Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Rhaglen ymchwil £7m i ddarpariaeth dŵr, bwyd ac ynni

Erydiad ar clogwyni morfa heli, gyda defaid yn pori yn y cefnErydiad ar clogwyni morfa heli, gyda defaid yn pori yn y cefnBydd y pum project ymchwil cyntaf i'w hariannu drwy Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd Llywodraeth Cymru, sy'n werth £7 miliwn, yn cael eu cyhoeddi yng Nghaerdydd Heddiw (ddydd Iau, 26 Mawrth).

Bu i'r Athro Julie Williams, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru, gyhoeddi'r pump consortia ymchwil a fydd yn mynd i'r afael â sialensiau mawr darpariaeth dŵr, bwyd ac ynni yn wyneb newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Rhwydwaith, Yr Athro David Thomas: “Nod yr ymchwil yw rhoi hwb mawr i wyddorau yng Nghymru, a chreu buddion gwirioneddol i'r maes cynhyrchu bwyd ac ynni a'r amgylchedd, a fydd yn sail i ddatblygu polisïau’r llywodraeth yn y dyfodol".

Yn y digwyddiad i arddangos y projectau uchelgeisiol hyn yn yr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ym Mae Caerdydd, dywedodd Yr Athro Thomas: “O amddiffynfeydd arfordirol naturiol i ynni di-garbon oddi tan ein traed, nod y projectau hyn fydd dod o hyd i atebion i rai o'r Gosod sensor pwysedd i fesur uchder y tonau, Traeth Coch, Ynys Môn. Gosod sensor pwysedd i fesur uchder y tonau, Traeth Coch, Ynys Môn. sialensiau mwyaf y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol. Bydd pob un o'r pum menter ymchwil a gyhoeddir heddiw yn helpu i roi hwb i allu ymchwil Cymru a chreu manteision economaidd a chymdeithasol tymor hir i Gymru a thu hwnt.”

Meddai’r Athro Thomas: "Nod y projectau hyn yw edrych ar sut yr ydym yn gweithio gyda'n hadnoddau naturiol fel bod sicrwydd ynni, dŵr a bwyd yn parhau, a bod y manteision eraill a ddarperir gan y byd naturiol yn cael eu cynnal hefyd. Bydd y pum project a gyhoeddir heddiw yn gweld gwyddonwyr o wahanol ddisgyblaethau a sefydliadau ledled Cymru a thu hwnt yn cydweithio ar ymchwil sy'n torri tir newydd, sy'n gystadleuol iawn yn ôl safonau rhyngwladol."

Dyma'r pum rhaglen ymchwil a gyhoeddir heddiw:

  • AquaWales: Ymchwil i ffyrdd o gynnal a gwella dyframaeth yn wyneb problemau a achosir gan newid yn yr hinsawdd, wedi'i harwain gan Dr Sonia Consuegra, Prifysgol Abertawe.
  • Planhigion a Phensaernïaeth: Ymchwil i'r rhyngweithio rhwng planhigion ac adeiladau i wella lles pobl, sicrwydd bwyd a lleihau allyriadau carbon, wedi'i harwain gan Yr Athro Iain Donnison, Prifysgol Aberystwyth.
  • Mesur symud carbon deuocsid ar forfa heli nad yw'n cael ei boriMesur symud carbon deuocsid ar forfa heli nad yw'n cael ei boriGeo-Carb-Cymru: Ymchwil i gadw CO2 mewn mwyngloddiau segur ac i ddefnyddio gwres geothermol o'r Ddaear fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy, di-garbon, wedi'i harwain gan Dr Andrew Mitchell, Prifysgol Aberystwyth 

  • Quotient: Ymchwil i wella ynni o'r môr fel ffynhonnell ddibynadwy o bŵer, wedi'i harwain gan Dr Simon Neill, Prifysgol Bangor.
  • Resilcoast: Ymchwil i ddefnyddio morfeydd i warchod ein morlin rhag llifogydd ac erydu, wedi'i harwain gan Dr Martin Skov, Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2015

Site footer