Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Y sychder gwlypaf a welwyd - tywydd 2012

Dewch draw i Brif Ddarlithfa'r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor ddydd Llun 24 Mehefin 2013 am 6.30pm i gael clywed am "Y sychder gwlypaf a welwyd - tywydd 2012". Mae hon yn ddarlith amserol dros ben o ystyried y cyfarfod diweddar o feteorolegwyr blaenllaw Prydain i drafod y patrymau tywydd anarferol yr ydym wedi profi’n ddiweddar.

Bydd yr Athro Geraint Vaughan, un o arbenigwyr amlycaf y byd yn y maes yn rhoi darlith gyhoeddus- a gafodd ei ohurio yn ystod Gŵyl WyddoniaethPrifysgol Bangor oherwydd tywydd garw! Noddir yr achlysur gan y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol a Chonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru. Mae mynediad am ddim, yn cynnwys gwydraid o win, ac mae'n agored i holl aelodau'r cyhoedd.

Dechreuodd 2012 gyda darogan sychder ac mewn rhai rhannau o Brydain dechreuwyd gwahardd pobl rhag defnyddio pibellau dŵr mor fuan â mis Mawrth.  Dyma'r rhagolygon 3 mis gwreiddiol a gafwyd gan Swyddfa Dywydd y DU: "bydd glawiad arferol yn y DU yn debygol o arwain at amodau ychydig sychach na'r arfer yn ystod Ebrill-Mai-Mehefin yn eu cyfanrwydd, gydag Ebrill y mis sychaf o'r tri o ryw ychydig.  Gyda'r rhagolwg hwn, mae'r sefyllfa gydag adnoddau dŵr yn ne, dwyrain a chanol Lloegr yn debygol o ddirywio ymhellach yn ystod y cyfnod Ebrill-Mai-Mehefin."   Fodd bynnag, y sefyllfa mewn gwirionedd oedd yr Ebrill a'r Mehefin gwlypaf a gofnodwyd ers dechrau cadw cofnodion yn 1910.

Mae'n amlwg bod darogan amrywiadau mewn glawiad o fis i fis gryn amser ymlaen yn parhau'n dasg anodd iawn.  Mae nifer o ffactorau'n dylanwadu ar y system hinsawdd a'n tywydd. Gall gorchudd rhew môr yng Nghefnfor yr Arctig weithredu fel drych yn adlewyrchu gwres yn ôl i'r atmosffer ond, wrth iddo doddi, mae'r cefnfor tywyll yn sugno gwres o belydrau'r haul, gan gynhesu arwyneb y ddaear.  Mae'n ymddangos bod safle'r jetlif - y llif atmosfferig sy'n gyrru ein systemau tywydd gorllewin i ddwyrain mynychaf - wedi bod yn ffactor o bwys tu ôl i'r glawiad uchel a gafwyd y llynedd.  Mae tystiolaeth yn awgrymu bod llwybr arferol y jetlif wedi cael ei atal yn ystod Mawrth ac Ebrill, gan achosi iddo wyro i'r gogledd ac i'r de o'i lwybr dwyreiniol arferol.

Beth yw'r wyddoniaeth sydd y tu ôl i'r glawiad hynod uchel a'r llifogydd enbyd a welwyd yn ystod 2012? Mae’r Athro Vaughan yn frodor o Ogledd Cymru ac yn siaradwr Cymraeg.  Cafodd ei radd BA o Brifysgol Caergrawnt a DPhil o Brifysgol Rhydychen. Dechreuodd Geraint ei yrfa ymchwil yn y Swyddfa Dywydd. Bu'n gweithio i ddechrau ar fesuriadau osôn mesosfferig, ac yna ar fesuriadau cyfnewid stratosffer- troposffer.   Yn 1984 ymunodd ag Adran Ffiseg Prifysgol Cymru Aberystwyth gan symud yn Ionawr 2005 i Brifysgol Manceinion fel Athro Gwyddoniaeth Atmosfferig.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2013

Site footer