Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Y darlledwr Miranda Krestovnikoff yn cyflwyno 'A whistle-stop tour around the coast'

Bydd Miranda Krestovnikoff yn ein tywys ar wibdaith o amgylch yr arfordir.Bydd Miranda Krestovnikoff yn ein tywys ar wibdaith o amgylch yr arfordir.Bydd y cyflwynydd teledu Miranda Krestovnikoff yn rhoi ‘A whistle-stop tour around the coast’ mewn darlith gyhoeddus arbennig ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher, 31 Ionawr am 5.30pm yn Ystafell Ddarlithio 5 Pontio.  Mae’r ddarlith am ddim ac mae croeso i bawb, ond mae angen tocynnau.  Gellir archebu'r rhain drwy wefan Pontio neu drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01248 382828.  

Bydd Miranda, sy'n fiolegydd a deifiwr, yn mynd â'r gynulleidfa o amgylch arfordir y Deyrnas Unedig, gan gychwyn o'i chartref ym Mryste.  Bydd yn mynd ar hyd arfordir Cymru, dros y môr i Dde a Gogledd Iwerddon, at yr Ynysoedd Gorllewinol ac arfordir Yr Alban, i lawr arfordir dwyreiniol Lloegr ac yn ôl am adref ar hyd arfordir de a gorllewin Lloegr.  Yn ystod y daith ar wib hon bydd yn sôn am rai o'r straeon gorau mae wedi eu ffilmio i'r gyfres "COAST" a "The One Show" i'r BBC a "Wreck Detectives" i Channel Four.  Bydd yn rhoi golwg tu ôl i'r llenni fel petae ar sut y caiff rhai o'r eitemau eu ffilmio a beth sy'n digwydd pan mae popeth yn mynd yn draed moch!

"Mae'n bleser mawr gennym gynnal y ddarlith yma ar y cyd â Phrifysgol Bangor," meddai'r Athro David Thomas, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru i Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd (NRN-LCEE).  "Mae ymchwil i bynciau'n ymwneud â'r môr a'r arfordir yn ganolog i amryw o'r projectau ymchwil rydym yn eu cyllido, felly mae yna gyswllt amlwg iawn rhwng ein sefydliad a'r ddarlith."

Darlith gyhoeddus Ballard Mathews yw'r achlysur hwn, a gynhelir eleni mewn cydweithrediad â'r Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol i Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd (NRN-LCEE).  I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â public.lectures@bangor.ac.uk. 

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ionawr 2018

Site footer