Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Anrhydeddu cyn fyfyriwr Prifysgol Bangor gyda gwobr ddaearyddol

Yr Athro Syr Gordon ConwayYr Athro Syr Gordon ConwayMae’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol wedi dyfarnu Medal Frenhinol i gyn fyfyriwr Prifysgol Bangor am ei waith ym maes datblygu amaethyddol.

Astudiodd yr Athro Syr Gordon Conway am radd mewn sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor ac fe raddiodd ym 1959. Dyfarnwyd Medal y Sylfaenydd iddo, un o ddwy Fedal Frenhinol y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydeinig).

Cymeradwywyd y Medalau Brenhinol gan ei Mawrhydi'r Frenhines, ac maent ymysg yr anrhydedd uchaf o'u bath yn y byd. Maent wedi cael eu cyflwyno ers y 1830au ac mae derbynwyr diweddar yn cynnwys Syr David Attenborough, yr Athro Diana Liverman a’r Arglwydd Stern.

Cyflwynwyd y fedal i’r Athro Conway, cyn-lywydd y gymdeithas, am wella a hyrwyddo datblygiad amaethyddol yn Asia ac Affrica.

Roedd yr Athro Conway yn gyfarwyddwr Agriculture for Impact (A4I), menter eiriolaeth annibynnol sydd â’r nod o wella cymorth gan lywodraeth Ewrop ar gyfer datblygiad amaethyddol cynhyrchiol, cynaliadwy a gwydn yn Affrica is-Sahara, gan ganolbwyntio'n benodol ar anghenion tyddynwyr.

Yr Athro Syr Gordon Conway (ar y dde, yn y cefn) gyda'r Athro Rogers Brambell a'i gyd-fyfyrwyr yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol.Yr Athro Syr Gordon Conway (ar y dde, yn y cefn) gyda'r Athro Rogers Brambell a'i gyd-fyfyrwyr yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol.Ar ôl derbyn y wobr, dywedodd yr Athro Conway: “Mae’n anrhydedd mawr i dderbyn y wobr yma. Mae’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG) yn hanfodol i ddatblygiad ein gwybodaeth ddaearyddol ac rwy’n falch iawn fod fy ngwaith ymchwil wedi cael cydnabyddiaeth."

Ynglŷn â’i amser ym Mangor, dywedodd: "Treuliais dair blynedd hapus a chynhyrchiol iawn ym Mangor. Fe astudiais sŵoleg, botaneg, botaneg amaethyddol a sŵoleg amaethyddol, ac roeddwn yn mwynhau hwylio, dringo yn y mynyddoedd a chymryd rhan mewn dadleuon yn yr Undeb.

"Es ymlaen i dreulio blwyddyn yn astudio gwyddoniaeth amaethyddol yng Nghaergrawnt, yna blwyddyn yn Nhrinidad fel un o'r myfyrwyr cyntaf yng Nghyfadran Amaethyddiaeth Prifysgol India'r Gorllewin. Oddi yno cefais fy lleoli yn Sabah, Gogledd Borneo ym 1961, ac arloesi dull rheoli plâu integredig i gnydau coco, conglfaen mewn amaethyddiaeth gynaliadwy.

"Ers hynny rwyf wedi cael gyrfa amrywiol iawn, gan gynnwys bod yn is-ganghellor Prifysgol Sussex a llywydd y Rockefeller Foundation. Ond drwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi dychwelyd pob tro i’m hyfforddiant mewn diogelwch bwyd ac amaethyddiaeth a ddechreuodd ym Mangor. Heddiw, rwy’n uwch-gynghorwr i'r Malabo Montpellier Panel, sef grŵp o arbenigwyr amaethyddol rhyngwladol sy'n llywio dewisiadau polisi tuag at ddiogelwch bwyd a maeth yn Affrica."

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2017

Site footer