Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Profiad newydd i fam leol

Mam ifanc a adawodd yr ysgol yn 16 oed yn dweud fod astudio ym Mhrifysgol Bangor wedi newid ei bywyd.Natasha Stubbs-DaviesNatasha Stubbs-Davies

Mae Natasha Yvonne Stubbs-Davies, 35,  mam i dri o blant o Ddeganwy, yn graddio gyda BSc mewn Bioleg Canser.

Dywedodd y cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo: "Wrth raddio mae gen i  gymysgedd o falchder, rhyddhad fod fy ngwaith yn ddigon da a llawenydd!

"Gadewais yr ysgol yn 16 oed i ofalu am fy mam a'm brodyr a chwiorydd oherwydd ei salwch. Dychwelais i astudio yng Ngholeg Llandrillo  yn  22 oed a chwblhau gyda graddau ardderchog.  Ar ôl ychydig o flynyddoedd caled, penderfynais ei bod yn amser am newid a gwneud cais i Fangor i gyflawni fy uchelgais o astudio Gwyddorau Biolegol. Mae wedi newid fy mywyd, ac wedi rhoi ‘r  cyfle i mi roi   bywyd o well ansawdd  i fy mhlant. Rwyf yn ddiolchgar tu hwnt i fy holl diwtoriaid, yn enwedig Dr Thomas Caspari, maent yn bobl  sy’n gwirioneddol danio brwdfrydedd rhywun.

Am Fangor, ychwanegodd Natasha: "Dewisais Fangor gan fy mod eisiau astudio’n  lleol oherwydd ymrwymiadau teuluol. Yn ffodus, mae’r  Ysgol Gwyddorau Biolegol ym Mangor yn cynnig ystod ardderchog o gyrsiau.

"Mae myfyrwyr ym Mangor yn ffodus  bod Sefydliad Ymchwil Canser Gogledd Cymru wedi’i leoli yn y Brifysgol, ac felly rydym yn cael ein dysgu gan ymchwilwyr ysbrydoledig.

"Uchafbwynt fy amser ym Mangor oedd cael fy nghanlyniadau. Mae'r rhyddhad a’r  llawenydd fy mod wedi ennill y radd yn eithriadol  ac yn emosiynol iawn.

"Mae astudio’n  llawn amser a gofalu am deulu ifanc wedi bod yn heriol iawn. Mae'n anodd  cael cydbwysedd, rhwng bod yn y rhiant gorau y gallaf ei fod a neilltuo digon o amser i astudio a chwblhau aseiniadau.

"Yn y dyfodol rwy'n gobeithio parhau â'm hastudiaethau ac, yn y pen draw,  gweithio ym maes ysgrifennu am wyddoniaeth ac ymwneud  â'r cyhoedd."

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013

Site footer