Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Un o raddedigion Prifysgol Bangor yn cyflwyno rhaglenni i Uned Byd Natur y BBC

Yn ddiweddar fe wnaeth Dr Ross Piper, 37, a fu'n astudio Sŵoleg ac Ecoleg Anifeiliaid ym Mhrifysgol Bangor, ddychwelyd o ymweliad chwe wythnos â Burma, lle bu’n gweithio fel cyflwynydd i Uned Byd Natur y BBC.  Caiff y gyfres dair rhan ei darlledu ar Ddydd Gwener, Tachwedd 29ain ar BBC2 am 9pm.  

Mae’r BBC wedi rhyddhau clipiau ar y we yn barod i ddenu gwylwyr.

Mae hefyd newydd gyhoeddi ei lyfr diweddaraf, Animal Earth: The Amazing Diversity of Living Creatures , a ddisgrifiwyd mewn broliant iddo fel “unbiased exploration of animal diversity illustrated with stunning photos.”  

Meddai Ross, sy'n wreiddiol o Redditch ac a raddiodd o Fangor yn 1998:  "Pan oeddwn yn gweithio ar fy llyfr diweddaraf fe gefais rai syniadau am raglen fyd natur, felly cysylltais ag Uned Byd Natur y BBC ym Mryste.  Cefais wahoddiad i fynd yno am sgwrs ac ar y diwedd fe gefais glyweliad ar ffilm. 

"Fe wnaeth cynhyrchydd a oedd wrthi'n cynllunio ymweliad â Burma i ffilmio cyfres fyd natur weld fy nghlyweliad a gofynnodd i mi fod yn un o gyflwynwyr y gyfres - roedd yn wych!  I rywun fel fi, allwn i ddim cael dim byd gwell na chwilio am greaduriaid mewn coedwigoedd trofannol."

Meddai ymhellach am yr amser a dreuliodd yn Burma:  "Roedd yn chwe wythnos galed iawn.  Llawer o waith corfforol - cerdded am filltiroedd efo offer trwm, dringo coed a siarad am oriau bob dydd.  Fe ffilmiwyd tua 300 awr o ddeunydd ar gyfer tair pennod awr yr un, felly nid yw'r rhan fwyaf o'r hyn rydych yn ei wneud yn cael ei ddefnyddio yn y fersiwn derfynol. 

"Mae yna gymaint o waith cynllunio a phethau eraill i’w gwneud unwaith y mae'r camerâu wedi'u diffodd.  Roedd yn goblyn o dasg. Roedd cael pobl i lefydd gwirioneddol ddiarffordd ynddo'i hun yn anodd iawn ac roedd swyddogion llywodraeth Burma'n cadw golwg arnom drwy'r amser i wneud yn siŵr nad oeddem yn crwydro oddi ar y daith a gymeradwywyd i ni.  Mae gen i lawer iawn o barch at y bobl tu ôl i'r llenni sy'n trefnu rhaglenni fel y rhain."

Meddai Ross am ei lyfr:  "Mae anifeiliaid wedi fy nghyfareddu i ers pan alla i gofio.  Pan ydych yn dechrau astudio sŵoleg yn fanwl rydych yn sylweddoli mor rhyfeddol o amrywiol ydi anifeiliaid, nid yn unig o ran eu golwg, ond hefyd yn y ffordd y maen nhw'n byw.  Roeddwn eisiau dangos i bobl mewn ffordd wyddonol a chyfoes, a chyda digonedd o luniau trawiadol, bod anifeiliaid yn llawer mwy na'r stwff rydych yn ei weld ar y teledu.  Mae anifeiliaid yn hardd, rhyfedd a rhyfeddol!"

Ychwanegodd am Fangor:  “Y peth gorau am Fangor oedd bod cymaint o fywyd gwyllt a chynefinoedd amrywiol yn y cyffiniau.  Roedd yna lawer o staff yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol hefyd a oedd yn ysbrydoli ac annog myfyrwyr ifanc."

I gael mwy o wybodaeth am Ross, ewch i'w wefan www.rosspiper.net/

Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2013

Site footer