Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Myfyriwr o Fangor ar y brig ar gyfer gwobr Wythnos yr Hinsawdd

Mae Andy O’CallaghanAndy O’Callaghan                          Andy O’Callaghan, sydd yn ei ail flwyddyn yn astudio Gwyddorau Morol/ Sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o Wobrau Wythnos yr Hinsawdd 2013.

Mae Andy, sy’n byw yn Llandudno, yn rhan o’r Ddraig Ffynci,  sef Cynulliad Plant a Phobl ifanc i Gymru. Mae hefyd yn un o aelodau ieuengaf Comisiwn Cymru ar Newid yn yr Hinsawdd. Mae wed ei enwebu yng nghategori Unigolyn Ifanc Mwyaf Ysbrydoledig  Gwobrau Wythnos yr Hinsawdd 2013.

Mae Andy wedi bod yn hyrwyddo’r neges sydd ynghlwm wrth newid yn yr hinsawdd i bobl ifanc eraill ledled Cymru fel rhan o’i waith fel cyd-gadeirydd Maes Blaenoriaeth Amgylcheddol yn Y Ddraig Ffynci. Mae wedi cymryd rhan yng nghyfarfodydd y Comisiwn ledled Cymru ac wedi siarad ar ran pobl ifanc yn nigwyddiad Chwyldro Glân a oedd wedi’i anelu at arweinwyr ym myd busnes.

Cafodd  Andy wybod am y newyddion ei fod wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Wythnos yr Hinsawdd yn ddiweddar.

Dywedodd:  “Roedd yn fraint ac yn anrhydedd cael gwybod fy mod wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae’n wych gweithio gyda’r Comisiwn a’r aelodau sydd mor ymrwymedig i ddatblygu cynaliadwy.”

Wrth esbonio sut y cyrhaeddodd y pwynt hwn meddai: “ Mae cael fy enwebu ar gyfer y wobr wedi digwydd ar ôl proses hir ond gwych o gyfranogi’n berson ifanc. Tra’n ddisgybl yn Ysgol John Bright roeddwn yn aelod o gyngor yr ysgol. Yna es ymlaen i Gyngor Ieuenctid Conwy, a bellach wedi gwasanaethu arno am bedair blynedd. Wedi’r ddwy flynedd gyntaf, gwnes i gais  i  fod yn Gyd-gadeirydd Amgylchedd y Ddraig Ffynci. Mae cyfranogi a’r amgylchedd eisoes wedi bod yn flaenoriaethau yn fy mywyd, felly pan ymunais â Chomisiwn Newid Hinsawdd Cymru rhoddodd ysgogiad i mi i weithio’n galetach fyth i ddylanwadu ar bolisi ac agweddau tuag at newid hinsawdd.”

Enwebwyd y Andy ar gyfer y wobr gan Peter Davies, Cadeirydd Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd,  er mwyn cydnabod ei gyfraniad at waith y Comisiwn dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Peter Davies  “Mae cyfraniad Andy a Hannah Prydderch, sydd hefyd ar y rhestr fer, a’r ffaith eu bod yn aelodau o Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn arwyddocaol ac yn ysbrydoliaeth. Maen nhw’n dangos yn gyson lefel  o wybodaeth a phroffesiynoldeb o ran materion yn ymwneud â’r hinsawdd sy’n fwy eang o lawer nag y byddai rhywun yn disgwyl o ystyried eu hoed, ac mae’r aelodau eraill yn parchu eu barn. Mae’n wych eu bod nhw’n rhan o’r cyfan, gan eu bod yn helpu i sicrhau bod anghenion pobl ifanc yn cael lle canolog mewn unrhyw gynlluniau y byddwn yn eu datblygu a’r cyngor y byddwn yn ei roi i’r llywodraeth. Mae hyn mor bwysig a gwerthfawr wrth i ni geisio creu cymdeithas lle mae datblygu cynaliadwy yn cael lle canolog. Mae parhau i annog pobl  ifanc i gyfrannu at weithredu dros newid yn yr hinsawdd yn bwysig iawn ac mae Hannah ac Andy yn gwneud cyfraniad enfawr yn hyn o beth.”

Uchelgais Andy erioed oedd bod yn fiolegydd morol a dod i brifysgol Bangor i astudio: “ gan ei bod  yn ymddangos o hyd ar y brig neu’n ail yn y tablau ar gyfer Bioleg y Môr.”

Ychwanegodd: “ Mae fy mhrofiadau ym Mangor yn wych hyd yn hyn! Mae’r darlithwyr yn wych  ac mae’n ddigon agos i Landudno i ganiatáu i mi fyw gartref.”

Cynhelir  lansiad Gwobrau Wythnos yr Hinsawdd ddydd Llun 4 Mawrth 2013 yn Nhŷ’r Cyffredin.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2013

Site footer