Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Trafod Gwir Llew-Frenin y Gwyllt

Gyda Disney yn paratoi i ryddhau fersiwn newydd o’r ffilm The Lion King y mis yma, mae Dr Graeme Shannon o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor yn edrych ar sut mae’r ffilm wreiddiol yn portreadu ymddygiad cymdeithasol yr anifeiliaid.

Bydd y fersiwn newydd o un o glasuron Disney yn cael ei ryddhau ar Ddydd Gwener y 19eg o Orffennaf. Yn ymchwilydd a darlithydd profiadol ym meysydd sŵoleg ac ymddygiad anifeiliaid, mae Dr Graeme Shannon wedi bod yn edrych ar sut mae’r cartŵn yn darlunio anifeiliaid yn y gwyllt, yn enwedig llewod. Dywedodd:

“O ystyried ymddygiad anifeiliaid, mae Disney wedi edrych ar lewod yn bennaf ac maent wedi gwneud hynny’n reit dda, ond maen nhw’n amlwg wedi troedio’n ofalus wrth ddelio efo agweddau creulon ac ysglyfaethus y llewod. Mae hyd yn oed golygfa’r ‘paru’ wedi ei gwneud gyda chân rhamantus yn chwarae yn y cefndir – pan fo paru llewod yn gwbl wahanol i hynny mewn gwirionedd!” 

“Maent wedi portreadu gwahanol rywogaethau anifeiliaid ac mae’r portread o lew yn gymharol gywir. O edrych ar y gnud a threfniant y grŵp, mae gennych chi wryw goruchaf, neu weithiau cewch glymblaid o lewod gwrywol, ac yna grŵp o fenywod sy’n perthyn i’w gilydd a’i plant hwythau. Mae hynny yn bortread cywir o’r llew, yr unig un o deulu’r cathod sydd yn gymdeithasol fel hyn.”

Yn ôl Dr Graeme Shannon mae yna un anghywirdeb gwbl amlwg yn y ffilm Disney, fodd bynnag. Ychwanegodd:

“Dydi’r rhuo yr ydym yn ei glywed gan Mufasa a rhai o’r llewod eraill yn The Lion King ddim yn fanwl gywir. Mae gan y llew fwy o roch yddfol sydd yn uchel ac yn gallu teithio nifer o gilometrau ond nid ydyw’n swnio fel y rhuo clasurol rydan ni’n ei glywed yn y ffilm."

Wrth siarad am rai o rywogaethau eraill y ffilm, dywed Dr Shannon fod yr hienas wedi eu cam-borteadu fel sborionwyr ac fel cymeriadau drwg y ffilm. Ychwanegodd:

“Mae’r hiena smotiog, sef y rhywogaeth maen nhw’n canolbwyntio arni yn y ffilm, yn ysglyfaethwr effeithiol yn ei rinwedd ei hun, gan hela 90% o’i fwyd ac nid o reidrwydd yn chwilio am sborion.” 

“Maent hefyd yn gymdeithasol iawn ac yn meddu ar allu gwybyddol ar lefel eithaf uchel, gyda’r gallu i brosesu gwybodaeth a datrys problemau. Rwy’n adnabod sawl ymchwilydd sydd yn siomedig iawn efo’r portread o hienas yn y ffilm fel unigolion milain, twp sydd yn cael eu harwain gan Scar i ladd Simba.” 

Mae myfyrwyr sydd yn astudio yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor yn cael y cyfle i feddu ar brofiad ymarferol o ymddygiad anifeiliaid yn y labordy ac allan yn y gwyllt fel rhan o’i hastudiaethau israddedig ac ôl-raddedig. Ychwanegodd Dr Shannon: 

“Mae gennym fodiwlau ymddygiad sydd yn cynnwys asesiadau ymarferol yn edrych ar ymddygiad anifeiliaid ac yna mae gennym deithiau maes yn yr ail flwyddyn. Mae un daith faes i Uganda sydd yn canolbwyntio ar brimatoleg, felly edrych ar brimatiaid o wahanol rywogaethau ac mae ymddygiad yn allweddol i hwnnw hefyd. Mae yna hefyd daith faes i Sbaen sydd yn edrych ar ymddygiad ystod eang o rywogaethau bywyd gwyllt.”

“Yn ogystal â hynny, mae gennym fodiwl traethawd hir yn y drydedd flwyddyn a dwi wedi cael myfyrwyr yn casglu data gan biod y môr yn yr Afon Menai, a rhai myfyrwyr hyd yn oed wedi mynd allan i Dde Affrica i astudio eliffantod.”

Ceir mwy o fanylion am gyrsiau Sŵoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid ar wefan yr Ysgol Gwyddorau Naturiol. 

Bydd The Lion King yn cael ei dangos yn Pontio o Ddydd Gwener Gorffennaf 26 tan Ddydd Iau, Awst 8.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019

Site footer