Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

REF 2014: Ymchwil gyda'r orau yn y byd yn y Gwyddorau Biolegol

Mae Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Biolegol wedi croesawu canlyniadau REF2014, sy'n rhoi'r Ysgol yn yr 20 uchaf yn y DU. 

Meddai'r Athro Chris Freeman am y canlyniadau:  "Mae'n wych bod yr ymchwil arloesol sy'n cael ei gwneud yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol wedi cael ei chydnabod mor ffordd mor bwysig."

Fe wnaeth yr Athro Freeman, y mae ei ymchwil ei hun ar wlypdiroedd yn cael clod rhyngwladol yn rheolaidd, ganmol gwaith ei gydweithwyr yn sicrhau canlyniad mor dda i'r Ysgol.

"Yn yr Ysgol mae yna swm enfawr o ymchwil ragorol yn cael ei gwneud gan yr holl aelodau staff; mae hyn yn cael effeithiau real a mesuradwy ar fywydau pobl yng Nghymru a ledled y byd.  

"Rydym yn edrych ar faterion yn amrywio o sut i wella ansawdd ein dŵr yfed i ddiogelu ein stociau pysgod, ac o ymladd yn erbyn newid hinsawdd i ddiogelu rhai o'r rhywogaethau sydd dan fygythiad mwyaf ar y blaned. 

"Mae Bangor yn gwirioneddol arwain y ffordd gyda chymaint o faterion gwyddonol mawr y dyddiau hyn ac mae ein myfyrwyr yn manteisio'n helaeth iawn drwy gael ymchwilwyr mor arloesol yn ddarlithwyr iddynt.

"Mae'r gydnabyddiaeth hon o'n cynnyrch ymchwil, sy'n dod ychydig ar ôl y cyhoeddiad mai ein Hysgol yw'r orau yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr, yn dangos bod gan y Gwyddorau Biolegol ddyfodol disglair iawn ym Mangor," ychwanegodd yr Athro Freeman. 

 

Gellir mynd at dabl cryno yn rhoi canlyniadau REF y Brifysgol yma

.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014

Site footer