Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Pedwaredd Gŵyl Wyddoniaeth Bangor ar y gorwel

Mae cynllunio brwd at bedwaredd Ŵyl Wyddoniaeth flynyddol Bangor ar hyn o bryd.   Cynhelir yr Ŵyl Wyddoniaeth yn ystod Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg o ddydd Gwener 14 Mawrth i ddydd Sul 23 Mawrth 2014.

Ymwelwyr ifanc i Arddangosfa bydoedd Cudd Gŵyl Wyddoniaeth Bangor y llynedd Ymwelwyr ifanc i Arddangosfa Bydoedd Cudd Gŵyl Wyddoniaeth Bangor y llynedd Bwriedir cynnal gweithgareddau adloniadol i bob oed a byddant yn  ysgogi rhywun i feddwl hefyd - o blant ysgol ifanc a theuluoedd i'r cyhoedd yn gyffredinol a gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb yn yr ymchwil ddiweddaraf.   Nodir rhai digwyddiadau yma ac mae mwy o wybodaeth i'w chael ar wefan Gŵyl Wyddoniaeth Bangor.  Mae digwyddiadau ymylol yn cael eu hychwanegu at y rhaglen drwy'r amser ac mae'r trefnwyr yn annog unrhyw sefydliad sy'n cynnal digwyddiad yn ystod yr wythnos honno i gysylltu, oherwydd bwriedir i'r Ŵyl fod yn ganolbwynt Bangor i weithgareddau'r Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg, a gellir rhestru digwyddiadau'n ddwyieithog ar y wefan.  

Unwaith eto bydd diwrnod agored i'r cyhoedd, sef yr 'Arddangosfa Bydoedd Cudd' yn Adeilad Brambell, sydd wedi denu cannoedd o ymwelwyr ym mhob un o'r ddwy flynedd ddiwethaf.   Cynhelir y digwyddiad hwnnw ddydd Sadwrn 15 Mawrth. 

Ddydd Mawrth 18 a dydd Mercher 19 Mawrth cynhelir 'Dyddiau Ecowyddoniaeth' i ysgolion uwchradd. Mae'r rhain wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y pedair blynedd ddiwethaf.   Bydd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau ar wyddoniaeth, sioe gemeg, ymweliadau â'r amgueddfa, cinio a chystadleuaeth gyda gwobrau.

Cynhelir Ffair Yrfaoedd ym maes Gwyddoniaeth Adnoddau Cynaliadwy rhwng 1 a 4pm ddydd Mercher 19 Mawrth yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, Porthaethwy.   Mae'r digwyddiad hwn wedi'i anelu at fyfyrwyr blynyddoedd 12 a 13, yn ogystal ag israddedigion ac ôl-raddedigion, a bydd yn cynnwys cyflwyniadau ac arddangosiadau gan gyflogwyr lleol yn ogystal â chymhorthfa CV.

Unwaith eto mae'r trefnwyr yn cynnal cystadleuaeth gelf i bobl ifanc dan 18 oed.  Gall disgyblion ennill gweithdy celf i'w hysgol gyda Bedwyr Williams, arlunydd preswyl Pontio drwy genfogaeth Cyngor y Celfyddydau, a bydd eu gwaith yn cael ei arddangos hefyd mewn arddangosfa arbennig yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Gwynedd ym Mangor yn ystod Gŵyl Wyddoniaeth Bangor. 

Meddai Rosanna Robinson, Darlithydd yng Ngholeg y Gwyddorau Naturiol ac un o gydlynwyr y digwyddiad: 

"Trwy ddechrau Gŵyl Wyddoniaeth Bangor bedair blynedd yn ôl ein nod oedd ymwneud â'r gymuned ehangach yng Ngogledd Cymru a rhoi sylw i'r ymchwil wyddonol o safon ryngwladol sy'n cael ei gwneud yma ym Mangor.  Rydym yn hynod falch gyda'r brwdfrydedd a'r cyffro y mae'r Ŵyl yn eu cynhyrchu a chyda mwy o ddigwyddiadau'n cael eu hychwanegu bob wythnos mae'n ymddangos y bydd yr Ŵyl yn mynd yn fwy ac yn well hyd yn oed."

Meddai'r Cynghorydd Douglas Madge, Maer Bangor:  "Mae Gŵyl Wyddoniaeth Bangor, a drefnir gan Brifysgol Bangor, wedi bod yn boblogaidd iawn gyda phobl leol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae dinas Bangor yn falch o fod yn rhan o ŵyl o'r fath a fydd yn dangos i'r gymuned yn gyffredinol yr arbenigedd ym maes gwyddoniaeth sydd gennym yma yng Nghymru."  

Ewch i wefan Gŵyl Wyddoniaeth Bangor, www.bangor.ac.uk/bangorsciencefestival, i gael rhagor o fanylion neu anfonwch e-bost at y trefnwyr yn b.s.f@bangor.ac.uk

Trefnir yr Ŵyl gan Dr Rosanna Robinson, Coleg Gwyddorau Naturiol a Stevie Scanlan, Coleg gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol ynghyd â nifer o gydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor.  Gwnaed yr Ŵyl yn bosib drwy gefnogaeth wych ein cefnogwyr:

•             Pontio
•             Cronfa Gwaddol Dr Tom Parry Jones Endowment 

A’n partneriaid

•             Oriel ac Amgueddfa Gwynedd
•             Y BBC
•             Geo Môn
•             Gardd Botaneg Treborth y Brifysgol
•             Rhaglen Dawn a Chyfle’r Brifysgol

Am unrhyw ymholiadau pellach cysylltwch â’r Tîm ar: 01248 383696

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2014

Site footer