Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Tir, Bwyd a Phŵer

Mae sut y mae'r hyn a fwytawn heddiw wedi cael ei ddylanwadu gan wladoli yn cael ei drafod mewn digwyddiad a gynhelir gan Brifysgol Bangor (heddiw / 16 Mehefin). Bydd cynhyrchwyr bwyd lleol Maggie Ogunbanwo, awdur llyfr coginio The Melting Pot a gyhoeddwyd yn ddiweddar, perchennog Maggie's An African Twist to Your Everyday Dish® (Penygroes) ac Olwen Ford, o Fferm Llan (Llanfrothen) rannu eu profiadau a'u barn am fwyd, tir a phŵer yn y digwyddiad ar-lein dwyieithog.
‘Mae’r digwyddiad yma yn un o gyfres sy'n dod â chynhyrchwyr bwyd, haneswyr a'r rhai sy'n weithgar mewn symudiadau bwyd ynghyd ag academyddion ac eraill i drafod 'dadgoloneiddio' bwyd,’ medd Robat Idris o'r grŵp trefnu.


Mae Dadgoloneiddio Daearyddiaethau Bwyd yn digwydd drwy Zoom ac mae'n ddigwyddiad rhad ac am ddim i fynychu. 
Bydd siaradwyr yn mynd i'r afael ag ymarfer a pholisi a byddant yn trafod systemau bwyd coloniaidd y gorffennol, yn cyflwyno pryderon a heriau yn y dyfodol o fewn y cyd-destun cynaliadwyedd unigryw a gaiff ei lunio gan ymrwymiad cyfreithiol Nodau Lles y Dyfodol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru.


Bydd Carwyn Graves, hanesydd bwyd, yn archwilio treftadaeth fwyd Cymru a phrofiadau o sofraniaeth tir a phrofiadau cymunedol. Bydd profiadau a rennir o'r Alban yn cael eu harchwilio gan Dr AlastaIr McIntosh, awdur Soul and Soil. Bydd Dr Glenda Thomas, o FWAG Cymru (Farming and Rural Advisory Group) yn crynhoi'r heriau i ffermydd teuluol sy'n gysylltiedig â newid cymorth ffermio yng Nghymru.


Yn ystod y prynhawn bydd trafodaeth banel gyda Sam Robinson,  sydd yn gweithio fel bugail a Gerald Miles, sydd yn cynrhychioli’r LWA (Landworkers Alliance) a Fferm Caerhys yn galluogi grwpiau sydd yn aml wedi'u heithrio rhag gwneud penderfyniadau i gymryd rhan yn mynd i'r afael â chyfiawnder cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol. 

Mae hyn wedi'i fframio gan broses Dadgoloneiddio Daearyddiaeth Bwyd, yr egwyddor sylfaenol ar gyfer y gyfres hon o seminarau cydweithredol ar draws pedair Prifysgol a Sefydliad Datblygu yn y DU. Bydd Natasha Toone yn rhannu ymchwil ddiweddar ar dlodi bwyd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru sy'n dangos yr angen i fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd lleol wrth gynllunio dyfodol ffermio, bwyd a defnydd tir yng Nghymru.


Mae Dr Eifiona Thomas Lane darlithydd daearyddiaeth bwyd ym Mhrifysgol Bangor a Chadeirydd Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru, yn gobeithio am ganlyniadau ymarferol ac meddai:


"Bydd y sesiwn olaf yn gyfle i’r rhai sydd wedi ymuno i ymrwymo i dri cham gweithredu cyraeddadwy er mwyn cefnogi'r broses o ddadgoloneiddio ym meysydd ymchwil, datblygu ac addysgu, yn eu bywydau personol a phroffesiynol ar draws ffiniau sefydliadol a disgyblaeth."


Bydd y seminar hon yn bwydo i mewn i gynhadledd flynyddol y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol yn Awst. Deialog Bangor yw'r pedwerydd deialog yn y gyfres ac mae'n gydweithrediad â Chanolfan Amaethecoleg, Dŵr a Gwydnwch (CAWR) Prifysgol Coventry, y Sefydliad Astudiaethau Datblygu yn Brighton, UCLAN ac ystod eang o ymgyrchwyr cymunedol. Ariennir y gyfres gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol a'r Gronfa Ymchwil Gymdeithasol Annibynnol.


Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru: https://foodgeographies.wordpress.com/bangor-seminar/ 

Bydd y digwyddiad hwn yn ddwyieithog gyda chyfieithu ar y pryd.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2021

Site footer