Skip to main content Skip to section menu

Forest managers invited to contribute to oak health project

Mae'r arolwg yn rhan o broject ymchwil Future Oak, dan arweiniad Prifysgol Bangor, sy'n ymchwilio i iechyd coed derw yn y DU. Mae ein rhywogaethau coed derw brodorol dan bwysau cynyddol o amrywiaeth o blâu, pathogenau, a newidiadau i'r dirwedd a'r hinsawdd. Mae’r project yn canolbwyntio'n benodol ar Ddirywiad Aciwt Coed Derw a bydd yn archwilio swyddogaeth micro-organebau gyda’r clefyd hwn.

Mae deall barn rheolwyr coedwigoedd yn hanfodol i gynllunio a defnyddio unrhyw ffyrdd i ddatrys problemau mewn iechyd coed. Eglurodd Dr Norman Dandy, prif wyddonydd cymdeithasol y project o Brifysgol Bangor:

“Mae'r arolwg hwn yn rhan o ymdrech sylweddol yn Future Oak i ddeall dimensiynau cymdeithasol, diwylliannol a rheolaeth iechyd coed derw, sydd hefyd yn cynnwys gwaith cynnal cyfweliadau a gweithdai. Heb fewnbwn rheolwyr coedwigoedd, byddwn yn colli arbenigedd a phrofiad sy'n hanfodol i ddeall sut y gallwn amddiffyn ein rhywogaethau coed derw eiconig i'r dyfodol.”

Mae’r arolwg dan arweiniad y Sylva Foundation a chaiff ei gynnal fel rhan o'r gyfres Arolwg Coetiroedd Prydain hirsefydlog sydd ag enw da. Dros y degawd diwethaf, mae'r gyfres Arolwg Coetiroedd Prydain wedi cynhyrchu miloedd lawer o ymatebion gan reolwyr coedwigoedd ar bynciau sy'n amrywio o atyniad grantiau coedwigaeth, i wytnwch coetiroedd y DU.

Mae'r tîm ymchwil yn credu na fydd gennym yr adnoddau digonol i ymdrin â’r heriau y bydd ein coedwigoedd yn eu hwynebu dros y ganrif nesaf heb astudiaeth ofalus. Dim ond trwy ddeall gwyddor ecolegol ymateb coed i blâu, pathogenau a newid yn yr hinsawdd, ynghyd â'r sylfaen wybodaeth reoli a’r arferion cyfredol, y gallwn obeithio gwrthsefyll y bygythiadau hyn ac adeiladu'r gwytnwch sydd ei angen ar ein coetiroedd.

Gall Rheolwyr Coedwigoedd ledled y DU gymryd rhan yn yr arolwg pwysig hwn trwy fynd i: www.sylva.org.uk/bws.

Publication date: 14 June 2021

Site footer