Myfyrwyr o Brifysgol Bangor i gymryd rhan mewn gweithgaredd plannu coed ar gyfer The One Show gan y BBC
Bydd myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn torchi eu llewys o flaen camerâu The One Show y BBC, er mwyn helpu cymuned Maes y Pant yn Gresffordd (ger Wrecsam) i drawsnewid hen chwarel yn adnodd bioamrywiol i’r gymuned. Gofynnwyd i Grŵp Gweithredu Myfyrwyr Bangor dros Dreborth (STAG) a’r Gymdeithas Garddwriaeth Organaidd (HOG Soc) roi help llaw.
Mae’r Ymddiriedolaeth Goedlannau wedi rhoi mwy na 400 o goed i’r project, a bydd myfyrwyr Bangor yn gweithio ochr yn ochr â’r gymuned leol i helpu i glirio prysg, cloddio pridd a phlannu coed. Bydd y prif ymdrechion yn digwydd ddydd Mercher 21 Tachwedd, a bydd y BBC yn ffilmio gweithgareddau’r diwrnod cyn darlledu’n fyw o Gresffordd yn ddiweddarach y noson honno fel rhan o gyfres ‘One Show to the Rescue’ gan The One Show.
Mae Grŵp Gweithredu Myfyrwyr Bangor dros Dreborth (STAG) yn gymdeithas o blith y myfyrwyr sy’n gweithio i gynnal a datblygu Gardd Fotaneg Treborth, sy’n cynnal llawer o rywogaethau prin ac yn gweithio i warchod planhigion o Gymru sydd dan fygythiad. Mae gan y Gymdeithas Garddwriaeth Organaidd (HOG Soc) ei gardd gymunedol ei hun dan arweiniad y myfyrwyr, yng nghalon Bangor Uchaf. Er 2010 , mae’r Gymdeithas hon wedi troi’r hen dir diffaith hwn yn ardd organig lewyrchus.
Mae manylion am Grŵp Gweithredu Maes y Pant i’w gweld ar: http://maes-y-pant.com/
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2012