Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Pedwar Cymrawd Newydd yn Cael eu penodi o Brifysgol Bangor

Mae’r Gymdeithas Ddysgedig Cymru wedi cyhoeddi pedwar Cymrawd  ewydd o Brifysgol Bangor ymhlith y Cymrodyr newydd  sy’n rhychwantu sectorau’r celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a gwasanaeth cyhoeddus. Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd, a cheir cystadlu brwd i ymuno. Etholir Cymrodyr yn dilyn asesiad trylwyr o’u cyflawniadau yn eu meysydd perthnasol.

Ymysg y rhai sy’n aelodau newydd mae:

Yr Athro Tony Brown FLSW, Athro Emeritus, Ysgol Llenyddiaeth Saesneg;

Yr Athro Raluca Luria Radulescu  FLSW, Athro Llenyddiaeth Canoloesol, Ysgol Llenyddiaeth Saesneg;

Yr Athro David Neville Thomas FLSW, Athro Bioleg Forol a Pennaeth Ysgol Gwyddorau Eigion, Bangor; Cyfarwyddwr Sêr Cymru, Hyfforddwr mewn Bioleg, Helsinki; Athro Ymchwil yn Athrofa Ymchwil y Ffindir;

Yr Athro Deri Tomos FLSW, Athro Emeritws, Ysgol y Gwyddorau Biolegol,

Meddai’r Athro John G Hughes, Is-ganghellor: "Rwyf wrth fy modd bod saith aelod ychwanegol o’n staff academaidd wedi cael eu cydnabod a'u hanrhydeddu gyda Chymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae hyn yn adlewyrchiad pellach o amlygrwydd yr unigolion o fewn eu disgyblaethau academaidd priodol."

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas:            

“Mae cael eu hethol yn gydnabyddiaeth o ragoriaeth a chyflawniad. Maen nhw a’u gwaith yn ysbrydoliaeth i’r genedl. Caiff Cymrodyr eu hethol ar sail teilyngdod, ac unwaith eto mae’r nifer o Gymrodyr benywaidd yn cynyddu.”

Sefydlwyd y Gymdeithas yn 2010, ac mae’n tynnu ar gryfderau sylweddol dros 500 o Gymrodyr nodedig yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

Drwy ddod â’r Cymrodyr mwyaf llwyddiannus a thalentog sy’n gysylltiedig â Chymru at ei gilydd, mae’r Gymdeithas Ddysgedig yn cyfrannu at ddatblygu a hyrwyddo rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd gan ddarparu cyngor arbenigol ac annibynnol i’r Llywodraeth.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2018

Site footer