Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Galwadau am reolaeth wrth i Lyffantod Asiaidd fynd ati i achosi llanast ym Madagascar

Bydd Llyffantod Asiaidd yn creu anrhefn ym Madagascar: Credyd  a hawlfraint Llun: Dr. Wolfgang WüsterBydd Llyffantod Asiaidd yn creu anrhefn ym Madagascar: Credyd a hawlfraint Llun: Dr. Wolfgang WüsterEr ein bod yn gwybod am y niwed a wnaeth y llyffant cansen an-frodorol i fywyd gwyllt brodorol Awstralia, mae'n ymddangos ein bod ni, fodau dynol, wedi llwyddo i wneud yr un camgymeriad eto.

Oni bai bod mesurau rheoli cyflym yn cael eu rhoi ar waith, mae llyffant an-frodorol yn mynd i achosi llanast ym Madagascar, sy'n gartref i lawer o rywogaethau unigryw nad ydynt i'w cael ond ar yr ynys.

Mae'n ymddangos mai'n ddamweiniol y daeth y Llyffant Asiaidd i'r ynys ond maent eisoes wedi dechrau ymledu'n gyflym gan fygwth y bywyd gwyllt brodorol, nid oherwydd yr hyn maent yn ei fwyta, ond oherwydd bod y gwenwyn sydd yn eu croen yn gwenwyno unrhyw beth sydd yn bwyta'r llyffant.

Mae'r anifeiliaid sy'n bwyta'r llyffant yn Asia, lle mae'n rhywogaeth frodorol, wedi datblygu nifer fechan o fwtaniadau genynnau sy'n eu galluogi i wrthsefyll y gwenwynau hyn.  Gan nad oes gan Fadagascar unrhyw lyffantod brodorol, roedd cadwraethwyr yn rhagdybio na fyddai gan rywogaethau brodorol yr ynys y mwtaniadau hyn i wrthsefyll y gwenwyn, ac y byddai unrhyw anifail a fyddai'n ceisio bwyta Llyffant Asiaidd yn dod i ddiwedd anffodus.

Mae papur yn Current Biology yn cadarnhau ofnau gwaethaf y cadwraethwyr hyn.  Mae tîm rhyngwladol o fiolegwyr o Brifysgol Bangor, Ysgol Meddygaeth Drofannol Lerpwl, Prifysgol Braunschweig ac Amgueddfeydd Byd Natur Munich, Stuttgart a Turin, wedi cadarnhau nad oes gan anifeiliaid brodorol Madagascar y mwtaniadau sydd eu hangen i wrthsefyll y gwenwyn.  Felly, mae unrhyw ysglyfaethwr brodorol o Fadagascar sy'n bwyta llyffant yn debygol o gael ei wenwyno.

Mae’r ysglyfaethwyr cynhenid yn medru dygymod â’r tocsinau yng nghroen y llyffant.: Credyd a hawlfraint llun: Ben MarshallMae’r ysglyfaethwyr cynhenid yn medru dygymod â’r tocsinau yng nghroen y llyffant.: Credyd a hawlfraint llun: Ben MarshallMeddai cyd-awdur y papur, Andolalao Rakotoarison, cyd-gadeirydd Grŵp Arbenigol Amffibiaidd IUCN Madagascar:  "Fe wnaeth dyfodiad y llyffantod Asiaidd a'r effaith y gallant ei chael achosi sioc enbyd i'r gymuned gadwraeth, gan ysgogi'r astudiaeth hon ac eraill i asesu eu heffaith." 

Ychwanegodd yr herpetolegydd, Dr. Wolfgang Wüster, o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor:  "Cafwyd trafodaeth fywiog ar effaith debygol y llyffantod hyn a pha ymdrechion y dylem eu gwneud i'w rheoli neu eu dileu.  Y pryder yw y gall y llyffantod achosi llanast i'r ecosystem gyfan: gall presenoldeb ac ymlediad y llyffantod Asiaidd fygwth llawer o ysglyfaethwyr endemig wrth iddynt gael eu gwenwyno drwy fwyta'r llyffantod, ac yna gall eu prae hwy, megis cnofilod fel llygod mawr, gynyddu mewn nifer.

"Dylai rheoli ymlediad llyffantod Asiaidd yn awr ddod yn flaenoriaeth gadwraeth o bwys a dylai dderbyn adnoddau priodol.  Mae ein darganfyddiadau'n golygu y gall blaenoriaethau ac adnoddau cadwraeth yn awr gael eu pennu ar sail data cadarn yn hytrach na dyfalu."

Meddai Ben Marshall, myfyriwr gradd Meistr o Brifysgol Bangor, a fu'n gweithio ar y project hwn ar gyfer ei radd: 

"Mae hon eto'n enghraifft o'r modd y gall rhywogaethau a ddaw o un rhan o'r byd i ran arall darfu ar ecosystemau naturiol.  Mae'n rhaid i fesurau i atal cyflwyno rhywogaethau estron ymwthiol fod yn brif flaenoriaeth i gadwraeth bioamrywiaeth. Dylai fod yn ystyriaeth allweddol ym maes cludo nwyddau'n rhyngwladol a all arwain, naill ai'n fwriadol neu'n anfwriadol, at ledaenu rhywogaethau estron i fannau lle byddant yn achosi niwed mawr.

Dylai rheolwyr cadwraeth roi ystyriaeth rhag blaen i raglen i reoli poblogaethau llyffantod yn lleol, gan ragdybio ei bod eisoes yn amhosibl eu dileu yn llwyr o Fadagascar. 

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2018

Site footer