw  y byd ar gwlyptiroeddYr Athro Freeman efo’i Anrhydedd diweddar fel Gymrawd Cymdeithas gwyddonwyr Gwlyptiroedd- yn ei gydnabod fel un o’r arbenigwyr blaenllaw y byd ar gwlyptiroeddMae'r Athro Chris Freeman o Brifysgol Bangor wedi datgan ei gefnogaeth i'r digwyddiad sydd â'r bwriad o godi ymwybyddiaeth o wlyptiroedd ar draws y byd. 

Mae'r Athro Freeman sydd wedi ennill gwobrau am ei waith, ac sy'n rhedeg yr unig radd uwch ym maes gwyddor gwlyptiroedd yn y Deyrnas Unedig, yn defnyddio Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd i amlygu'r rhan hollbwysig y mae gwlyptiroedd yn ei chwarae yng Nghymru.

Mae'r Athro Freeman yn dweud bod gormod o wlyptiroedd o dan fygythiad er gwaetha'r ffaith eu bod yn gallu atal llifogydd, glanhau ein dŵr yfed a storio symiau anferth o garbon deuocsid.

"Ers canrifoedd rydym wedi esgeuluso llawer o'n gwlyptiroedd, a'u gweld fel tir gwastraff y mae angen ei ddraenio er mwyn ei ddefnyddio fel tir amaeth neu adeiladu! meddai'r Athro Freeman.

"Diolch byth ein bod yn sylweddoli gwerth yr ecosystemau hyn erbyn hyn - o ran eu bioamrywiaeth a'u swyddogaethau ecolegol, ac o ran y gwasanaethau a roddant i ni.

"Gall corsydd halen amddiffyn ein harfordiroedd; gall parthau byffer ar hyd afonydd leihau difrod gan lifogydd; mae mawndiroedd yn storio mwy o garbon na choedwigoedd; gall ffeniau a chorstiroedd helpu i lanhau ein dŵr cyn i ni ei yfed ac mae gwlyptiroedd eraill yn rhoi lliaws o fwydydd ac adnoddau i ni.

 

"Mae Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd yn syniad gwych, mae'n digwydd bob blwyddyn ar Chwefror 2 ac mae digwyddiadau'n cael eu cynnal o gwmpas y byd er mwyn codi ymwybyddiaeth gyhoeddus o wlyptiroedd."

Er eu pwysigrwydd mae rhai gwlyptiroedd yn dal i gael eu colli oherwydd draenio a llygredd.

Mae'r Athro Freeman yn mynnu bod angen gwneud mwy i'w hamddiffyn a dyma pam y sefydlodd y radd Meistr mewn Gwyddor a Chadwraeth Gwlyptiroedd ym Mhrifysgol Bangor.

"Er bod gennym gynifer o wahanol fathau o wlyptiroedd yng Nghymru a gweddill y DU nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli pa mor allweddol bwysig ydynt i'n lles" meddai.

"Bwriad ein cwrs yw hyfforddi cenhedlaeth newydd gyfan o wyddonwyr gwlyptiroedd fel y gallwn nid yn unig ddysgu mwy am y prosesau naturiol sy'n mynd ymlaen yn yr ecosystemau hyn ond deall beth yw'r ffordd orau o'u hamddiffyn." 

Ychwanegodd: Hoffwn annog pawb i fynd am dro o gwmpas y gwlyptir agosaf ar Chwefror 2 a darganfod mwy amdanynt - dim ond i chi gofio mynd â phâr o welis gyda chi!"

Os hoffech wybod mwy am yr MSC mewn Gwyddor a Chadwraeth Gwlyptiroedd ym Mhrifysgol Bangor ewch i http://wccl.bangor.ac.uk

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2014

Site footer