Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Pynciau Prifysgol Bangor ymhlith y gorau yn y byd

Mae dadansoddiad sydd newydd ei gyhoeddi o dablau cynghrair diweddaraf QS World University Rankings bellach yn darparu gwybodaeth am safleoedd gwahanol bynciau ym mhrifysgolion gorau’r byd. Mae Prifysgol Bangor wedi llamu 60 safle yn uwch i safle 411 yn fyd-eang yn y tablau dylanwadol hyn.

Mae chwe phwnc ac un maes pynciol ym Mhrifysgol Bangor i’w gweld ymhlith prifysgolion gorau’r byd yn nhabl cynghrair yn ôl pynciau QS World University Rankings. Mae Amaethyddiaeth a Choedwigaeth i’w gweld ymhlith y 100 sefydliad gorau ledled y byd sy’n dysgu’r pwnc (a 4ydd yn y DU) gan godi o fod ymhlith y 200 gorau'r llynedd.

Mae Ysgol Seicoleg Bangor wedi ei gosod ymysg y 200 cyfadran seicoleg orau ledled y byd a 30ed yn y DU. Gosodwyd y Gwyddorau Amgylcheddol ymysg y 250 uchaf, gan ymddangos 25ain yn y DU, tra bod Ysgol Ieithyddiaeth Bangor yn y 300 uchaf (safle 32 yn y DU) ac mae’r Gwyddorau Biolegol a Meddygaeth yn y 500 gorau ledled y byd ( a 37 a 40 yn y DU). Mae’r categori Gwyddorau Bywyd a Meddygaeth, sy’n cynnwys 6 is-faes, hefyd yn ymddangos yn y 500 uchaf ac yn safle 35 yn y DU. Mae hyn yn cynnig llwyfan gwych i ddatblygu arno yn y maes hwn.

Mae’r tablau pwnc yn ystyried ymchwil ac enw da rhyngwladol ac mae’n rhaid i brifysgolion gwrdd â meini prawf llym er mwyn cael eu cynnwys yn y tablau. Eleni, llwyddodd 30 o bynciau sy’n cael eu dysgu ym Mangor i gwrdd â’r meini prawf hynny.

Meddai’r Athro Jo Rycroft-Malone, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil ac Effaith) Prifysgol Bangor:

“Yn y tabl yma mae sefydliadau’n cael eu mesur yn ôl ymateb cymheiriaid a chyflogwyr ac yn ôl nifer y papurau ymchwil sy’n cael eu cyhoeddi  ac felly mae’r ffaith ein bod ni mewn safle uwch yn y gynghrair eleni yn adlewyrchu dylanwad cynyddol ein hymchwilwyr.

Yr hyn sy’n galonogol ydy bod y dadansoddiad o’r data yn dangos bod enw da academaidd Prifysgol Bangor yn gwella yn y rhan fwyaf o bynciau ac eleni mae 18 o bynciau wedi gwella eu sgôr.

Mae’r ffaith ein bod wedi cynyddu nifer y pynciau sydd wedi eu cynnwys yn y rhestr yn dangos ehangder a dyfnder yr ymchwil  ansawdd uchel a’r effaith a geir ym Mhrifysgol Bangor ac yn cadarnhau ein safle ar y llwyfan byd-eang.”

Cafodd y QS Subject Rankings eu lansio yn 2011 ac maent yn ganllaw i nifer o feysydd astudio poblogaidd mewn prifysgolion ledled y byd.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2017

Site footer