Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Prifysgol Bangor yn dyfarnu tair ysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth"

Emily O’ReganEmily O’ReganMae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth" i dair myfyrwraig ragorol. Emily Louise Dunn, Emily O’Regan a Kathryn Howard. Roedd y tair yn israddedigion ym Mangor ac enillodd y tair radd anrhydedd dosbarth cyntaf ym mis Gorffennaf 2016. Mae'r ysgoloriaethau, sy'n cynnwys cost lawn y cwrs, yn galluogi'r myfyrwyr dawnus a brwdfrydig hyn i barhau â'u hastudiaethau ac maent yn awr wedi cofrestru ar gyrsiau ymchwil ôl-radd ym Mangor.

Mae Emily O'Regan, 22 oed, o Gateshead, yn astudio am MRes yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol. Meddai Emily: "Rwy'n falch iawn fy mod wedi ennill ysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth" gan Brifysgol Bangor. Mae'r brifysgol wedi rhoi cyfleoedd di-ri i mi trwy gydol fy amser yma fel myfyrwraig israddedig, ac rwy'n hynod ddiolchgar fy mod yn gallu parhau â'm haddysg ôl-raddedig yma. Mae'r ysgoloriaeth wedi rhoi'r cyfle i mi ddilyn fy niddordeb mewn ymchwil wyddonol, yn enwedig ym maes ecoleg bywyd gwyllt a chadwraeth."

Kathryn HowardKathryn HowardMae Kathryn Howard, 24 oed, o St Austell, yn astudio am MRes yn yr Ysgol Peirianneg Electronig. Meddai Kathryn, sy'n ymchwilio i beirianneg microdonau: "Rwy’n ddiolchgar iawn fy mod wedi ennill ysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth" ac wedi cael y cyfle i aros ym Mangor ac astudio am MScRes. Mae gradd meistr ymchwil yn sylfaen wych i ddatblygu sgiliau penodol i ddiwydiant, a pharhau i elwa o fod yn amgylchedd dysgu'r brifysgol. Mae bod mewn cysylltiad agos â chwmni (Creo Medical Ltd) yn golygu y byddaf yn cael cyfleoedd gwych i ymweld â nhw a chymryd rhan mewn projectau diwydiannol a chreu perthynas gref ar gyfer gyrfa ym maes gwyddoniaeth ar ôl cwblhau'r radd meistr. "

 

 

Emily DunnEmily DunnRoedd Emily Louise Dunn, 23 oed, o Ddyfnaint sy'n astudio am MRes Ffisioleg yn yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer hefyd wrth ei bodd ar ôl ennill yr ysgoloriaeth: “Bydd yr ysgoloriaeth yn fy ngalluogi i wneud ymchwil pwysig ar ffisioleg gardiofasgwlaidd, ac mae hefyd yn rhoi'r cyfle imi aros yn y byd academaidd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn ac rwy'n gobeithio aros yma i wneud PhD.

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gynyddu cyfranogiad merched mewn gwyddoniaeth ar bob lefel o addysg, ac mae'r ysgoloriaethau hyn yn gam pellach tuag at annog a galluogi mwy o ferched i ddilyn gyrfaoedd gwyddonol. Dyfarnodd Prifysgol Bangor ei hysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth" gyntaf yn 2015 i Elizabeth McManus a gwblhaodd, gyda chefnogaeth yr ysgoloriaeth, gwrs MSc Niwroddelweddu yn yr Ysgol Seicoleg. Erbyn hyn, mae Elizabeth ym Mhrifysgol Manceinion yn astudio am PhD a ariennir gan y BBSRC. 

Meddai’r Athro John Hughes, Is-ganghellor: "Mae darparu amgylchedd cefnogol i ferched sy'n astudio pynciau STEMM yn strategol bwysig i'r brifysgol. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i Siarter Gender Athena SWAN ECU ac mae gennym wobr efydd sefydliadol yn ogystal â thair gwobr efydd adrannol. Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu dyfarnu ysgoloriaethau "Merched mewn Gwyddoniaeth" am yr ail flwyddyn yn olynol. Rydym yn gobeithio gwneud hyn yn flynyddol er mwyn meithrin carfan gref o gyn-fyfyrwyr sydd wedi ennill yr ysgoloriaeth arbennig hon dros y blynyddoedd."

Straeon perthnasol:

Dunn-a gamp! Emily yn llwyddo yn Awstralia

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2017

Site footer