Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Therapïau canser dynol yn trin crwbanod môr llawn tiwmorau yn llwyddiannus

Crwban môr gwyrdd 'Remi' yn dioddef oddi wrth nifer o diwmorau fibropapillomatosis, yn cynnwys tiwmorau amlwg ar y llygaid. : Credyd llun: Rachel ThomasCrwban môr gwyrdd 'Remi' yn dioddef oddi wrth nifer o diwmorau fibropapillomatosis, yn cynnwys tiwmorau amlwg ar y llygaid. : Credyd llun: Rachel ThomasMae astudiaeth newydd yn dangos y gellir defnyddio therapïau a ddefnyddir i drin canserau mewn pobl yn llwyddiannus hefyd i drin tiwmorau sy'n debyg o ran eu geneteg mewn crwbanod môr.  Mewn gwirionedd, gall crwbanod ddod dros eu tiwmorau eu hunain a helpu gwyddonwyr i ddeall canserau dynol yn well. 

Mae afiechyd, a elwir yn Fibropapillomatosis, wedi bod yn ymledu'n gyflym mewn crwbanod môr ledled y byd.  Mae'r firws fibropapillomatosis yn achosi i diwmorau mawr dyfu ar gyrff y crwbanod môr, gan ladd rhai ohonynt.   

Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd ar-lein heddiw yn Communications Biology, mae consortiwm o wyddonwyr o ddwy ochr Yr Iwerydd, dan arweiniad Prifysgol Florida, yn disgrifio ymgais lwyddiannus i ddefnyddio therapïau a ddefnyddir i drin canser mewn pobl i drin crwbanod môr sy'n dioddef o'r tiwmorau hyn.  Fe wnaeth ymchwilwyr yr astudiaeth ddatgelu rhai rhesymau firol newydd a chliwiau ynghylch yr hyn sy'n achosi ymlediad yr afiechyd hwn, yn cynnwys cyswllt posibl rhwng tiwmorau'r crwbanod môr a dod i gysylltiad am gyfnodau maith a phelydrau uwchfioled (UV).

Gwnaed y darganfyddiad gan ymchwilwyr Prifysgol Florida ar ôl iddynt ddechrau astudio genomeg y tiwmorau hyn i ddysgu am eu bioleg a'u hanes ac efallai adnabod triniaethau iddynt. 

"Yn ystod yr ymchwil yma fe wnaethom ddarganfod ein bod wedi gweld yr un nodweddion genomaidd sylfaenol o'r blaen - a hynny mewn mathau o ganser dynol," meddai Dr David Duffy, cymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Bangor ac Athro Cynorthwyol yn Labordy Whitney Prifysgol Florida. "Bydd deall y tiwmorau hyn yn well yn helpu ein hastudiaethau i'r ffactorau sydd y tu ôl i nifer o fathau o ganser dynol." 

Crwban môr gwyrdd ifanc (Remi) yn cael ei baratoi ar gyfer llawdriniaeth i dynnu tiwmor yn Ysbyty Crwbanod Môr Prifysgol Florida yn Labordy Whitney: Credyd llun: David DuffyCrwban môr gwyrdd ifanc (Remi) yn cael ei baratoi ar gyfer llawdriniaeth i dynnu tiwmor yn Ysbyty Crwbanod Môr Prifysgol Florida yn Labordy Whitney: Credyd llun: David DuffySesiwn holi gyda Dr. David Duffy a'r Athro Mark Martindale

Beth sydd fwyaf cyffrous ynghylch y darganfyddiadau i chi?

Y peth mwyaf cyffrous yw gallu profi y gallwn ganfod cyfrinachau a dirgelion y tiwmorau hyn mewn crwbanod môr gan ddefnyddio dulliau oncoleg dynol.  Mae'n ein galluogi i ddeall yr afiechyd yn sydyn ac adnabod ffyrdd newydd o drin ac adfer crwbanod sy'n wael.  Dychmygwch fanteision cymhwyso'r math yma o wybodaeth at afiechydon eraill sy'n dod i'r amlwg mewn bywyd gwyllt.

Sut yn union y gall hyn ein helpu i gael golwg allweddol ar y sefyllfa?

Mae crwbanod môr ledled y byd yn dal yr afiechyd hwn yn gyflym, felly rydym angen deall sut mae'n ymledu mor sydyn a sut i atal y tiwmorau rhag tyfu.  Gyda dulliau meddygaeth ddynol, dim ond ychydig samplau o diwmorau sydd eu hangen i symud ymlaen yn sylweddol tuag at ymladd yn erbyn y ddau ffactor. 

Mae'r crwbanod hyn eisoes mewn perygl ac yn wynebu llu o broblemau eraill o waith dyn, yn cynnwys llygredd, moroedd sy'n llawn o blastig, mynd yn sownd mewn rhwydi pysgota, cael eu taro gan gychod a cholli cynefinoedd nythu a riffiau cwrel.  Y peth olaf y maent ei eisiau yw afiechyd canseraidd enbyd. 

Ellwch chi ddweud ychydig mwy am y dulliau a'r dechnoleg a ddefnyddiwyd gennych?  

Ar ôl tynnu rhai o'r tiwmorau firol gyda laser, fe wnaethom dynnu'r RNA allan, a defnyddio ein technolegau genomig ar gyfer dilyniannu.  Rhoddodd hyn wybodaeth i ni am bob gennyn a oedd yn bresennol - miliynau o ddarlleniadau i bob sampl o filoedd o drawsgrifiadau RNA. 

Fe wnaeth uwch gyfrifiaduron nodi gwahaniaethau yng ngweithgaredd genynnau rhwng y tiwmorau wedi'u heintio a meinwe nad yw'n cynnwys tiwmorau, gan ddatgelu'r genynnau sy'n gyfrifol am achosi twf tiwmorau.  Drwy wneud hyn roeddem yn gallu cael hyd i'r gwendidau y gellid eu targedu gyda chyffuriau a ddefnyddir i drin canser mewn pobl ac fe welsom fod y tiwmorau roeddem yn eu hastudio yn debyg i fath o ganser y croen a geir mewn pobl, sef carsinoma cell waelodol. 

Crwban môr gwyrdd ifanc yn gwella yn un o'r tanciau adferiad yn Ysbyty Crwbanod Môr Prifysgol Florida ar ôl rownd gyntaf llawdriniaeth i dynnu tiwmorau, pryd y tynnwyd tiwmorau oddi ar ei ffliper dde a chefn ei wddf.: Credyd llun: David DuffyCrwban môr gwyrdd ifanc yn gwella yn un o'r tanciau adferiad yn Ysbyty Crwbanod Môr Prifysgol Florida ar ôl rownd gyntaf llawdriniaeth i dynnu tiwmorau, pryd y tynnwyd tiwmorau oddi ar ei ffliper dde a chefn ei wddf.: Credyd llun: David DuffyRhoddodd hyn olwg i ni ar driniaethau gyda chyffuriau newydd ac awgrymu bod dod i gysylltiad ag UV yn gallu achosi i'r afiechyd ddatblygu.  Gan gydweithio â'r Turtle Hospital ar Marathon Key fe wnaethom ddangos bod trin crwbanod môr a oedd yn gleifion yno gyda chyffuriau gwrth-ganser yn lleihau'n sylweddol iawn achosion o diwmorau'n ail-dyfu.

Beth yw diffygion yr astudiaeth?  Beth hoffech ei wneud nesaf?

Y cam nesaf yw ehangu ein hymchwiliad i'r tiwmorau hyn ar draws ardal ddaearyddol ehangach, y tu allan i Florida, ac yna ehangu nifer y cyffuriau gwrth-ganser sydd ar gael i drin yr afiechyd hwn. 

Rydym hefyd yn bwriadu astudio is-fathau o diwmorau, megis triniaethau i grwbanod môr sy'n dioddef oddi wrth diwmorau mewnol.  Ar hyn o bryd mae'n rhaid difa'r anifeiliaid hyn, ond os gallwn gymhwyso'r proffilio genomig at diwmorau mewnol yn ogystal, fe allwn bennu cyffuriau gwrth-ganser ar gyfer trin y crwbanod hynny sy'n dioddef oddi wrthynt. 

Yn ddiddorol, fe wnaethom ganfod nad yw'r firws yn weithredol mewn tiwmorau sydd wedi ymsefydlu.  Mae hyn wedi gwneud i ni ofyn a yw'r firws yn chwarae rhan fwy amlwg mewn tiwmorau a ffurfiodd mewn camau cynharach.

Yn olaf, mae yna gyswllt posib rhwng dod i gysylltiad ag UV a thwf tiwmorau a hoffem astudio hynny ymhellach, yn benodol os yw gwahanol raddau o ddod i gysylltiad â phelydrau UV i gyfrif am wahaniaethau daearyddol rhwng poblogaethau cyfagos o grwbanod môr.   

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2018

Site footer