Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Cyn fyfyriwr Gwyddorau Biolegol yn ysgrifennu llyfr poblogaidd

Matt LewisMatt LewisHanes dychrynllyd bod ar fwrdd cwch bysgota a suddodd yn nyfroedd yr Antartica a geir gan gyn fyfyriwr Prifysgol Bangor yn ei lyfr poblogaidd, Last Man Off.

Astudiodd Matt Lewis, sy'n wreiddiol o Fryste, yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol a graddiodd gyda gradd BSc (Anrh) Sŵoleg gyda Sŵoleg y Môr yn 1996. Fel un sy'n frwdfrydig iawn am chwaraeon antur, roedd Bangor yn ddelfrydol i Matt ac mae ganddo lawer o atgofion da am ddringo clogwyni hardd Eryri gyda Chymdeithas Mynydda Prifysgol Bangor. Aeth ymlaen wedyn i Brifysgol Aberdeen a chael MSc gyda rhagoriaeth mewn Gwyddorau Môr a Physgodfeydd.

Yn 1998 pan oedd yn 23 oed, dechreuodd Matt ar ei swydd ddelfrydol fel biolegydd morol ar fwrdd y cwch bysgota môr dwfn  Sudur Havid. Cafodd ei gyfareddu gan y mynyddoedd rhew, y morfilod danheddog a'r albatrosiaid gosgeiddig, ond wrth deithio cannoedd o filltiroedd oddi wrth Cape Town tuag at yr Antartig, sylweddolodd Matt yn fuan nad oedd pethau'n iawn.

Nid oedd y Sudur Havid yn addas i fod ar y môr. Sylwodd Matt nad oedd yr offer diogelwch wedi'i osod yn iawn neu nid oedd yno o gwbl, ni chynhaliwyd ymarferion diogelwch ac roedd ganddo amheuon am allu'r capten. Hwyliodd y llong i ganol storm arw oddi ar De Georgia ac yng nghanol y môr mawr torrodd y pympiau a llifodd y dŵr i mewn i'r llong. 

Mae'r llyfr Last Man Off yn adrodd hanes dirdynnol Matt am y dewrder, y ffolineb a'r trasiedi anhygoel a ddigwyddodd allan ar y môr. Gorfodwyd y 38 aelod o'r criw i adael y llong ac arweiniodd Matt y ddihangfa i dri chwch achub lle buont yn brwydro i aros yn fyw ond bu farw 17 ohonynt.

Matt yn dringo yn Sir Benfro gyda Chlwb Mynydda'r Brifysgol.Matt yn dringo yn Sir Benfro gyda Chlwb Mynydda'r Brifysgol.Eglurodd Matt pam y penderfynodd ysgrifennu ei lyfr: "Ar ôl y ddamwain a ddisgrifir yn Last Man Off, dychwelais i'r DU a cheisio bwrw ymlaen gyda fy mywyd, gan esgus mwy neu lai nad oedd dim byd o bwys wedi digwydd. Ni ddechreuais ysgrifennu tan 7 neu 8 mlynedd wedyn. Mae rhai o aelodau eraill y criw a lwyddodd i oroesi wedi marw yn ystod y blynyddoedd a aeth heibio, ac roedd yn fy mhoeni eu bod wedi marw heb neb yn gwybod eu stori.

Mae'r llyfr wedi ennill llawer o ganmoliaeth a derbyniodd  Dystysgrif Rhagoriaeth yn Mountbatten Maritime Awards 2014 am y cyfraniad llenyddol gorau,  roedd yn nawfed ar restr llyfrau poblogaidd y Sunday Times ac fe'i dewiswyd yn llyfr yr wythnos ar Radio 4 ym mis Gorffennaf.

Erbyn hyn mae Matt yn byw yn Swydd Aberdeen gyda'i wraig a dau o blant ac yn gweithio fel awdur a siaradwr.

I gael gwybod lle y gellir prynu Last Man Off, ewch i www.lastmanoff.com 

Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2014

Site footer