Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Stephanie ar y ffordd i'w gyrfa ddelfrydol

Stephanie DaviesStephanie DaviesMae myfyrwraig o ogledd Cymru, sy'n graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos yma, ar y ffordd yn bendant i'w gyrfa ddelfrydol ar ôl sicrhau swydd dros dro yn Sw Caer.

Bu Stephanie Davies, 27, o Gei Connah, Sir y Fflint, yn astudio am dair blynedd yn Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol gan ennill gradd dosbarth cyntaf BSc mewn Sŵoleg gyda Herpetoleg.  Hefyd enillodd Stephanie Wobr Syr Alfred Lewis, a ddyfernir i'r myfyriwr blwyddyn olaf gorau sydd wedi cwblhau cwrs anrhydedd sengl yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol.

Ers gadael yr ysgol uwchradd mae Stephanie, a fu'n fyfyrwraig yng Ngholeg Cambria, wedi gweithio mewn sawl maes, yn cynnwys y sectorau gwerthu, gweinyddu a gofal iechyd.  Hefyd bu'n gweithio'n wirfoddol ym maes gofalu am anifeiliaid, a dyna wnaeth ei hysgogi i ddychwelyd i fyd addysg yn 2010 i astudio lles anifeiliaid.  Cynyddodd ei diddordeb mewn ymlusgiaid ac amffibiaid yn ystod ei chyfnod yn y coleg, a dyna pam y dewisodd y cwrs BSc Sŵoleg gyda Herpetoleg ym Mhrifysgol Bangor. 

Meddai Stephanie ynghylch ei phenderfyniad i astudio ym Mhrifysgol Bangor a'i phrofiad fel myfyrwraig yno:  "Fe wnaeth agwedd herpetolegol y cwrs sŵoleg, ynghyd ag agosrwydd y brifysgol at fy nghartref, roi Bangor ar frig fy newis o brifysgolion.  Ar sail y golygfeydd ysblennydd yn yr ardal a'r cyfleoedd i wneud gweithgareddau awyr agored, Bangor o bell ffordd oedd y dewis gorau i mi. 

"Fel myfyrwraig hŷn yn dychwelyd i fyd addysg, cefais drafferth i ddechrau i fynd yn ôl i astudio ac ymdopi â ffordd o fyw myfyrwyr.  Fodd bynnag, fe wnes i ymgartrefu'n ardderchog ar ôl ychydig fisoedd a dechrau mwynhau fy nghyfnod ym Mangor yn fawr iawn.  Bûm yn aelod o'r Gymdeithas Herpetolegol drwy gydol y tair blynedd, yn aelod o Grŵp Amffibiaid ac Ymlusgiaid Gogledd Orllewin Cymru yn fy ail a'm trydedd flwyddyn ac o'r Gymdeithas Sŵolegol yn fy mlwyddyn gyntaf. 

"Yn ystod fy ail flwyddyn euthum ar daith faes herpetolegol i Arizona ac roedd yn gofiadwy tu hwnt!  Roedd hyn yn cynnwys chwilio am rywogaethau ymlusgiaid brodorol; datblygu sgiliau ymchwil maes, yn cynnwys adnabod rhywogaeth a chymryd nodiadau, dilyn hynt nadroedd rhuglo gyda radio, rhoi cyflwyniadau i gynulleidfa academaidd, datblygu sgiliau trin nadroedd gwenwynig a gwneud arolwg o boblogaethau ystlumod lleol. 

"Fe wnaeth y daith yma danio fy mrwdfrydedd ym maes amffibiaid ac o ganlyniad yn fy nhrydedd flwyddyn dewisais wneud project arbrofol allanol ar frogaod Natterjack, gan ddefnyddio cysylltiadau roeddwn wedi'u gwneud yn ystod dyddiau gwirfoddoli i reoli cynefinoedd ar hyd arfordir gogledd Cymru.  Gyda'u cefnogaeth hwy, llwyddais i gynllunio a phrofi model prototeip addasrwydd cynefin i'r amffibiad brodorol prin yma.  Rwy'n bwriadu cyhoeddi fy narganfyddiadau mewn cyfnodolyn gwyddonol yn ddiweddarach eleni.

"Dwi'n hynod ffodus o gael swydd dros dro fel ceidwad yn yr Adran Darganfod a Dysgu yn Sw Caer.  Dyma yrfa sydd wrth fodd fy nghalon a dwi'n hynod falch o gael profiad ym myd diwydiant mor fuan ar ôl gorffen fy ngradd.  Fy nod tymor hir ydi parhau i weithio'n agos gyda'r cyhoedd, gan ddysgu pobl am fygythiadau presennol i fyd natur a'r strategaethau i'w trechu. 

"Dwi'n teimlo cymysgedd o lawenydd o gael graddau mor uchel a thristwch bod fy amser ym Mhrifysgol Bangor wedi dod i ben. Dwi'n hynod ddiolchgar i'r holl staff a roddodd bob cymorth i mi yn ystod fy nhair blynedd yn y brifysgol, a hefyd i'm teulu a'm ffrindiau. Heb eu cefnogaeth ddiwyro nhw ni fyddwn wedi llwyddo yn y fenter academaidd yma." 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2015

Site footer