Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Ysgolion yn manteisio ar ymweliadau gwyddonol

Cafodd disgyblion o ysgolion yng Ngwynedd a Môn y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwyddonol, sialensiau ac arddangosfeydd mewn ymweliadau i Brifysgol Bangor yn ystod Gŵyl Wyddoniaeth Bangor.

Cynhaliwyd dau ddiwrnod ‘Ecowyddoniaeth’ llwyddiannus yn adeilad Brambell, sy’n gartref i labordai bioleg y Brifysgol yn ogystal â’i hamgueddfa Hanes Anianol.

Bu tua 200 o ddisgyblion o ddeg ysgol yn bresennol dros y ddau ddiwrnod, a chawsant sgyrsiau gan ymchwilwyr blaenllaw a’r cyfle i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau difyr fel echdynnu DNA, adnabod micro fwystfilod mewn pridd, arbrofi ymddygiad plancton, defnyddio Systemau GIS (Global Information Systems) a defnyddio technegau biofeddygol.

Buant hefyd yn archwilio arddangosfeydd niwro-ddelweddu, astudio ymennydd pry ac yn dysgu am yr ‘anifail hynaf ar y ddaear’ cyn diweddu’r diwrnod trwy wylio Sioe Gemeg ‘Fflach -bang” Dr Robin Wheldon-Williams.
Meddai Dr Rosanna Robinson, trefnydd y Diwrnodau Ecowyddoniaeth, “Dyma’r ail flwyddyn i ni gynnal y digwyddiadau yma ac unwaith eto roedd yn llwyddiant ysgubol. Roedd y digwyddiadau’n canolbwyntio ar gynaladwyedd a’r amgylchedd ac roedd yr holl weithgareddau wedi eu cynllunio i gynorthwyo bioleg, cemeg a ffiseg o fewn cwricwlwm wyddoniaeth Cyfnod Allweddol 4.”

Profodd digwyddiad  gwyddonol arall ar gyfer bobl ifanc hefyd yn llwyddiant. Trefnodd Ysgol Gwyddorau Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor a’r Bartneriaeth Ymestyn yn Uwch gyfres o weithgareddau’n ymwneud ac amaethyddiaeth ar Fferm Henfaes y Brifysgol, er mwyn dangos pwysigrwydd amaeth mewn cynhyrchu bwyd a gwarchod yr amgylchedd.
Meddai Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor, “Yn aml nid yw’r sylw a roddir at ffermio yn y cyfryngau’n son am y rôl hanfodol mae’r diwydiant yn ei chwarae mewn cynhyrchu bwyd, amddiffyn yr amgylchedd a chynnal yr economi cefn gwlad.

“Mae amaethyddiaeth nawr yn fwy pwysig nac erioed a gyda’r boblogaeth fydol yn tyfu’n aruthrol a bygythiad Newid Hinsawdd, mi fydd y diwydiant yn chwarae rol allweddol yn datrys rhai o’n problemau fwyaf heriol. Roedd yn wych fod y disgyblion yma wedi gallu dysgu am amaethyddiaeth drwy raglen o weithgareddau amrywiol ac rwy’n gobeithio ein bod wedi eu hysbrydoli i ystyried gyrfa o fewn y diwydiant.”  

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2011

Site footer