Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Mae gwyddau'n rhedeg yn ein helpu i ddeall sut mae goddef lefelau ocsigen isel.

 

Gwyddau benrhesog.Gwyddau benrhesog.Bu tîm o wyddonwyr rhyngwladol, dan arweiniad Prifysgol Bangor a dan nawdd y BBSRC, wrthi'n ddiweddar yn olrhain llwybr yr aderyn sydd yn hedfan uchaf yn y byd, sef yr ŵydd benrhesog, wrth iddi fudo ar draws mynyddoedd yr Himalaya.  Erbyn hyn maent wedi dangos sut y gall yr adar hyn oddef rhedeg yn gyflym iawn tra'n anadlu aer sy'n cynnwys dim ond 7% o ocsigen.  

Mae ymarfer ar uchder yn sialens enfawr oherwydd ar gopa'r mynyddoedd uchaf mae'r aer yn cynnwys dim ond 7% ocsigen, o'i gymharu â 21% ar lefel y môr.  Dyma pam mae dringwyr yn defnyddio ocsigen ychwanegol yn aml, wrth ddringo copaon uchaf y byd.

Dr Lucy Hawkes, gynt o brifysgol Bangor ac ar hyn o bryd yn y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg ym Mhrifysgol Exeter, fu'n arwain yr astudiaeth, ynghyd â'i chydweithwyr, Dr Charles Bishop (Prifysgol Bangor) a'r Athro  Pat Butler (Prifysgol Birmingham). Buont yn profi pa mor dda roedd y gwyddau'n ymdopi ag ymarfer mewn amgylcheddau â llai o ocsigen trwy efelychu amodau Mynydd Everest mewn bocs clir ac yna gael yr adar i redeg mor gyflym â phosib ar felin draed y tu fewn i'r bocs.    

Darganfuwyd bod y gwyddau'n gallu goddef amodau ocsigen isel yn rhyfeddol - tra oeddent yn gorffwys a thra oeddent yn ymarfer am chwarter awr nerth eu traed - ar lefel ocsigen a fyddai'n drech na'r rhan fwyaf o bobl.  Hefyd bu'r ymchwilwyr yn cynnal yr arbrofion gyda'r ŵydd fôr, sy'n mudo ar lefel y môr; darganfuwyd nad oedd ganddynt yr un gallu o dan amodau ocsigen isel.

Gŵydd benrhesog yn hedfan dros ei bro gynefin ym Mongolia.Gŵydd benrhesog yn hedfan dros ei bro gynefin ym Mongolia.Dywedodd Dr Lucy Hawkes: "Mae i gyd i weld yn dibynnu ar faint o ocsigen y gall gwyddau penrhesog ei gyflenwi i gyhyrau'r galon.  Po fwyaf y gallant ei gyflenwi, cyflymaf i gyd y gall eu calonnau guro gan gadw’r cyflenwad ocsigen i weddill y corff i fynd."

Mae gwyddau penrhesog a gwyddau môr yn hedfan pellterau tebyg wrth fudo rhwng eu tiriogaethau bridio a'u tiriogaethau gaeafu, fel arfer dros filoedd o filltiroedd, yn yr hydref a'r gwanwyn. Mae gwyddau penrhesog yn teithio rhwng yr India lle maent yn treulio'r gaeaf a'u tiroedd magu yn Tsieina a Mongolia. Golyga hyn bod yn rhaid iddynt hedfan dros Fynyddoedd yr Himalaya, weithiau ar uchder o 7,290m (23,917o droedfeddi) .

Dangoswyd bod yr anifeiliaid hyn yn meddu ar nifer o addasiadau ffisiolegol penodol a all wella eu perfformiad o'u cymharu â rhywogaethau gwyddau eraill wrth wynebu lefel ddifrifol o hypocsia (cyflenwad annigonol o ocsigen) yn yr amgylchedd.   Mae cyhyrau'r galon a'r cyhyrau symud yn arbennig yn cynnwys mwy o bibellau gwaed.

Mae'r astudiaeth ‘Maximum running speed of captive bar-headed geese is unaffected by severe hypoxia’ gan Lucy A Hawkes, Patrick J Butler, Peter B Frappell, Jessica U Meir, William K Milsom,  Graham R Scott a Charles M Bishop yn cael ei chyhoeddi heddiw yn y cyfnodolyn  PLOS ONE.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2014

Site footer