Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Ymchwil myfyrwyr ar ficroblastigau mewn dŵr croyw yn y newyddion

Mae ymchwil a gyflawnwyd gan fyfyrwyr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, ar y cyd â Chyfeillion y Ddaear (Friends of the Earth) wedi ennill sylw’r cyfryngau rhyngwladol.

Comisiynwyd Prifysgol Bangor gan y mudiad amgylcheddol i fesur faint o blastig a microblastig sydd yn afonydd a llynnoedd Prydain, a chafodd eu canfyddiadau eu hadrodd yn y cyfryngau print a darlledu ledled Prydain a thu hwnt.

Esbonia’r Athro Christian Dunn, darlithydd yn Ysgol Gwyddorau Naturiol y Brifysgol a fu’n arwain y gwaith:

“Dyma broject cyffrous rhwng Grŵp Gwlyptiroedd Prifysgol Bangor a Chyfeillion y Ddaear.

“Byddai heb ddigwydd heb ymdrechion nifer o fyfyrwyr ôl radd y Brifysgol.

“Roedd y myfyrwyr yn allweddol wrth gynllunio a chynnal y project cyfan -  cyd ymdrech y tîm oedd o.

“Bu rhai o’r myfyrwyr yn casglu samplau, a bu eraill yn eu dadansoddi, gan hefyd ddatblygu’r modd o wneud hyn.”

“Mae’n dangos pa mor dda yw ein myfyrwyr a’r mathau o brojectau blaengar y mae myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ymwneud â hwy,” ychwanega Dr Dunn.

Bu Luke Frears, sy’n 22 oed ac yn hanu o Belper, Swydd Derby a Jedd Owens  yn dadansoddi’r samplau dŵr i gyd, gan eu hidlo a chyfrif  y gronynnau microblastig ar gyfer yr adroddiad. Dangosasant hefyd ei fod yn bosib defnyddio fflworoleuedd yn effeithiol mewn dadansoddiad microsgop i adnabod y gronynnau gyda’r llygaid.

Astudiodd Luke Luke FrearsLuke Frearsei radd gyntaf a arweiniodd at radd Meistr mewn Sŵoleg Môr ym Mhrifysgol Bangor, ac mae bellach yn astudio ar gyfer gradd Meistr drwy Ymchwil mewn Gwyddorau Biolegol gan arbenigo yng ngwyddor Gwlyptiroedd.

Dywedodd ynghylch y sylw a gafodd eu gwaith ar y cyfryngau:

“Roeddwn wedi fy syfrdanu ac wedi gwirioni, gan ein bod yn ymwybodol y byddai’n hymchwil yn cael ei gyhoeddi a’i ddefnyddio er mwyn ymgyrchu yn erbyn microblastigau, ond doedd dim disgwyl y byddai’n cael ei defnyddio mor fuan â hyn nag ar raddfa mor eang!”

Ychwanega:
“Penderfynais astudio ym Mangor ar ôl bod yn sgwba-blymio o amgylch Ynys Môn gyda fy niweddar Dad Neil, a rhyfeddu wrth harddwch naturiol yr ardal. Bangor  hefyd oedd un o’r ychydig brifysgolion ym Mhrydain i gynnig gradd Meistr mewn Sŵoleg Môr, ac o’r holl ddiwrnodau agored, Bangor a gafodd yr argraff fwyaf arnaf.”

Mae Jedd Godfrey Owens, 23 o Kirkby, Lerpwl yn astudio Gradd Meistr drwy Ymchwil yng Ngwyddor Gwlyptiroedd, ar ôl ennill gradd Meistr mewn Sŵoleg yn y Brifysgol.

Jedd OwensJedd Owens“Roedd yn syndod mawr imi pan ddechreuodd y cyfryngau gylchredeg y newyddion am ein hymchwil, roedd yn deimlad swreal, er mod i’n falch iawn o hynny gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn rhoi sylw i broblem microblastigau os ydym am gychwyn mynd i’r afael a’r canfyddiadau sy’n gymaint o bryder.”

“Mae canlyniadau’r ymchwil yn fater o bryder, a’r awgrym yw bod llygredd y microblastigau’n waeth nag a gredem.  Fodd bynnag, fy ngobaith yw, gyda’n hymchwil parhaus, a hybu ymwybyddiaeth, a meithrin ymdrechion i fynd i’r afael â phroblem y microblastigau, gallwn wella cyflwr ein dyfroedd a gwarchod rhag llygru pellach.“

Esbonia ymhellach: “Rwyf i a Luke yn dal i ymestyn a hybu’r project, gan edrych ar feysydd eraill a datblygu methodoleg i ddechrau profi dulliau eraill o drin llygredd y microblastigau.”

Daeth Jedd i astudio ym Mhrifysgol Bangor drwy ffyrdd anghonfensiynol a dywed:

“Dewisais astudio ym Mangor gan imi glywed cymaint o sôn gan fy nhaid oedd wrth ei fodd â’r lle, ar ôl treulio cyfnod ym Mangor fel faciwî yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Oherwydd hynny penderfynais ddod i Ddiwrnod Agored, ac mi syrthiais innau mewn cariad â’r ddinas wrth gamu o’r trên.”

Dan AlbergDan AlbergBu Dan Aberg, myfyriwr gradd Meistr 22 oed o Normanton, Derby hefyd yn rhan o’r ymchwil. Mae Dan yn gwneud ymchwil ynghylch tynnu cyfansoddion fferyllol o ddŵr gan ddefnyddio gwlyptiroedd a adeiladwyd yn bwrpasol. Ar gyfer yr astudiaeth hon, bu’n casglu samplau dŵr o Gronfa Ddŵr Cefni, Ynys Môn.

Dywedodd Dan: “Mwynheais weithio efo Jedd a Luke  ar eu hymchwil oherwydd mae’r fethodoleg y maent yn ei datblygu i adnabod microblastigau yn addo cael mwy  o effaith ar y Deyrnas Unedig, ac fe allai fynd yn rheidrwydd ar gyfer arolygon ansawdd dŵr.

Ynghylch y sylw yn y cyfryngau, dywed:

“Roedd y ffordd y ffrwydrodd y stori’n anhygoel. Roedd yn wych gweld y sylw yn y  Guardian a’r Independent oherwydd iddo ddangos bod diddordeb yn ein hymchwil a bu’n gymorth i godi ymwybyddiaeth o her y microblastigau.”

Astudiodd Dan ar gyfer gradd BSc mewn Sŵoleg gyda Chadwraeth ym Mangor ac arhosodd yn y Brifysgol ar gyfer ei Radd Meistr oherwydd y berthynas wych sydd ganddo efo’r staff a’i gyd fyfyrwyr yn ogystal ag ansawdd uchel ymchwil y Brifysgol ym maes gwyddorau’r gwlyptiroedd.

Oliver ArmstrongOliver ArmstrongBu Oliver Armstrong, myfyriwr PhD 25 oed o’r Wyddgrug, Sir Fflint yn cynorthwyo’r dadansoddi. Defnyddiodd spectrosgopeg Raman arbenigol, techneg a ddefnyddir i ddisgrifio nano-ronynnau metelaidd, er mwyn mesur pa fathau o ficroblastigau y canfu’r tîm mewn dyfroedd croyw.

Dywedodd:  “Os gallwn ni adnabod y microblastigau, er enghraifft rwber, plastig defnyddwyr, plastig o ddiwydiant ac ati efallai y gallwn olrhain y microblastigau’n ôl i’w tarddiad.”

Bu ym Mangor drwy gydol ei astudiaethau, o’i radd gyntaf mewn Cemeg, MSc mewn  Nanodechnoleg a Microffabrigo yn yr Ysgol Peirianneg Electronig ac yn ôl i Gemeg drachefn.

Dywed: “Rwyf wedi mwynhau agosatrwydd a hwylustra symud o gwmpas Bangor,  a derbyn darlithoedd a chyfleoedd gwych. Mae wedi bod yn braf byw rhwng cesail Eryri a thraethau Ynys Môn hefyd.”

Dyma peth o'r sylw a gafwyd

https://www.theguardian.com/environment/2019/mar/07/microplastic-pollution-revealed-absolutely-everywhere-by-new-research?CMP=twt_gu

https://www.telegraph.co.uk/science/2019/03/07/microplastic-probably-polluting-every-lake-river-britain-warn/

https://www.itv.com/news/2019-03-07/microplastic-pollution-found-in-rivers-lakes-and-wetlands-across-britain/

https://www.iflscience.com/environment/every-river-lake-and-loch-tested-in-a-new-study-contained-microplastics/

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2019

Site footer