Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Mannau nodedig am eu bioamrywiaeth o dan fygythiad wrth i goedwigoedd gael eu cwympo

Mae ardaloedd sy'n wynebu'r datgoedwigo mwyaf ar y blaned ar hyn o bryd wedi cael eu hadnabod fel mannau fu'n arbennig o bwysig yn hanes esblygol bioamrywiaeth hynod De ddwyrain Asia.

Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Systematic Biology ("Borneo and Indochina are Major Evolutionary Hotspots for Southeast Asian Biodiversity" sydd ar gael ar-lein: 28 Gorffennaf, 2014), mae Dr. Mark de Bruyn o Brifysgol Bangor, a nifer o gydweithwyr rhyngwladol wedi cynnull ynghyd swm mawr o ddata daearegol, hinsoddol a biolegol i ganfod ardaloedd sydd wedi bod yn arbennig o bwysig yn hanes esblygol anifeiliaid a phlanhigion eithriadol o amrywiol De Ddwyrain Asia.  Tynnwyd sylw at Borneo yn benodol yn yr astudiaeth hon.

Mae’r datgoedwigo sy'n digwydd yn ardaloedd coedwigoedd glaw iseldiroedd y wlad, i raddau helaeth oherwydd ymlediad planhigfeydd palmwydd olew, yn rhoi'r bioamrywiaeth a geir yno mewn perygl o ddifodiant.

Daeth de Bruyn a'i gydweithwyr i'r casgliad: "Mae gwir angen ymdrechu ar frys i warchod anifeiliaid a phlanhigion Borneo'n enwedig, sydd ar hyn o bryd yn gartref i brif gyfoeth rhywogaethau planhigion a mamaliaid."

Mae'r cytundeb "Calon Borneo" rhwng Indonesia, Malaysia a Brunei yn darparu ar gyfer ardaloedd cadwraeth blaenoriaeth uchel ond ni fyddai hyn yn cynnig amddiffyniad digonol i ardaloedd helaeth o goedwigoedd glaw yn yr iseldiroedd sy'n gartref i'r lefelau uchaf o fioamrywiaeth.  Os bydd ardaloedd mawr pellach o goedwig yn diflannu yn sgil datblygiadau yn y rhanbarth hwn bydd prif warchodfa holl ranbarth Ysgafell Sunda yn cael ei cholli am byth. 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2014

Site footer