Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Arddangosfa Canser yn Arddangosfa Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol

Fel un o brif noddwyr Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan flaenllaw mewn denu plant ac oedolion i’r sioe. Mae gan y brifysgol amrywiaeth o weithgareddau yn yr arddangosfa drwy’r wythnos - yn ymwneud â phopeth o wyddoniaeth i’r plant lleiaf, gyda’r sioe boblogaidd iawn Fflach Bangor - i faterion iechyd, gan gynnwys ymchwil canser, y bwyd yr ydym yn ei fwyta a sut i wirio ‘arwyddion bywyd' yn ogystal â datgelu ychydig mwy ynghylch sut mae ein hymennydd yn gweithio.  

Ymchwil canser

Mae Sefydliad Ymchwil Canser Gogledd Orllewin Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dod at ei gilydd i drefnu arddangosfa lle bydd gwyddonwyr y brifysgol a staff GIG yn cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil canser, geneteg, diagnosteg, trin ac atal canser Bydd model enfawr o’r coluddyn mawr, digon mawr i bobl gerdded drwyddo, fydd yn dangos gwahanol gamau canser colorefrol.

Dywed Dr Edgar Hartsuiker, Cadeirydd Sefydliad Ymchwil Canser Gogledd Orllewin Bangor: “Mae un rhan o’r arddangosfa, a drefnwyd gan wyddonwyr o’r Sefydliad Ymchwil Canser Gogledd Orllewin Bangor, yn egluro datblygiadau diweddar yn ein dealltwriaeth o achosion canser. Mae ffurfiant canser yn broses sydd â llawer o gamau a all gymryd sawl blwyddyn. Byddwn yn egluro rhai o'r newidiadau hyn, a fydd yn cael eu dangos hefyd yn y model enfawr o'r coluddyn.

Bydd yr arddangosfa canser yn cyflwyno nifer o weithgareddau ymarferol hefyd, gan gynnwys canfod eich DNA, edrych ar eich celloedd trwy ficrosgop, profi effaith ysmygu ar lefelau CO2 yn eich anadl, gwneud breichledi dilyniant DNA, craffu ar eich genom, sganio uwchsain, a llawer o rai eraill.

Gwyddorau Eigion

Bydd Ysgol enwog Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor yn dod â thanciau cyffwrdd i’r arddangosfa o ddydd Llun tan ddydd Mercher fel y gall plant ifanc weld creaduriaid glan môr yn agos, a dysgu ychydig mwy am eu ffordd o fyw.

Seicoleg & Gwyddorau Gofal Iechyd

O ddydd Llun tan ddydd Mercher, mae Ysgol Seicoleg flaenllaw’r brifysgol yn yr Eisteddfod yn cyflwyno rhai gemau a phosau seicoleg difyr ynghyd â thriciau gweledol, fydd yn ein helpu i ddeall sut mae'r ymennydd yn gweithio mewn gwirionedd...

Ddydd Mawrth, bydd Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y brifysgol yn yr arddangosfa, yn cyflwyno gweithgareddau a gemau sy'n ymwneud ag adfywio'r galon a'r ysgyfaint, gwirio arwyddion bywyd a glanweithdra dwylo.

Iechyd a chynaliadwyedd yw themâu’r arddangosfa ddydd Mercher a dydd Iau.  Bydd Sefydliad Adnoddau Naturiol Cymru a Rhwydwaith WISE Prifysgol Bangor yn cyflwyno apiau, gweithgareddau a phosteri fydd yn canolbwyntio ar sut mae ein penderfyniadau o ddydd i ddydd yn effeithio ar bobl eraill, y blaned a ffyniant.
Byd 'ap' newydd ar thema bwyd a’i effaith ar iechyd pobl  yn cael ei lansio ac ar gael am y tro cyntaf. Bydd yn gyfle unigryw i roi cynnig ar rywbeth hollol newydd sydd wedi ei ddatblygu gan y Brifysgol ar y cyd â chwmni technoleg a seicoleg. Nod yr Ap yw annog pobl i newid eu hymddygiad wrth brynu bwyd a’u hannog i brynu bwyd iach.

Sioe Fflach Bangor & Technocamps

Mae dau berfformiad y dydd o’r Sioe Fflach Bang yn yr Arddangosfa Gwyddoniaeth a Thechnoleg, y naill am 1.00 a’r llall am 3.30. O ddydd Sadwrn tan ddydd Mawrth bydd cast rhaglen Stwnsh S4C yn ymuno a thîm Fflach Bangor ar gyfer y sioeau am 3.30.

Mae project Technocamps Prifysgol Bangor, sy'n cyflwyno rhai agweddau cyffrous ar gyfrifiadura megis rhaglennu, roboteg, cryptograffeg ac animeiddio i bobl ifanc 11-19 oed, wedi gweithio gyda’r Eisteddfod a chyda Cwmni Trelars Ifor Williams i roi her gyffrous i ymwelwyr ifanc. Yr her yn y Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg drwy gydol yr wythnos yw rhaglennu robot LEGO i facio trelar bach a ddyluniwyd ac a adeiladwyd yn unswydd gan Gwmni Trelars Ifor Williams.  Bydd trac pwrpasol a nifer o heriau bach i’w cyflawni cyn bacio eich trelar!

Meddai Dr Robyn Wheldon-Williams,  sy’n cydlynu’r Arddangosfa Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac yn Rheolwr Gwaith Ysgolion yng Ngholeg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol Prifysgol Bangor:

“Mae bacio trelar wedi achosi ambell ffrae mewn ceir ar hyd a lled Cymru dros y blynyddoedd, ac ein nod ni eleni yw arbrofi i weld a all robot LEGO wneud y gwaith yn well.”
Y cwestiwn yw nid pwy yw’r gorau am facio ond pwy sy'n gallu rhaglennu'r robot LEGO orau - y bechgyn ta'r merched?  Bydd y gystadleuaeth ymlaen trwy’r wythnos a’r enillydd yn derbyn robot LEGO gwerth £400 i’w hysgol.”

Cyn Bennaeth Ysgol Peirianneg Electroneg Bangor i dderbyn y fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg

Bydd Alwyn R Owens, cyn bennaeth yr Ysgol Peirianneg Electroneg yn derbyn Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Pagoda am 12.30pm Dydd Iau.

Ceir manylion llawn ar wefan yr Eisteddfod: http://www.eisteddfod.org.uk/cymraeg/2013/newyddion-2013/?request=2184

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013

Site footer