Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Mynediad agored i arddangosfa Bydoedd Cudd 2015

Yn gafael ar gecoaid llewpart yn ystod digwyddiad y llynedd mae Robin Scanlan (chwith) a Megan Elias.Yn gafael ar gecoaid llewpart yn ystod digwyddiad y llynedd mae Robin Scanlan (chwith) a Megan Elias.Mae’r arddangosfa ‘Bydoedd Cudd', sef prif ddigwyddiad Gŵyl Wyddoniaeth Bangor, a gynhelir rhwng  13 - 22 Mawrth 2015, yn cynnig mwy o weithgareddau ac arddangosiadau nag erioed eleni. Hon fydd y bumed gwaith i’r ŵyl boblogaidd gael ei chynnal.

Cynhelir yr  ‘Arddangosfa Bydoedd Cudd'  yn Adeilad Brambell ar Ffordd Deiniol rhwng 10.00-4.00 ddydd Sadwrn 14 Mawrth ac mae am ddim ac yn agored i bawb. Bydd y labordai’n llawn bwrlwm o weithgareddau megis ‘Anifeiliaid ysglyfaethus a’u hysglyfaeth’ a ffotoneg sef ‘gwyddor golau’, fel rhan o’r diwrnod gwyddoniaeth ymarferol. Bydd yr acwaria ymchwil a gedwir yn breifat fel rheol, yn agored  i’r cyhoedd a bydd ymwelwyr hefyd yn gallu cyffwrdd ag ymlusgiaid a chreaduriaid y môr a’u dal yn eu dwylo. Caiff y cyhoedd hefyd ymweld ag amgueddfa byd natur hynod drawiadol y Brifysgol.  Yn ogystal, cynhelir y sioe gemeg 'Flash Bang’  am 12.00 a 1.30, gan sicrhau y bydd digon i'w wneud a'i weld i bobl o bob oed.

Ymysg y digwyddiadau cyhoeddus eraill a gynigir yn ystod yr ŵyl, mae teithiau cerdded daearegol i weld rhai o'n tirweddau ysblennydd. Cynhelir y rhain ar 15  a 22 Mawrth ac mae cyfarwyddiadau ynglŷn â sut i ymuno â nhw ar wefan yr ŵyl : http://www.bangor.ac.uk/bangorsciencefestival a chynhelir darlith  dathlu 125 mlynedd gan yr Ysgol Peirianneg Electronig.

Mae’r darpar wyddonydd yma wedi gwirioni efo’r broses o echdynnu DNA. Mae’r darpar wyddonydd yma wedi gwirioni efo’r broses o echdynnu DNA. Mae Digwyddiad Gyrfaoedd  Adnoddau Cynaliadwy hefyd yn rhan o’r Ŵyl. Bydd y digwyddiad,  a gynhelir rhwng 1.00-5.00 ddydd Mercher, 18 Mawrth yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, Porthaethwy, yn cyflwyno’r mathau o swyddi sydd ar gael yn y sector adnoddau cynaliadwy a’r sgiliau sydd eu hangen i’w gwneud. Bydd y digwyddiad hwn yn tynnu sylw at y cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant yn y sector adnoddau cynaliadwy yma yng ngogledd Cymru, yn ogystal â thanio brwdfrydedd pobl yn y cyfleoedd newydd sy'n datblygu.

Ceir y manylion llawn am yr holl ddigwyddiadau ar wefan Digwyddiadau’r Ŵyl.

Meddai Rosanna Robinson o Goleg Gwyddorau Naturiol y Brifysgol ac un o gyd-drefnwyr y digwyddiad:

"Pan sefydlwyd Gŵyl Wyddoniaeth Bangor bum mlynedd yn ôl ein nod oedd cysylltu â'r gymuned ehangach yng ngogledd Cymru ac arddangos yr  ymchwil wyddonol o safon ryngwladol a wneir yma ym Mangor.  Rydym yn falch o fod yn ganolbwynt i weithgareddau Bangor ar gyfer Wythnos Wyddoniaeth Prydain, a chael gweithio gyda'n partneriaid a’n noddwyr i gynnig wythnos arall o weithgareddau llawn bwrlwm."

 Cyllidir yr ŵyl gan Brifysgol Bangor a grant gan y Gymdeithas Fioleg. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Gŵyl Wyddoniaeth Bangor www.bangor.ac.uk/bangorsciencefestival neu anfonwch e-bost at y trefnwyr ar bsf@bangor.ac.uk

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2015

Site footer