Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Tansanïa i fabwysiadu polisïau newydd i ddiogelu stociau pysgod

Rhywogaeth tilapia oreochromis: Credyd lluniau:Tarang  Mehta, Sefydliad Earlham  Rhywogaeth tilapia oreochromis: Rhywogaeth tilapia oreochromis: Credyd lluniau:Tarang Mehta, Sefydliad EarlhamRhywogaeth tilapia oreochromis: Llyn Kiwaleni, Ynys Pemba, Bu i'r gwyddonwyr samplo tilapia o'r pyllau pysgota er mwyn gwahaniaethu rhwng y rhywogaethau brodorol a  rhai anfrodorol sydd wedi ffoi i'r gwyllt.: Credyd lluniau:Tarang Mehta, Sefydliad EarlhamLlyn Kiwaleni, Ynys Pemba, Bu i'r gwyddonwyr samplo tilapia o'r pyllau pysgota er mwyn gwahaniaethu rhwng y rhywogaethau brodorol a rhai anfrodorol sydd wedi ffoi i'r gwyllt.: Credyd lluniau:Tarang Mehta, Sefydliad Earlham

Mae Tilapia yn grŵp o bysgod dŵr croyw trofannol o Affrica sy'n cynnal diwydiant ffermio pysgod aml-biliwn sy'n tyfu'n gyflym. Fodd bynnag, mae'r ffynhonnell bwysig hon o fwyd mewn perygl oherwydd bod rhywogaethau brodorol yn rhyngfridio â mathau a ffermir. Mae hyn yn effeithio ar bysgod gwyllt a physgod a ffermir, ac mae wedi achosi pryder cynyddol.

Er bod y diwydiant yn ffynnu yn Asia, mae ffermio pysgod yn dal yn ei gamau cynnar yn Affrica, lle mae'r rhan fwyaf o'r tilapia yn cael eu cynaeafu o boblogaethau gwyllt trwy ddulliau pysgota traddodiadol.

Mae Gweinyddiaeth Da Byw a Physgodfeydd Tansanïa yn bwriadu mabwysiadu argymhellion ar gyfer cadw'r amrywiaeth genetig unigryw o tilapia ar gyfer diogelwch bwyd.

Mae'r argymhellion yn seiliedig ar ganfyddiadau ymchwil dan arweiniad yr Athro George Turner o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â chydweithwyr ym Mhrifysgol Bryste, Sefydliad Earlham yn Norwich ac yn Tanzania Fisheries Research Institute (Tafiri), a ariennir gan y Gymdeithas Frenhinol, yr Ymddiriedolaeth Leverhulme, y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a'r Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC).

Roedd y rhaglen ymchwil saith mlynedd yn mapio dosbarthiad rhywogaethau tilapia brodorol a rhai anfrodorol a dulliau genetig moleciwlaidd o'r radd flaenaf i ganfod croesfridio mewn ffermydd pysgod ac ymhlith cymunedau gwyllt, gyda'r ddau yn fygythiad i'r boblogaeth naturiol ac i ddiogelwch bwyd.

Bydd cam nesaf y project, a ariennir gan Sefydliad Bioamrywiaeth JRS, yn ehangu'r rhaglen i Kenya, gyda chymorth ap ffôn clyfar ar gyfer cofnodi dosbarthiadau, a helpu i nodi poblogaethau pur. Gellir defnyddio'r rhain i ailstocio ffermydd pysgod, cynorthwyo i gynnal cynhyrchu bwyd o stociau pysgod gwyllt a stociau ffermydd pysgod ac i gynnal yr amrywiaeth genetig gwyllt a all helpu i ddiogelu'r diwydiant byd-eang yn erbyn bygythiadau fel achosion o glefydau newydd.

Roedd adroddiad ym mhapur newydd yn Tansanïa, The Citizen, yn dyfynnu Dr Rashid Tamatamah, Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth yn dweud:

"Mae'r llwyddiant wrth ddatblygu system reoli gadarn yn y sector pysgodfeydd yn dibynnu ar ymchwil, sy'n darparu gwybodaeth wyddonol ar gyfer rheoli gwell. Byddwn yn defnyddio'r argymhellion i wella cadwraeth pysgod dŵr croyw a chynhyrchu tilapia."

Eglurodd yr Athro George Turner:

"Mewn gwlad sy'n wynebu twf cyflym yn y boblogaeth, mae lleihad mewn cynhyrchu pysgod fel ffynhonnell fwyd yn fygythiad difrifol i'r datblygiad dyframaethu cynaliadwy sydd ei angen i gydredeg â'r  twf yn y boblogaeth.

Mae ein canlyniadau yn tanlinellu'r angen am bolisïau dyframaethu a physgodfeydd dal i ddiogelu bioamrywiaeth naturiol a harneisio ei rôl werthfawr yn hyrwyddo diogelwch bwyd."

Argymhellion polisi'r papur oedd:
Gwella pysgodfeydd dal gan ddefnyddio rhywogaethau cynhenid

  • Defnyddio rhywogaethau brodorol mawr o gorff yn unig mewn pysgodfeydd gwyllt i ddileu'r risg o hybrideiddio a chlefyd.

Hyrwyddo ehangu dyframaethu cynaliadwy

  • Dosbarthu pysgod ifanc o ddeorfeydd yn unig i osgoi halogiad gyda rhywogaethau ymledol bach o gorff.
  • Hyrwyddo dyframaethu wedi'i rannu'n ardaloedd i dyddynwyr, yn seiliedig ar rywogaethau cynhenid ​​i'r dalgylch.
  • Cyfyngu'r defnydd o rywogaethau anfrodorol i ffermydd masnachol mawr, sydd â bioddiogelwch cryf.

Gwneud rheoli bioamrywiaeth yn flaenoriaeth

• Hyrwyddo sgiliau adnabod pysgod ymysg pysgodfeydd, dyframaethu ac ymarferwyr cadwraeth.

• Nodi a gwarchod poblogaethau newydd pob tilapia cynhenid ​​yn Tansanïa, i warchod amrywiaeth genetig.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2018

Site footer