Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Prifysgol Bangor yn cadarnhau ei henw da ym maes gwyddor gwlyptiroedd

Yr Athro Chris Freeman efo'r Tlws diweddara’ iddo ennill.Yr Athro Chris Freeman efo'r Tlws diweddara’ iddo ennill.

Mae gwobr ryngwladol a chwrs newydd arloesol yn cadarnhau fod Prifysgol Bangor yn arwain y ffordd ym maes gwyddor gwlyptiroedd.

Mae un o ysgolheigion blaenaf y brifysgol wedi ennill gwobr wyddonol fawr yn yr un wythnos ag yr oedd yn lansio cwrs oedd y cyntaf o'i fath yn y DU.

Mewn cyfarfod o arbenigwyr gwyddor gwlyptiroedd pwysicaf y byd yn America, cyflwynwyd y wobr uchaf y gallai'r grŵp fod wedi ei chyflwyno i'r Athro Chris Freeman.

Gwnaed yr Athro Freeman yn Gymrawd o Gymdeithas y Gwyddonwyr Gwlyptiroedd fel cydnabyddiaeth o'r gwaith ymchwil arloesol y mae wedi bod yn ei wneud yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf.

Gwnaed y cyhoeddiad ar yr un pryd ag yr oedd yr Athro'n lansio gradd Meistr unigryw fydd yn cael ei dysgu yn Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol, Gwyddor a Chadwraeth Gwlyptiroedd.

llun gan Mark Cooperllun gan Mark CooperCanmolwyd yr Athro Freeman gan Gymdeithas y Gwyddonwyr Gwlyptiroedd am ei waith yn torri tir newydd ym maes ailgylchu carbon a maetholion mewn gwlyptiroedd.

Mae rhai o'i ganfyddiadau'n cael eu defnyddio mewn projectau geobeirianyddol er mwyn ymladd yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ac mae wedi gweithio ar ffyrdd o wneud dŵr yfed yn rhatach ac yn fwy diogel i gartrefi Prydain.

Ar ôl iddo gael gwybod am ei wobr, dywedodd yr Athro Freeman: "Mae'n anrhydedd enfawr derbyn Cymrodoriaeth gan Gymdeithas y Gwyddonwyr Gwlyptiroedd, ac mae'n wych fod ein gwaith ym Mhrifysgol Bangor yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol. "Mae'n amserol iawn hefyd oherwydd rydym newydd lansio gradd meistr newydd ar Wyddor a Chadwraeth Gwlyptiroedd yn y brifysgol felly mae'n hwb go iawn i'n nod ni o sicrhau fod Bangor yn arwain y ffordd wrth ymchwilio a dysgu gwyddor gwlyptiroedd."

Y cwrs ôl-radd blwyddyn yw'r unig un o'i fath yn y DU, a bydd myfyrwyr yn dysgu popeth, o sut i adeiladu gwlyptiroedd, i sŵoleg mangrofau isdrofannol.

llun gan Mark Cooperllun gan Mark CooperWrth egluro pwysigrwydd gwlyptiroedd, dywedodd yr Athro Freeman: "Mae llawer o bobl yn cymryd ein gwlyptiroedd yn ganiataol, ond maen nhw ymysg y cynefinoedd sydd mewn mwyaf o berygl ar y blaned, ac maent yn hanfodol bwysig i'n bodolaeth ni.

"Maent yn darparu dŵr glân, adnoddau a bwyd i ni, ac maent hyd yn oed yn rheoli'r hinsawdd.

Ychwanegodd: "Mae pobl yn aml yn cyfeirio at y fforestydd fel ysgyfaint y byd, ond y gwlyptiroedd yw'r galon - hebddynt, ni fyddai llawer o fywyd o gwbl."

Mae Prifysgol Bangor yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn dechrau ar y cwrs MSc Gwyddor a Chadwraeth Gwlyptiroedd ym mis Medi, ac mae cefnogaeth ariannol ar gael i fyfyrwyr o ogledd Cymru.

Am ragor o wybodaeth am y cwrs e bostiwch Christian Dunn  c.dunn@bangor.ac.uk

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2013

Site footer