Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Gwobr ryngwladol i wyddonydd y gwlyptir o Fangor

Yr Athro Chris Freeman yn derbyn ei anrhydedd diweddaraf.Yr Athro Chris Freeman yn derbyn ei anrhydedd diweddaraf.Mae darlithydd o Brifysgol Bangor wedi ennill gwobr ryngwladol fawr am y gwaith y mae'n ei wneud ar ddeall rhai o gynefinoedd pwysicaf y byd.

Enillodd yr Athro Chris Freeman o Brifysgol Bangor y wobr ar ôl cael enwebiadau gan wyddonwyr ledled y byd, a fu'n ei ganmol fel arweinydd yn ei faes.

Rhoddodd Cymdeithas Gwyddonwyr y Gwlyptir (SWS) Gymrodoriaeth Ryngwladol i'r Athro Freeman mewn digwyddiad arbennig yn Denver, UDA, i gydnabod ei waith arloesol ym maes gwyddor y gwlyptir.

Mae'r Athro Freeman wedi bod yn ymchwilio i'r maes ers dros 20 mlynedd ac mae ei waith wedi cael ei gynnwys yng nghylchgronau gwyddonol gorau'r byd ac ar gloriau papurau newydd cenedlaethol ymhob cwr.

Mae rhai o'i ddarganfyddiadau mwyaf dylanwadol wedi disgrifio sut mae gwlyptiroedd yn storio lot fawr o garbon a allai newid yr hinsawdd a sut mae gofalu amdanynt i helpu diogelu ein dyfodol ni ar y blaned.

Dywedodd Dr Loretta Battaglia o SWS ynglŷn â phwysigrwydd gwaith yr Athro Freeman ym Mhrifysgol Bangor: "Yn sicr ddigon mae Chris Freeman yn un o wyddonwyr penna'r byd ym maes y gwlyptiroedd, a phleser o'r mwyaf oedd rhoddi Cymrodoriaeth Ryngwladol iddo.

"Mae ei waith wedi bod o gymorth mawr i ni ddeall yr hyn sy'n digwydd yn y gwlyptiroedd, a chan eu bod gyda'r cynefinoedd pwysicaf sydd, mae datblygu gwybodaeth yn hanfodol er mwyn i ni allu eu rheoli'n well a'u diogelu at y dyfodol."

Dywedodd yr Athro Freeman, sy'n Gyfarwyddwr ar Grŵp Gwlyptiroedd Bangor, ei fod yn falch iawn o dderbyn y fath anrhydedd: "Mae'n wych cael gwobr o'r fath ac mae'n wych gweld bod ein gwaith ni ym Mhrifysgol Bangor yn cael cymaint o effaith ar wlyptiroedd a chadwraeth ledled y byd.

"Mae gwlyptiroedd yn llefydd cwbl anhygoel - maen nhw'n ganolbwynt ac yn ffocws ar gyfer cymaint o fywyd ar y Ddaear, maen nhw'n gallu glanhau'r dŵr inni, diogelu ein cartrefi a hyd yn oed rheoli'r hinsawdd."

"Yn bendant, nhw yw'r llefydd mwyaf diddorol i'w hastudio ac mae cymaint i'w ddysgu o hyd," ebe yntau.

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig amrywiaeth o raddau a modiwlau sy'n cynnwys peth o'r gwaith y mae'r Athro Freeman yn ei wneud ar wlyptiroedd, ac mae'r Brifysgol yn falch iawn o gynhyrchu gwyddonwyr gwlyptiroedd amlycaf y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2018

Site footer