Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Olrhain COVID-19 a firysau eraill mewn dŵr gwastraff yn Nigeria a De Affrica

Mae arbenigwyr o'r Deyrnas Unedig yn gweithio gyda phartneriaid yn Nigeria a De Affrica i fonitro COVID-19 mewn cymunedau yn y ddwy wlad.

Bu Prifysgol Bangor yn chwarae rhan allweddol yn datblygu a chymhwyso dulliau monitro Covid-19 mewn dŵr gwastraff, ac mae hynny'n cynnig tystiolaeth mewn amser real o lefelau'r haint mewn cymunedau.

Mae'r tîm bellach yn gweithio gyda Phrifysgolion Caerwysg, Prifysgol Nigeria, Nsukka a Chyngor Ymchwil Meddygol De Affrica ar Gydwyliadwriaeth o Samplau Dŵr Gwastraff a Dŵr Amgylcheddol ar gyfer SARS-CoV-2 a Firysau Pathogenig yn Ne Affrica a Nigeria, Cronfa Ymchwil Heriau Byd-eang Ymchwil ac Arloesi’r Deyrnas Unedig  (UKRI) a phrosiect Cronfa Newton.

Mae SARS-CoV-2, y firws sy'n achosi COVID-19, yn firws anadlol sydd hefyd yn heintio ac yn cenhedlu yn ein perfedd.  Mae hynny'n golygu bod pobl heintiedig yn gadael tystiolaeth o'r firws yn eu baw, p'un a ydynt yn profi symptomau COVID-19 ai peidio. Mae'r samplau ysgarthol hefyd yn parhau'n bositif am gyfnodau hirach o gymharu â samplau anadlol. 

Mae hwn yn brosiect sy'n rhannu arbenigeddau a bydd yn adeiladu systemau epidemioleg a gwyliadwriaeth amgylcheddol sy'n seiliedig ar ddŵr gwastraff i asesu a yw COVID-19 yn bresennol.

O dderbyn rhybudd ymlaen llaw o achosion neu o gynnyd yng nghyfraddau heintio COVID-19 a nifer o firysau eraill yn Nigeria a De Affrica byddai gennym wybodaeth hanfodol yn gefn i ymdrechion lleol mewn mannau lle mae cyfngiadau dirfawr ar y systemau iechyd, y systemau profi a'r adnoddau dynol. 

Bydd Prifysgol Bangor yn rhannu'r wybodaeth sydd ganddi am ddilysu a gweithredu dulliau i gadw gwyliadwriaeth ar ddŵr gwastraff SARS-CoV-2 yn Ne Affrica a Nigeria, monitro lefelau'r firws sy'n cylchredeg mewn unrhyw boblogaeth ymlaen llaw a sut mae hynny'n newid dros amser. Gall mesurau o'r fath roi rhybudd cynnar o achosion lleol, fel y gellir rhoi strategaethau ar waith i atal lledaeniad y firws a pharatoi ar gyfer cyfraddau salwch cynyddol.

Gellir defnyddio'r wybodaeth a geir o gadw gwyliadwriaeth helaeth ar SARS-CoV-2 i roi mesurau lliniaru effeithiol ar waith i reoli lledaeniad y clefyd a lleihau nifer yr achosion. Yn y tymor hir, bydd cadw gwyliadwriaeth ar ddŵr gwastraff ar gyfer y firws hwn ac eraill yn help i ddisgrifio'r afiechydon firaol a phathogenig dynol eraill sy'n cylchredeg yn y boblogaeth yn gyffredinol.

Ar hyn o bryd, mae cadw gwyliadwriaeth ar SARS-CoV-2 yn digwydd mewn llawer o wledydd o incwm uchel, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, fel system rhybuddio cynnar o achosion firaol cynyddol mewn rhanbarthau penodol. Mae systemau gwyliadwriaeth dŵr gwastraff ar gyfer amrywiol firysau, fel poliofirws, eisoes ar waith mewn sawl gwlad.

Dywedodd Dr Shelagh Malham, a fydd yn arwain y prosiect o Brifysgol Bangor:

“Gyda'r prosiect hwn, rydym yn anelu at adeiladu ar y system wyliadwriaeth bresennol sydd gennym ar gyfer straenau firws cyffredin a rhai sy'n dod i'r amlwg: fel yr enterofirysau, y frech goch a'r ffliw, fel bod cymunedau'n fwy abl i gloriannu effaith cyfyngiadau cloi ar drosglwyddiad afiechydon firaol.”

“Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid fel y gallant gynyddu technegau a phrotocolau a ddatblygwyd ar gyfer gwyliadwriaeth SARS-CoV-2 a firysau eraill ledled eu rhanbarthau, gan alluogi cymunedau, asiantaethau iechyd cyhoeddus a llywodraethau i fynd ati i leihau risg a rheoli risgiau iechyd cenedlaethol a byd-eang.”

Dywedodd Dr Kata Farkas, Uwch Wyddonydd Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor:

“Dyma gyfle gwych i ennill gwell dealltwriaeth o faint ac amrywiaeth firysau dynol yn yr amgylchedd yn Ne Affrica a Nigeria. Mae ein gwybodaeth gyfredol am y pwnc yn gyfyngedig iawn a bydd y wybodaeth hon yn helpu gwella iechyd y cyhoedd.”

Dywedodd Dr Vincent Chigor o Brifysgol Nigeria:

“Bydd y prosiect hwn yn torri tir newydd, yn Nigeria, ac mae'n hanfodol cynnwys dyfroedd arwyneb o ystyried nad oes nemor ddim cyfleusterau trin dŵr gwastraff trefol a bod carthion heb eu trin yn cael eu rhyddhau i gronfeydd dŵr. Mae'r prosiect hefyd yn gyfle gwych inni feithrin gallu a chaffael offer."

Dywedodd Dr Renée Street, Gwyddonydd Arbenigol yn Uned Ymchwil yr Amgylchedd ac Iechyd Cynghorau Ymchwil Feddygol De Affrica:

“Rydym yn gyffrous iawn am y cydweithrediad rhyngwladol hwn ar Systemau Rhybudd Cynnar ar gyfer COVID-19 sy’n seiliedig ar ddŵr gwastraff a phathogenau eraill, ac yn edrych ymlaen at gryfhau ein systemau i gael mwy o effaith ar iechyd y cyhoedd fel rhan o’r project hwn.”

Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2020

Site footer